Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

protestaniaeth

protestaniaeth

Tuedd pleidwyr Protestaniaeth oedd bod yn raddedigion mewn diwinyddiaeth.

Yn ail, yr oedd y llywodraeth yn Llundain yn dibynnu ar yr esgobion i hybu achos Protestaniaeth yn y wlad.

Y coleg hwn oedd un o gadarnleoedd Protestaniaeth yng Nghaergrawnt yn y cyfnod hwnnw, ac yr oedd yno ysgolheigion disglair.

Yr oedd mewn Protestaniaeth gymhelliad cryf iawn i anrhydeddu'r werin byth ar ôl i Martin Luther esbonio arwyddocâd Offeiriadaeth yr Holl Saint.

Yn gyntaf, Protestaniaeth.

Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.