Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

projectau

projectau

Mae angen sefydlu cysondeb rhwng canolfannau yn yr amodau o ariannu projectau yn arbennig o safbwynt amodau cyhoeddi.

A = Parhad projectau cyfredol

B = Projectau newydd wedi eu hargymell gan Banel Adnabod Anghenion.

Yn yr un modd ag y bu ein hadran ddrama yn gosod sylfeini creadigol cryf ar gyfer y dyfodol trwy fuddsoddi'n helaeth yn natblygiad dawn ysgrifennu, rydym hefyd wedi meithrin talent yn y byd adloniant, gan fuddsoddi'n helaeth mewn projectau comedi newydd ar gyfer radio a theledu ac, ar yr un pryd, yn denu cynulleidfaoedd anferth i berfformwyr cyfarwydd megis Max Boyce, Peter Karrie ac Owen Money.

Disgwylir gweld cyfrifon y gronfa yn cael eu cadw ar wahân i weddill y gwariant ar y projectau.

Penodir swyddogion ar gyfer projectau, felly, nid projectau ar gyfer swyddogion.

Dyrennir cyllid ar gyfer staffio canolog y canolfannau ar wahân i'r cyllid a glustnodir ar gyfer projectau.

Isod crynhoir gwybodaeth am nifer a natur y projectau hynny sydd heb eu cwblhau:

* Cynhwysir swyddogion projectau (gwreiddiol)

Noda'r adroddiad bod gwelliant yn swm ac ansawdd y deunyddiau oherwydd y projectau hyn, cynllun llyfrau'r CBAC a'r Swyddfa Gymreig a gwaith yr Athrawon Bro.

Yn achos y projectau blaenoriaeth, rhoddir amlinelliad bras o'r math o waith y gellid ei gyflawni yn nhermau: a) y broblem i'w hystyried, a b) y camau ymchwil i'w dilyn.

Mae hyn yn ei dro wedi arwain at sefyllfa gwbl anfoddhaol i bawb lle mae hyd at hanner y cynnyrch projectau mewn un flwyddyn ariannol heb gyrraedd yr ysgolion chwe mis wedi diwedd y flwyddyn ariannol honno.

Y mae'r Gweithgor Ymchwil wedi manylu ym mhob categori ar y projectau y dylid rhoi'r brif flaenoriaeth iddynt yn y tymor byr, (gan gydnabod fod oblygiadau tymor byr a hir ynghlwm mewn rhai ohonynt).

Cost llawn projectau = cymorth grant + cyfraniad - incwm y ganolfan

A derbyn mai'r asiant cynhyrchu, yn y pendraw, a ddylai gael penderfynu rhwng cyflogi neu gomisiynu er mwyn cyflawni gwaith, y mae angen rhai canllawiau pellach i egluro'r disgwyliadau o safbwynt cyflogi, yn arbennig yn y tymor byr wrth symud drosodd at ddull newydd o ariannu projectau.

Y mae pryder gan y Pwyllgor yngln â dyfodol y broses adnabod anghenion a blaenoriaethu rhwng y projectau angenrheidiol a ddigwydd trwy waith PDAG.

Mewn rhai achosion nid yw'r gefnogaeth i'r staffio wedi bod yn ddigonol i gyflawni'r projectau o fewn yr amser disgwyliedig.