Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prydeinig

prydeinig

Nid oedd y Rheilffyrdd Prydeinig wedi cysylltu â'r Cyngor hwn ynglŷn â'r mater.

Yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf roedd tri o arweinyddion y prif bleidiau gwleidyddol Prydeinig o dras Cymreig, a'r pedwerydd yn Albanwr.

Sylwais fod cystadleuaeth ymhlith labeli yn anhygoel o gignoeth yn ôl safonau Prydeinig.

(iv)Gofyn i'r Rheilffyrdd Prydeinig ymgynghori â'r Cyngor hwn ynglŷn â dyfodol y Rheilffordd ac ynglŷn ag unrhyw newidiadau i'r amserlen.

Lloyd George yn cael problemau oherwydd y penderfyniad i rannu Iwerddon yn ddwy, ac yn ffurfio'r garfan Heddlu Prydeinig Black and Tans i geisio cadw trefn.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

A oes yna le i gredu, felly, fod polisi%au rheoli galw Keynesaidd wedi ansefydlogi yn hytrach na sefydlogi'r economi Prydeinig yn y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd?

Mae yma gofnod trawiadol o'r modd yr oedd gafael y wasg radicalaidd yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn cael ei gweld fel bygythiad difrifol gan y dosbarth llywodraethol Prydeinig a hynny nid yn lleiaf am mai yn yr iaith Gymraeg yr oedd y wasg honno yn ei mynegi ei hun.

I wyr fel T. E. Owen a Hugh Davies, yr oedd sism yn gyfystyr â thanseilio'r cyfansoddiad Prydeinig.

Cafwyd yr awgrym cynta o pwy fydd yn mynd ar daith y Llewod Prydeinig gyda Graham Henry i Awstralia.

(ii) Gofyn i'r Rheilffyrdd Prydeinig sicrhau i'r dyfodol bod materion cyffelyb yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Cyswllt.

Roedden nhw eisiau i mi ddysgu steiliau newydd a thechnegau modern Prydeinig i'w prif drinwyr gwallt yn Cape Town.

Milwyr Prydeinig yn mynd i Kenya i atal terfysgwyr y Mau Mau.

Milwyr Prydeinig yn dianc o Dunkirk.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

Ni all neb wadu ychwaith nad yw bod yn ddinesydd Prydeinig, o gymharu a bod yn ddinesydd Cymreig, wedi cynnig inni fanteision lu.

Ni chafwyd penderfyniad ynglyn â Chwpan Rygbi Prydeinig yn dilyn cyfarfod o'r undebau neithiwr.

Brwydro rhwng milwyr Prydeinig a'r IRA yn Belfast.

Tan yn ddiweddar, mae wedi bod yn anodd mesur hyn, gan mai yn Saesneg ac i sefydliadau `Prydeinig' y bu'r Cymry Cymraeg yn gweithio.

Prydeinig bellach oedd cenedligrwydd cyfreithiol y Cymry.

Erbyn heddiw, ffurfiant gyfartaledd uchel o'r holl bapurau nedwydd a gyhoeddir yn yr Ynysoedd Prydeinig.

CYFLWYNWYD llythyr y Rheilffyrdd Prydeinig yn rhoddi manylion am y posibilrwydd o gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Mae gwleidyddion Prydeinig wedi arfer â chael 'Hansard' y diwrnod ar ôl y drafodaeth.

Does gan y profiad Prydeinig ddim i'w gynnig ar y mater yma.

(ch)Croesfan Merllyn, Criccieth (Dygwyd yr eitem hon gerbron fel mater o frys ar ardystiad y Cadeirydd oherwydd y derbyniwyd llythyr gan y Rheilffyrdd Prydeinig ar ôl i'r rhaglen gael ei hanfon at yr aelodau a'r brys i ymateb).

Does dim amheuaeth na fyddai Siwsan wedi cael gadael y wlad oni bai bod ganddi basport Prydeinig.

Diflannodd llawer o ddirgelwch gwaith yr alcemegwr ynghyd a'r hud a lledrith a berthynai iddo, pan ganolbwyntiodd Robert Boyle ffisegydd a chemegydd Prydeinig, ar ddatblygu moddion a phils i'r claf.

O dderbyn athrawiaeth llesâd gwlad ei hun a gwledydd eraill, pam, tybed, na allai athronydd mor gwbl eglur ei feddwl â Russell weld posibiliadau patrwm nobl o gydweithredu mewn Conffederasiwn Prydeinig?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr William Hague wedi beirniadu cynlluniau i gynnwys miloedd o filwyr Prydeinig fel rhan o lu ymateb cyflym Ewropeaidd.

(i) Gofyn i bencadlys y Rheilffyrdd Prydeinig a oedd y Rheolwr Rhanbarthol yn ymwybodol o'r bwriadau i gau rhai o'r gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a phaham na chyflwynwyd y mater i ystyriaeth y Pwyllgor Cyswllt.

Dim ond dechrau Tachwedd, ar ôl derbyn llythyr gan y cyfieithydd, y cafodd wybod pam - roedd yr awdurdodau yn ei amau o fod yn ysbi%wr Prydeinig, ac am gyhuddo'r cyfieithydd o crimes against the state.

Nes y ceith plaid Cymru driniaeth deg a chyfartal â'r pleidiau Prydeinig -- yma yng Nghymru o leiaf -- anodd gweld y Blaid yn torri trwodd yn fuan trwy Gymru.

Gorfodaeth ar ddynion Prydeinig dros 20 oed i ymuno â'r Lluoedd Arfog.

Mae gan Mr Thapa basport Prydeinig.

