Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

proffesiynol

proffesiynol

Ddydd Sadwrn diwetha' fe ddaeth criw o artistiaid proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd i'r Prom yn Aberystwyth i ferfio talpiau o sebon - un o weithgareddau dathlu dengmlwyddiant Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol, Gweled.

Nid bod cyfraniad cerddorol yr Eglwys yn ddisylw gan fod organ a chôr eglwys gadeiriol neu abaty yn sicr o fod yn hyfrydwch i glust pwy bynnag a'u clywai Ond yr oedd crefft y telynor a'r crythor proffesiynol yn dai yn hynod fyw a derbyniol, a pharch mawr yn cael ei ddangos tuag at feistri'r re/ pertoire traddodiadol helaeth a chywrain, sydd bellach wedi llithro bron yn llwyr o'n gafael.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ymledodd y Gymraeg i fod yn gwymhwyster dymunol mewn nifer cynyddol o swyddi proffesiynol, ac yn gymhwyster angenrheidiol mewn rhai meysydd newydd, yn arbennig y cyfryngau a rhai swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Ffacsiwyd ein hymateb at y tri arweinydd Cyngor yn Neuadd y Sir heddiw, ac ynddo mynna Cyd-Gadeirydd y Gymdeithas, Aled Davies, fod adolygiad trylwyr o Bolisi Iaith y Cyngor yn digwydd a noda bod obsesiwn y cyngor gyda rheolwriaeth yn troi pobl ifanc, ynghyd â phobl proffesiynol, i ffwrdd o'r broses ddemocrataidd, gan eu bod yn teimlo na fydd neb yn sylwi ar eu barn.

* Trafodwch gyda chyd-weithwyr sut y gallai lleoliadau gyfoethogi eu gweithgareddau proffesiynol nhw

Integreiddio Polisiau: I lwyddo i greu newid yn yr amgylchedd, mae angen fel arfer integreiddio gweithgareddau ar draws ffiniau strwythurol, proffesiynol a daearyddol.

Yn ôl yr adroddiad, roedd plant i rieni oedd mewn swyddi lled-fedrus neu ddi-fedr dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef ymosodiadau na phlant i rieni proffesiynol.

Cefnogir y gweithredwyr gan yr athronwyr proffesiynol yn aml.

Try'r fentr yn ddiwydiant proffesiynol, rhwng gweithgaredd June yn trefnu archebion dros y ffon gyda chwsmeriaid fel Mr Sainsbury, Dave yn dosbarthu'r cynnyrch gefn nos ar ei fotobeic, a Mona yn teipio'r cyfrifon.

Neu'n syml - beth yw cnewyllyn 'gwybodaeth' i bob athro ail iaith proffesiynol?

I'w gwarchod rhag y perygl hwnnw gofalwyd bod ganddynt eu puteindai eu hunain, a byddai'r puteiniaid proffesiynol a gedwid yn y rheini'n cael archwiliad meddygol yn gyson.

Un broblem arbennig yn codi o'r datblygiad hwn yw'r ymrafael rhwng yr amatur a'r proffesiynol ym maes archaeoleg môr.

Mae Undeb Rygbi'r Alban wedi cadarnhau y byddan nhw, yn eu cyfarfod blynyddol fis nesa, yn trafod creu trydydd tîm proffesiynol yn yr Alban.

Roedd ei diweddar ŵr, Arthur, yn bel-droediwr proffesiynol ym Mangor a dilynodd Philip yng nghamre ei dad.

Ymhlith yr athronwyr proffesiynol y mae rhai sydd wedi rhoi cryn gyfraniad i feddwl cymdeithasol a gwleidyddol.

Mae Sam Hammam wedi rhoi cymaint o arian mewn i'r clwb - a mae bob amser angen arian ar glwb proffesiynol.

Dim ond ar ôl oriau o aros, o obeithio ac o syrffedu y bydd drysau'r cysegr sancteiddiolaf yn agor, ac y daw'r arweinwyr allan i geisio argyhoeddi cynulleidfa o siniciaid proffesiynol fod rhywbeth o dragwyddol bwys wedi ei gyflawni.

