Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

propaganda

propaganda

Ac yn ail gallwn ddychmygu'r propaganda senoffobig a ddeilliai o du'r wasg adweithiol.

Faint o'r werin hon sydd heddiw yn derbyn 'propaganda' toreithiol y cyfryngau (ac yn hyn o beth mae Radio a BBC Cymru wedi bod ar eu huchelfannau) sydd yn barod i grogi ei harweinydd Arthur Scargill o'r 'Gibbett' agosaf?

Arweinir ni i amau a yw'r nofelydd o ddifri am ­ Harri fod yn offeryn propaganda o blaid y gymdeithas ddi-ddosbarth.

Rhoddodd y beirniaid fwy o sylw i genedlaetholdeb yng ngwaith Ffowc Elis nag i Gomiwnyddiaeth/Marcsiaeth/ Sosialaeth, oherwydd, yn ddiddorol iawn, wrth bleidio'r achos cenedlaethol yn anad yr un achos gwleidyddol arall y beirniedir llenorion am lunio propaganda ar draul creu llenyddiaeth, gan ragdybio fod y ddau yn bethau hollol ar wahân, a bod y naill o reidrwydd yn difetha'r llall.