Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

proffwydi

proffwydi

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

Fel y nododd Gruffydd wrth adolygu'r ddrama yn Llenor yr haf hwnnw, ffurf newydd ydoedd na chai'r clod a haeddai er ei bod yn 'ymgais onest i dorri llwybr newydd.' Llwybr ydoedd a wyrai oddi ar gonfensiwn drama'r Gegin Gymreig yn null Beddau'r Proffwydi, o ran plot a hefyd o ran syniadaeth gynhaliol.

Cwestiynau fel 'Gan bwy, wrth bwy, ac o dan ba amgylchiadau y llefarwyd y geiriau a ganlyn - "Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear?" "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" "Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar?" neu - 'Ysgrifennwch nodiadau ar Feibion y Proffwydi, Jehofa Jire, Salome, Cleopas.'

Mae'n fwy na phosibl fod geiriad y salmau hyfryd hyn o dan ddylanwad cenadwri Iesu ei hun ond i fesur y maent yn adlewyrchu mudiad o dduwioldeb gwlatgar wedi ei liwio gan ddyhead y proffwydi gynt am gyfiawnder.

Ar adeg newyn fe orchmynnodd Eliseus i'w was baratoi llond crochan o gawl i'r proffwydi oedd yn ei ofal.

Diddorol hefyd yw cyfeiriad Llywelyn Goch at Hopcyn fel awdurdod ar 'braff[w]awd y proffwydi' o gofio am yr hanesyn am Lyndŵr yn ymgynghori ag ef ynglŷn â'r brudiau (mae'n ddigon posibl fod ganddo gasgliad ohonynt ymhlith ei lawysgrifau).

Ond rheola'r proffwydi yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd ganddynt ar y sylweddau, yn rhunwedd eu gallu i dreiddio i mewn i'r sylwedd a'i amgyffred.

Peidiwn â disgwyl i'r proffwydi i gyd fod mewn hen siwtiau.

Un o weledigaethau mwyaf ysblennydd a phell-gyrhaeddol y proffwydi yw eu gweledigaeth hanes.

Felly y mae hyn yn agwedd ar ofal a thynerwch bugeiliol Duw nas ceir yn gyffredinol ymhlith y proffwydi.