Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

proffil

proffil

Casgliad y llyfr yw mai mudiad oedolion ifainc dosbarth canol addysgiedig oedd y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992, proffil sy'n gyffredin i lawer o fudiadau ymgyrchu eraill; yn wir, un o gryfderau'r astudiaeth hon yw'r modd y defnyddir astudiaethau ar fudiadau megis CND a Chyfeillion y Ddaear i oleuo datblygiad y Gymdeithas a'i rhoi hi yn ei chyd-destun fel mudiad pwyso.

Mae priddoedd podsolig yn ffurfio pan fo dwr glaw yn cludo elfennau o'r haenau uchaf i'r haenau is gan greu proffil lle mae'r haenau uchaf wedi eu cannu ac yn asidig.

Cofnodir agweddau ar ddatblygiad y plentyn cyfan mewn proffil sylfaen a all fwydo mewn i Gofnod Cyrhaeddiad Cynradd lle nodir cyrhaeddiad y plentyn mewn perthynas â'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Cwricwlwm Cyflawn.

Yr hyn sy'n drawiadol yw'r gwahaniaeth rhwng y proffil uchel bryd hynny a'r distawrwydd llethol yn awr...

Mae'n rhaid yn arbennig geisio codi proffil yr iaith yn yr ardaloedd hynny lle mae pobl wedi colli hyder yn eu gallu i'w defnyddio.

Er nad ydi proffil cyhoeddus y grwp wedi bod yn amlwg mae'r gwaith yn parhau i gael ei wneud.

Rhagwelir y bydd y Mesur hwn yn codi proffil a statws y Gymraeg.

Mae hyfforddwr Morgannwg, Jeff Hammond, yn gobeithio codi proffil y sir yn y tymor newydd drwy gael mwy o chwaraewyr yn nhîm Lloegr.

Mae proffil oedran Prentis yn wahanol i'r gweddill, oherwydd ei fod wedi'i seilio ar y rheini sy'n dysgu Cymraeg.

Eglurodd Victoria Davies o Benybont-ar-Ogwr - sydd yr orau o ferched tenis Cymru ac yn 460 o ran safon drwy'r byd i gyd - mai'r bwriad oedd codi proffil y gêm a'u proffil hwythau fel chwaraewyr.

Ceir cadarnhad pellach o'r patrwm yma wrth ddadansoddi canrannau darllenwyr Cristion fesul grwpiau oedran unigol: Sylwer yma fod proffil darllenwyr Dan Haul yn gogwyddo tuag at oed iau.