Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prudd

prudd

Y ddau bennill allweddol, gennyf i, yw'r rhai hyn: Mae'n chwerthin eto'n aros ar y ffordd, A'n prudd-der eto 'nghadw ar y rhiw, Ac mae'n distawrwydd o'r naill du dan glo Yng nghoffrau creigiau Arfon heb na siw na miw.

Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.

Ni wn pa bryd y dêl y drydedd gwaith, ond pan ddaw, ar ysgwyddau prudd ei gyfeillion y bydd John.

Nid am ei fod yn ddiniweityn prudd a bregus ei iechyd yr ymserchodd y genedl ynddo.

Ochr yn ochr â'r lluniau o bobl yn mwynhau a dathlu, mae eraill sy'n dystion prudd i'r dinist a'r lladd sy'n rhan o fywyd yng Ngogledd Iwerddon ers chwarter canrif.

'Prudd-chwarae' neu drasiedi yw hi, mewn arddull ramantaidd, a chymeriadau megis Gwrtheyrn a Rhonwen.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.