Derbyniodd argae Pergau gymorth oddi wrth Brydain o dan y llwyodraeth Dorïaidd, er gwaetha'r dadleuon am effaith amgylcheddol y cynllun oherwydd fod llywodraeth Malaysia yn prynu arfau Prydeinig.

Felly nid oes unrhyw demtasiwn i gyfreithiwr Prydeinig ddechrau achos, nid am fod yr amddiffynnydd o feddyg wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond yn y gobaith y bydd y cwmni yswiriant yn dewis talu iawndal yn hytrach na wynebu'r draul enfawr o gynnal achos cyfreithiol maith.

Ychwanegodd y byddai'r Rheilffyrdd Prydeinig yn barod i ailystyried y sefyllfa os oedd y Cyngor yn barod i gyfrannu'r gwahaniaeth rhwng y gost a'r incwm a dderbynnid gan y gwasanaeth tren hwn.

(ch)Rheilffordd y Cambrian CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar erthyglau a ymddangosodd yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â bwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau rhai gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.

Ond os yw rhai yn brin o ffydd economaidd, nid ydynt yn ddall i rai o agweddau sylfaenol yr economi Prydeinig yn ystod y blynyddoedd er y rhyfel, ac yn enwedig yn y saithdegau.

Roedd yn glir yn ystod yr etholiad bod yr SNP hyd yn oed wedi cael llawer mwy o sylw ar y BBC Prydeinig nag a gafodd Plaid Cymru.

Teg dweud mai rhwystredigaeth oedd cymhelliad rhai o'r milwyr - chwilio am gyfle i gael blas ar ymladd go iawn cyfle na chafodd y marines Prydeinig yn ystod Rhyfel y Gwlff pan oeddent yng Ngogledd Iwerddon.

(a) Croesfan Rheilffordd Merllyn, Criccieth CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio yr adroddwyd i'r Pwyllgor diwethaf ar fwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Ar ôl yr undeb rhwng Lloegr a'r Alban y datblygodd y syniad Prydeinig y rhoddodd yr Ymerodraeth fri mawr arno.

Casglaf mai'r Rheilffyrdd Prydeinig a'i piau hyd yn hyn.

Wrth i hysbysebion Prydeinig awgrymu 'better...' mae'r hysbysebion yma yn ffyrnig iawn eu condemniad o enw sydd yn yr un talwrn.

Brwydro, lladd ac anafu mewn terfysgoedd enwadol yng Ngogledd Iwerddon a milwyr Prydeinig yn ceisio cadw'r ddwy ochr ar wahân.

Ond er bod ffigyrau diweddar yn dangos fod lefelau cancr y fron, y stu~nog a'r groth yn uwch na'r cyfartaledd Prydeinig mewn rhannau o Wynedd, doedd y tri math yma ddim yn rhan o'r arolwg.

Fel un sydd yn eistedd ar Gyngor Genedlaethol (Prydeinig) Undeb Cwmni Siwrans mae gennyf beth profiad o'r byd Undebol, ac y mae'r darlun a geir yn y papurau dyddiol yn hollol gamarweiniol.

Gwneuthurwr ffilm o Lundain a gafodd Gymrodoriaeth Ffilm Gydwladol Cyngor Ffilm Cymru eleni, ond prin mai i'r diwydiant ffilm Prydeinig y perthyn gwaith arbrofol ac ymosodol Peter Greenaway.

Mae'n well i Nipon a gymerwyd yn garcharor gael ei ladd yn hytrach na dychwelyd i'w wlad." Ar ôl meddwl am foment mentrais innau ateb, "Bydd yna groeso i'r carcharorion Prydeinig i gyd pan ânt adref." Yr oedd yn amlwg oddi wrth ei wedd nad oedd yr ateb hwn yn ei blesio'n fawr.

Gyda'r arian fe lenwid howldiau'r llongau â baco, cotwm, siwgr a rwm a chludo'r rhain yn ôl i Lerpwl a phorthladdoedd Prydeinig eraill.

(ii) Bod y Prif Swyddog Cynllunio i gadw gwyliadwraeth ar y datblygiadau ar groesfan Y Traeth, Porthmadog a'i fod i anfon llythyr at y Rheilffyrdd Prydeinig os na fyddai unrhyw ddatblygiadau yn cymryd lle yn y dyfodol agos.

Amazon.co.uk yw siop lyfrau ar-lein sy'n cynnig dosbarthu pob llyfr Prydeinig yn fyd-eang.

Yr ail nodwedd yw hon: pan fydd incwm yn codi gwell gennym brynu nwyddau tramor na rhai'r wlad yma ac, yn ychwanegol at hyn, mae gwledydd eraill yn llai tueddol i brynu nwyddau Prydeinig.

Yr unig beth a amharodd ar bleser y daith oedd gweld milwr Prydeinig yn neidio allan o'i gerbyd i fonclustio a chicio Eidalwr a fethodd â chilio o'i ffordd mewn pryd.

Mae'r Bwrdd yn ymwybodol fod yn rhaid ystyried datblygiad yr iaith Gymraeg nid yn unig yn y cyd-destun Cymreig, ond hefyd yn y cyd-destun ehangach Prydeinig ac Ewropeaidd.

Roedd y diweddar Raymond Williams, yn fwy na neb, yn ymwybodol o'r tueddiad Prydeinig - a Chymreig, afraid dweud - i osgoi gorfod wynebu cwestiynau dirdynnol ein hoes trwy weu mytholeg briodol o'n cwmpas.

Gwrthwynebiad o fewn fframwaith Prydeinig ydoedd bob amser.

Ond fel yr eglurodd Eurwyn, mae'n bwysig prynu nwyddau Prydeinig.