Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prosiect

prosiect

Yn ddiamau, bydd y cam llwyddiannus hwn ymlaen, yn y broses hir o adeiladu ffordd newydd, yn ail ddechrau'r drafodaeth dros ac yn erbyn y prosiect.

Un o wrthwynebwyr y prosiect yw'r hanesydd lleol Dilwyn Miles a fu'n dadlau'n gryf nad oedd y siwrnai yn adlewyrchu'r sefyllfa yn Oes y Cerrig gyda'r cychod, er enghraifft, yn rhai llawer gwell na'r rhai a fyddai ar gael i adeiladwyr Côr y Cewri.

Rhaid crybwyll elfen nad oedd yn wybyddus i'r cynllunwyr cynnar ond a gafodd ddylanwad mawr ar eu datblygiad maes o law, sef gwaith Prosiect ieithoedd Modem Cyngor Ewrop.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Wedi eu cyflwyno fel 'dwy ferch fach o'r ysgol eisiau help efo prosiect', dychwelodd y wraig at ei gwaith.

Er fod tlodi eithafol ymysg y bobl hyn, cafwyd croeso cynnes, ac o ddiddordeb arbennig i'r Cymry oedd gweld y prosiect dwyieithog ar waith mewn ysgolion.

Bydd cnewyllyn o staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd yn cael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf sylfaenol yn ogystal ag Arolygwyr Cynllun a gweithwyr Prosiect a staff eraill sy'n debygol o fod mewn perygl, e.e.

Safle swyddogol Prosiect Ein Bro 2000 Awdurdod Addysg Gwynedd.

Dyfarnwyd gwaith prosiect disgyblion Dosbarth I yn ail mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Lyfrgell Sir Gwynedd Adran Aberconwy ar gywaith yn ymwneud a'r Esgob William Morgan.

Yn ôl yr hogyn lleiaf acw, sydd at ei fogail mewn prosiect TGAU ar y pwnc, mae siocled yn cynnwys cemeg o'r enw Phenylethylamine sydd yr un ag y mae'r ymennydd yn ei ryddhau yn naturiol pan yda ni'n syrthio mewn cariad.

Mae hefyd yn ffaith galonogol fod y prosiect wedi derbyn nawdd amrywiaeth o gyrff cyhoeddus gan gynnwys HTV a Gwasg Rhydychen, eto yn arwydd pellach o'r ymddiriedaeth yng nghwerth a llwyddiant y gyfres hon.

Mae'r Cyfeiriadur yn defnyddio gwybodaeth gan y Brosiect Gyfeiriadur Agored, prosiect sy'n ceisio creu'r cyfeiriadur mwyaf trwyadl o adnoddau ar y We Fyd-Eang, gyda chymorth llu o wirfoddolwyr.

Davies honiad y Loteri mai cost y prosiect fyddai £345,000, gan fynnu fod y £100,000 sydd wedi ei addo i dalu'r costau i gyd.

Prosiect Bryn y Neuadd: gweler yr adroddiad amgaeedig.

Sefydlwyd prosiect a ariennir gan y Swyddfa Gymreig, y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Awdurdod Iechyd a'r Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teulu.

Penderfynwyd, efallai am mai Awdudrdod Datblygu Cymru oedd un o brif noddwyr y prosiect, hepgor unrhyw drafodaeth ar yr angen am Senedd a gadael hynny i adroddiad arall yn y dyfodol.

Gan mai prif nod y prosiect yn ei gyfanrwydd oedd canolbwyntio ar ddulliau dysgu yn y sefyllfa uwchradd uniaith Gymraeg a dwyieithog, bydd mwyafrif y casgliadau yn ymwneud a lledaenu ymarfer dda yn y dosbarth.

'Eisiau help efo prosiect ysgol rydan ni,' meddai Mair, 'ac mi awgrymodd rhywun y gallai Mr Puw ein helpu.'

mae nofel yn brosiect naratif hir, tra bod stori yn brosiect naratif byr, er mwyn pwysleisio'r hyn sy'n amlwg i bawb ond beth mae hyn yn ei olygu i rywun fel fi, sydd â meddwl gwibiog, sioncyn-y-gwair, yn neidio o'r naill beth i'r llall o hyd, yw yw i'n gallu symud o'r naill brosiect naratif i'r llall yn gyflymach neu'n amlach wrth weithio ar stori%au byrion gan ddechrau prosiect hollol newydd bob tro.

Bydd penodi gweithiwr prosiect i ddatblygu cyfleoedd i wirfoddoli yn sbardun sylweddol i wireddu'n amcanion dan y pennawd yma.

Mae'r Grwp yn cefnogi defnydd cerrig mâl eilaidd am y rhesymau hyn a rhesymau eraill, ac eistedda Arweinydd y Grwp ar grwp llywio prosiect ymchwil o eiddo Adran yr Amgylchedd, ar ddefnydd a defnyddiau amgen ar domennydd gwastraff llechi a'r modd y gellid eu trin.

Gofynnwyd am arian i'r Cyngor Ysgolion i ymgymryd â'r gwaith a sefydlwyd prosiect ymchwil bychan i weld a oedd yna newid agwedd tuag at ddysgu iaith dramor ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau nodau graddedig.

mae'r rheolwr prosiect david james ar secondiad o'r coleg normal bangor.

mae nofel, prosiect naratif estynedig, yn gofyn mwy o ymroddiad.

Mae'r prosiect cyffrous ac arloesol hwn yn dangos sut y gall y dechnoleg newydd ddod â'r gorffennol yn fyw.

dywedodd cadeirydd menter a busnes, emrys evans, ei fod yn argyhoeddedig y gall prosiect cyntaf â ganolfan lenwi bwlch mawr ym mywyd addysgol ac economaidd cymru.

Ymysg y prosiectau a gymeradwywyd gan Bwyllgor Monitro Rhaglen Dyfed,Gwynedd, Powys yw'r prosiect hwn ac felly yn dilyn ystyriaeth bellach yr wyf yn falch o ddweud fod y problemau hyn wedi eu goresgyn ac y bydd yr astudiaeth yn mynd yn ei flaen yn awr.

(Yn yr uned YSGRIFENNU III cyflwynir ffrwyth ymchwil athrawon Awdurdod Avon a oedd yn gysylltiedig a'r Prosiect Ysgrifennu Cenedlaethol.

Felly, pan ddechreuodd papurau gwaith y Prosiect Ieithoedd Modern gylchredeg yng ngwledydd Prydain, nid syndod iddynt gael croeso gan grwpiau o athrawon.

Cen Williams RHAGARWEINIAD (Ar gyfer y Cydgysylltwyr Iaith yn fwy na neb) Prosiect ar gyfer athrawon Gwynedd fu'r PROSIECT DATBLYGU ADDYSG DDWYIEITHOG o'r cychwyn cyntaf.

mae'r argymhellion hyn yn ffrwyth gwaith ymchwil trylwyr a gadarnhaodd yr angen am y fath ganolfan, a'r galw am y gwasanaethau, " meddai mae'r prosiect, sydd wedi ei ariannu am flwyddyn, yn creu dulliau o addasu deunydd dysgu mewn ffurf y gall sawl coleg ei ddefnyddio yn ogystal â datblygu rhwydwaith gynorthwyol i ddarlithwyr.