Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

project

project

Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.

Project Armacia Sbaen

Gan fod y cyfan o gostau staff arbenigol ynghlwm wrth gynhyrchu adnoddau arbennig, megis llyfr neu gyfres o lyfrau, disgwylir i'r costau ar gyfer un project penodol gael ei seilio ar natur y cynnyrch (e.e.

Sefydlwyd project eisoes i'r perwyl hwn i ganfod yr anghenion galwedigaethol mewn rhai meysydd penodol ac i gynllunio rhaglen ddatblygol yn y sector addysg bellach is.

Yfory byddai'n rhaid iddo hel y project at ei gilydd.

Gyda dyfodol nifer o'r sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau dan fygythiad, bydd angen i'r cyllid a ddyrennir ar gyfer project gydnabod yr holl gostau sydd ynghlwm wrth ei gyflawni, er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth o adnoddau i'r dyfodol.

Swyddogion Project

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Gyrru rhywun o leiaf fis ymlaen llaw i lywio ac arwain ein peirianwaith marchnata ni yma yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwwyth tuag at werthu project arbennig.

Byddai'n rhaid iddo aros nes i Ab Iorwerth ddod yn ôl cyn datblygu'r ffilm, felly, fedrai o ddim rhoi'r lluniau gwerthfawr o'r gwatih plwm i mewn yn y project.

Tair blynedd yw'r cyfnod hwyaf ar gyfer unrhyw un project.

Dyma'r project darlledu allanol mwyaf uchelgeisiol i'w drefnu erioed, gyda phob rhaglen newyddion a materion cyfoes BBC Radio Wales yn cynhyrchu darllediadau arbennig o ddwy stiwdio symudol yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd.

The Century Speaks oedd project mwyaf uchelgeisiol y flwyddyn, wrth i gynhyrchwyr deithio i bob cwr o Gymru i gasglu tystiolaethau cannoedd o bobl gyffredin o naw mlwydd oed i gant oed.

Penodi swyddog project (dwy flynedd)

Prif gymhwyster swyddog project yw profiad diweddar yn y dosbarth â'r gallu i ddod â syniadau newydd i'r maes.

Dangosir cyfres ddrama deledu newydd ar BBC Un yn yr haf, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, y cyntaf mewn nifer o brojectau y mae disgwyl iddynt ddod o'r 40 project datblygu sydd ar y gweill.

Mae'r Adran o'r farn y dylid creu strwythur cyllido sy'n ei gwneud yn haws iddynt gymharu sawl cais am yr un project, er mwyn dod ag elfen gystadleuol i'r broses.

Fe'i rheolir yn genedlaethol gan Understandig British Industry, sef project o eiddo Sefydliad Addysgol y CBI, sy'n elusen gofrestredig.

Ymysg uchafbwyntiau eraill y flwyddyn cynhaliodd y gerddorfa benwythnos Italia yng Nghaerdydd ac Abertawe, gwyl fechan o fewn project BBC Radio 3, Sounding The Century.

Dylai unrhyw drefniadaeth gyllidol gydnabod mai cyfarwyddwyr y canolfannau, nid swyddogion PDAG na'r Swyddfa Gymreig, yw'r unigolion â'r wybodaeth orau am yr anghenion staffio mewn unrhyw un ganolfan ac mai'r asiantaeth sy'n cynnal project ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau y dulliau mwyaf effeithiol o gyflawni'r tasgau sydd ynghlwm wrth y gwaith cynhyrchu er mwyn cyflawni'r project o fewn y cyfnod cytunedig.

Disgwylir cyflogi swyddog project er mwyn cyflawni project penodol o fewn cyfnod penodol, nid i fod yn swyddog datblygu hir-dymor i'r maes yn gyffredinol.

Mae gan BBC Cymru gynlluniau niferus ac amrywiol yn y maes hwn, ac un project ym 1999 oedd pecyn hyfforddiant Medrau Allweddol i athrawon, darlithwyr a chyflogwyr.

Deunydd athro a disgybl lliw llawn ar sail gwaith ymchwil project SPACE.

O ganlyniad i hyn, yn aml nid oes adnoddau dynol digonol o fewn y canolfannau i gyflawni project mewn cyfnod penodol.

Er mwyn gweld cynnyrch yn ymddangos o fewn cyfnod penodol dylid symud at system ariannu a fydd yn cydnabod yr holl elfennau o bob project yn llawn a hefyd yn cynnig atebolrwydd ariannol effeithiol.

Buddiol yn ein barn ni, felly, yw gwahaniaethu rhwng swyddogion project a staff arbenigol canolog.

Ond mae'n nodi'r diffygion hefyd: "Er mor bwysig yw'r datblygiadau hyn, erys llawer bwlch, yn enwedig o ran yr angen i gael helaethach amrywiaeth o ddeunydd cyfeirio ac adnoddau i gynnal gwaith project a gwaith topig yn y dyniaethau ac mewn gwyddoniaeth".

Ymestyn project y Coleg Normal (a noddir gan Wynedd) i ysgolion uwchradd gweddill Cymru, a'r sector cynradd.

Gwaith grŵp Astudiaeth annibynnol gyda chefnogaeth Gwaith project Gwaith arbrofol Datrys problemau Dysgu yn Gymraeg

Fel arfer, disgwylir i ganolfan benodi swyddog project ar gyfer paratoi adnoddau gwreiddiol yn y Gymraeg.

Pa ganlyniadau rydych chi'n eu gweld i'r lleoliad; deunyddiau, ymweliadau dosbarth, project ar y cyd?

Gan mai natur yr unigolyn a benodir i gyflawni project yw'r prif ffactor mewn llwyddiant y math yma o broject, y mae angen cytuno ar ganllawiau ar gyfer penodi'r personau mwyaf cymwys er sicrhau cysondeb a disgwyliadau cyffredinol ymysg y canolfannau.

Cafodd y sgiliau technegol a fu ynghlwm wrth wireddu'r project hwn - gan gynnwys golygfeydd cyffrous y naid ei hun - ganmoliaeth ar bob lefel.