Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

protestio

protestio

Protestio mawr yn erbyn y rhyfel yn Fietnam.

Nid yw protestio yn hen ffasiwn ac yn ddianghenraid heddiw, fel y tystiodd myfyrwyr Indonesia yn ddiweddar.

Mae'n weithredu sy'n golygu protestio, herio'r Drefn ac ennyn llid ambell un.

ANGHARAD: Mae 'na gymaint o angen protestio pan mae 'na anghyfiawnder ag sy' wedi bod erioed.

Gwr sydd wedi ateb dadleuon Dafydd Elis Thomas yn eglur yw'r Dr Dylan Phillips, ac mae'n werth darllen ei bamffled, Pa ddiben protestio bellach.

Bu protestio yng Nghymru a ffurfiwyd mudiad Cylch Dewi, y gr^wp protest cyntaf yn ymwneud â darlledu yng Nghymru.

Roedd Llio wedi anghofio popeth am ei haddewid ond gwyddai nad oedd pwrpas protestio.

Nid wyf yn un o'r rhai hynny sy'n ymatal rhag protestio yn erbyn anghyfiawnder a gormes trwy ddadlau mai dyna sydd i'w ddisgwyl mewn trefn filwrol.

Bu cynadleddau o holl awdurdodau lleol Cymru dan lywyddiaeth Arglwydd Faer Caerdydd yn protestio yn erbyn mesur Lerpwl.

Dwysaodd y protestio yn Eisteddfod Dyffryn Lliw ym 1980.

Daeth cyffro sydyn i'r pebyll; dadwersyllwyd mewn byr amser ac yn syndod o fuan roedd y cwbl wedi ei bacio ar gefnau'r camelod, a rheiny'n protestio yn eu ffordd arferol yn erbyn gorfod codi oddi ar eu pen-liniau.

Protestio am ryfel Fietnam yn parhau.

Ffermwyr yn protestio yn y porthladdoedd.

Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.

Protestwyr gwrth-apartheid yn protestio yn erbyn taith gan dôm rygbi De Affrica yn Abertawe a Twickenham.

Ail ddarlleniad y mesur i roi hunan-lywodraeth i Iwerddon ond bu protestio yn Ulster.

Mae dweud fod protestio yn hen ffasiwn mor ddiystyr â dweud fod rhyfel yn hen ffasiwn.

Llawer ar draws y byd yn protestio yn erbyn y rhyfel.

Protestio yn Nhrawsfynydd yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i brynu tir yn yr ardal.

Protestio ar faes awyr Abertawe rhag defnyddio awyren a logwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru i allforio lloi.

Ond cyn i grwpiau hawliau anifeiliaid ddechrau protestio does dim tebygrwydd rhwng ymladd teirw Fujairah a'r hyn a welir yn Sbaen.

Thema ganolog: Oes y Brotest: cyfnod y protestio mawr yng Nghymru ac ym Mharis, America, a mannau eraill; yr Arwisgo yng Nghymru yn chwalu gobeithion llawer ond yn caledu cenedlaetholdeb, protestio mawr gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod, ond y cyfan yn diweddau mewn siom gyda phleidlais negyddol Cymru yn y Refferendwm ar Ddatganoli ym 1979, ac ymateb T.James Jones yng nghystadleuaeth y Goron.

Un canlyniad oedd gweld nifer o hen ffermdai yn cael eu troi yn dai haf, datblygiad a fyddai'n ennyn protestio yn ddiweddarach.

Hyd at 400,000 yn protestio yn Llundain yn erbyn taflegrau Cruise.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Protestio am ryfel Fietnam yn parhau.

Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.

Fe symudwyd y prawf i Ruthun ar ol protestio hir, ond ni ellir osgoi'r elfen genedlaethol Gymreig sy'n dod i'r amlwg yn hanes y 'Rhyfel'.

Mi fu'r rhieni'n protestio yn agoriad swyddogol yr estyniad gan ddweud mai gwastraff arian oedd adeiladu'r estyniad os na fydd yna athrawes i lenwi'r dosbarth.

Ond dwi'n cofio cyfnod ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oedd y myfyrwyr Cymraeg yn protestio, roedd rhywun yn cyrraedd adre wedi blino'n lân ar ebychiada' harthiog ambell un gwrth Gymraeg yn y lle 'ma.

Ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Betsey, i ffwrdd ag ef ar daith garu ddiflino, bicare/ sg, a fyddai'n darllen fel dychan ar y nofel serch Victoraidd yng Nghymru oni bai am y protestio parhaus fod y cwbl er lles moesol ei gynulleidfa, yn enwedig y rheini a oedd yn tueddu at y fath ymddygiad.

Gweithwyr rheilffyrdd yn protestio fod gormod o yrwyr croenddu yn cael eu cyflogi.