O'r holl alwedigaethau proffesiynol y gymhwysaf i'r dosbarth egniol hwn oedd y gyfraith.

Gall y Stiwt fod yn ganolfan y ddrama a cherdd yn yr ochr hon o Sir Clwyd a phwy a wyr na ellir sefydlu cwmni bach proffesiynol o actorion yma a fyddai'n gwasanaethu'r gymdogaeth drwy'r ysgolion a'r neuaddau bach gwledig.

Y dosbarth hwn hefyd, fel y cawn weld, a ddaeth yn brif noddwyr y beirdd proffesiynol Cymraeg.

Prif bwrpas y cwrs yw eich paratoi i fod yn athrawon da a meddylgar a'ch cychwyn ar eich gyrfaoedd proffesiynol ag agweddau cadarnhaol.

Ond os yw'n methu ar y criterion hwn, nid yw'n gwrs proffesiynol.

Mae Ryan Giggs ar restr fer Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol am yr anrhydedd o Chwaraewr Gorau'r Flwyddyn.

Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol trwy Leoliad Athrawon.

Mae'r gyfres yn cyflogi nifer o awduron proffesiynol a phrofiadol i storio a sgriptio.

Ar ben hynny daeth llawer mwy o gopi%wyr proffesiynol ymlaen i gwrdd â'r galw, megis y beirdd Gutun Owain a Lewis Glyn Cothi.

Unwaith eto defnyddiodd ei dechneg glodwiw o osod actorion proffesiynol ochr yn ochr â phobl leol gan ddarganfod stôr o dalent yn ei sgîl.

Deuai milwyr proffesiynol yno i'n haddysgu, a'r rheini'n gofalu bob amser ein bod yn cael ein hymarfer yn galed a thrylwyr.

Mae ymchwilio manwl hefyd yn un o gryfderaur gyfres awdurdodol, uchel ei pharch, Taro Naw, sef y rhaglen materion cyfoes fwyaf poblogaidd ar S4C. Un o'r pynciau trafod oedd athrawon yn cael eu camgyhuddo o gamymddwyn proffesiynol.

ysgrifennu ar gyfer cyrff proffesiynol; iv ymestyn ar yr ysgrifennu ar gyfer plant o wahanol alluoedd, oedran a gallu dwyieithog.

* Drwy ofyn i'ch cyd-gysylltydd datblygiad proffesiynol a all gael rhagor o wybodaeth ar eich rhan efallai.

"Fe ddaru o chwarae rhan bwysig iawn yn fy natblygiad i fel canwr proffesiynol," meddai'r bariton sydd bellach yn fyd- enwog.

Mae lleoliadau athrawon yn ddull cost effeithiol o ddatblygiad proffesiynol sydd wedi'u cynllunio i gyfarfod ag anghenion y cynllun datblygu ysgol a datblygiad gyrfaol yr unigolyn.

Ar ei orau, mae'n gallu rhoi blas mwy real o ddigwyddiadau nag y gall yr un gohebydd tramor proffesiynol ei roi; ar ei waetha', mae'n golygu fod pobl gyffredin yn cael eu trin fel arbenigwyr.

Mae hi bron yn amhosib i lenor proffesiynol sy'n byw ar ei ysgrifbin neu'i brosesydd geiriau ennill ei damaid wrth ysgrifennu yn Gymraeg yn unig, er bod y sianel deledu Gymraeg yn siŵr o fod wedi bod yn gaffaeliad yn hyn o beth.

Yr oedd yn un o'r ychydig ysgolheigion proffesiynol a oedd yn adnabyddus i'r werin-bobl.

Bu cynnydd yn y diwydiant gwasanaethau, mae'r diwydiant electroneg yn gyflogwr o bwys ac mae miloedd mewn swyddi proffesiynol a gweinyddol.

