Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

proses

proses

nid yw'n gallu trafod newid fel proses, ac mae'r syniad o gonsensws sy'n ganolog i'r theori yn ei gwneud yn amhosib trafod grym a gwrthdaro.

Oherwydd mai proses yw, ofer felly yw edrych am nodweddion pendant o'r economi y gellir ceisio eu darganfod yn yr uwch-ffurffiant.

Dywed Dr Geraint Wyn Jones yn ei Iyfr pwysig Agweddau ar Ddysgu Iaith fod tebygrwydd rhwng baban yn dysgu mamiaith a'r proses o ddysgu ail iaith.

Proses ddamweiniol bron oedd hi, ac yn wir, parhaodd Lladin yn ei bri fel cyfrwng mynegiant ochr-yn-ochr a'r cynnydd yn yr ieithoedd brodorol, o leiaf mewn rhai meysydd.

Mae'n debyg, petai modd mesur y Seisnigo, y gwelid mai proses pur gyfyngedig oedd hi mewn gwirionedd, o ystyried y boblogaeth gyfan.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Proses a dderbyniem fel cwrs bywyd ymhen y blynyddoedd, ond nid nawr, ddim ym misoedd cyntaf ein cariad pan ddylem ddal i fod yn llawn o'r rhyfeddod hwnnw a lanwodd y dyddiau oddi ar i ni gwrdd.

Os yw plentyn i gael ei eithrio oddi wrth rhan neu rhannau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae modd gwneud hynny drwy proses penodol o nodi hynny - a nodi'r rhesymau dros yr eithrio - mewn DAA.

Cwyn llawer o rieni am eu Hawdurdod Addysg yn y gorffennol oedd nad oeddent i'w gweld yn cymryd unrhyw ddiddordeb yn eu hysgol nes cychwyn proses o gau'r ysgol.

Ond ar y cyfan nid yw'n nofelwyr hanes yn gweld hanes fel proses, dim ond fel ffynhonnell ar gyfer storiau difyr, gyda'r dieithrwch cyfnod yn ychwanegu rhyw elfen egsotig sy'n ennyn chwilfrydedd.

Y bwriad oedd dryllio'r ddelwedd o newyn fel proses ddemocrataidd sy'n taro pawb fel ei gilydd.

Dewisir rhain gan y Llywodraethwyr yn dilyn proses recriwtio agored.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Yr oeddynt, fodd bynnag, ymhell o fod yn llwm eu byd, fel y dengys eu cartref helaeth sydd bellach wedi'i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn rhywbeth tebyg i'r hyn ydoedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg - proses sydd, gyda llaw, wedi profi fod y ty presennol, yn wir, yn fangre geni a magwraeth William Morgan, (yr oedd amheuaeth o'r blaen a allai fod yn ddigon cynnar).

Proses o ildio, o rannu, yw priodas.

Defnyddir y cyllidebau hyn mewn proses a elwir yn rheolaeth gyllidebol, h.y.

Rhan o'r proses yma, yn anochel braidd, fu datblygu golwg ar yr hen fyd - golwg a fyddai'n amrywio, wrth reswm, yn ôl tueddion a daliadau'r unigolyn.

Felly yr oedd dyfodiad y Gair yn gnawd dynol yn cyhoeddi fod Duw yn ailadrodd proses y creu.

Y mae'r un peth yn wir am Gostau Adrannol ac, yn dibynnu ar natur y gwaith, am Gostau Proses.

Gelwir hyn yn "asesiad"." BYDD Y DEHONGLIAD HWN O ASESIAD, FEL PROSES LLE MAE'R CLIENT YN

Bu drwy 'gyfnewidiad morol', proses o fraenu nad yw'n gadael dim ar ôl o'r llongddrylliad ond pentwr sefydlog a elwir yn 'ffurfiad llongddrylliad'.

Bu proses hir o leihau'r nifer o weithwyr yng Nghanolfan y cwmni yn Llanfihangel ar Arth a nawr mae Hyder yn dwyn pwysau ar ragor o weithwyr i adael.

Bwriada'r cwmni ddatblygu proses newydd o ddatrannu a gwerthu'r cig ar sail profiad llwyddiannus gyda'r twrci.

Felly y mae'n naturiol iddi edrych am gyffelybiaethau rhwng proses gwneud a phroses dadwneud.

O ran y Bwrdd, gwaith y broses o gynllunio corfforaethol fydd hynny: proses esblygol i raddau, ond proses a fydd yn seiliedig ar y strategaeth hon.

Atebir y cwestiwn hwn trwy ddweud mai proses ystadegol yw esblygiad, sy'n dibynnu ar hap a siawns, ar gael cydweithrediad rhwng digwyddiadau annhebygol, ac ar yr angenrheidrwydd i'r rhain ddigwydd mewn trefn neilltuol.

Er mai yn y bymthegfed ganrif a'r unfed ar bymtheg y cyrhaeddodd y proses hwn ei anterth, yr oedd eisoes i'w ganfod ar waith yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Anesthetig lleol, tynnu'r drwg ac adre - proses o ddim mwy na hanner awr.