Dylai'r llyfryn hwn wedi'i gwblhau ffurfio rhan o'ch portffolio datblygiad proffesiynol.

Roedden nhw 10 gwaith mwy tebygol o fod wedi cael eu hesgeuluso na phlant rhieni proffesiynol.

Fodd bynnag, efallai y bydd y nofwyr tanddwr yn dehongli'r Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau fel dull o'u hamddifadu hwy o elfen gyffrous i'w hobi ac o greu monopoli i'r proffesiynol (sydd yn broffesiynol yn rhinwedd eu cymwysterau academaidd yn unig a heb fawr o brofiad o waith tanddwr).

Rhaid canmol Cymru am gadwu pennau a gwneud jobyn proffesiynol o waith.

Gan fod cerddi'r beirdd proffesiynol yn cael eu datgan i gyfeiliant telyn neu grwth (mewn dull y collasom ni yn llwyr ei gyfrinach), fe ffurfiai'r beirdd ynghyd â'r telynorion a'r crythorion un dosbarth o wŷr wrth gerdd, a thebyg fod y cyfarwyddiaid - y gwŷr a adroddai'r hen chwedlau - hwythau'n perthyn i'r dosbarth hwn tra parhaent.

Bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch pennaeth, rheolwr atebol neu gydgysylltydd datblygiad proffesiynol.

Beth bynnag oedd barn RT Jenkins fel Methodist ysgrythurgar am y weledigaeth hanes hon, yr oedd, heb os, yn anathema hollol iddo fel hanesydd proffesiynol.

* Datblygiad Proffesiynol

Gwyddai y byddwn yng nghwmni Breiddyn a'r ddau actor proffesiynol, ac nid oedd am gynffonna o gwmpas er mwyn cael eu cyfarfod.

Nid adeiladwyr proffesiynol oedd y rhain, ond pobl o bob math o alwedigaethau a gafodd eu hethol gan eu cydweithwyr.

Aethpwyd ati wedyn i lunio rhestr enghreifftiol o eitemau, a gynrychiolai lefel sylfaenol o fedrau, y byddai ar oedolyn ei hangen ar gyfer bywyd proffesiynol a chymdeithasol mewn cymuned Saesneg.

Cafwyd buddugoliaeth gyffyrddus, perfformiad proffesiynol ac un gôl wefreiddiol.

Ond mae'n rhaid cofio mai bardd proffesiynol oedd Lewis Glyn Cothi, yn ennill ei fywoliaeth trwy ganu cerddi am dâl.

Yn ôl yr FA, mae goblygiadau cytundebol a chyfreithiol dwys yng nglwm â'u statws proffesiynol.

bod gan bobl ag anfantais meddwl yr hawl i dderbyn cymorth ychwanegol gan y gymuned leol a'r gwasanaethau proffesiynol er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu i'w llawn potensial.

Un o'r pynciau trafod oedd athrawon yn cael eu camgyhuddo o gamymddwyn proffesiynol.

Rhaid aros am ychydig gyda'r beirdd proffesiynol.

Roedd y rhan fwyaf o athrawon a gweithwyr benywaidd y coleg yn perfformio yno - perfformiadau proffesiynol iawn yr olwg.

Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.

Bydd cais Clwb y Celtic Manor i gynnal cystadleuaeth Cwpan Golff Ryder 2009 yn cael ei gyflwyno i Gymdeithas y Golffwyr Proffesiynol y bore yma.

Rhaglen oedd hon i'n hatgoffa o flynyddoedd euraidd y gêm o gyfnod pan oedd Billy Meredith yn ffurfio undeb i'r pêl-droedwyr proffesiynol er mwyn sicrhau cyflog teilwng yn hytrach na'r arian hurt sy'n cael ei dalu heddiw i Beckham a'i debyg.

ddefnyddio'r Gymraeg gyda rhieni, llywodraethwyr, cyd-athrawon a chyrff proffesiynol.

Serch hynny ni ddarfu am y beirdd proffesiynol.