Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prydeinwyr

prydeinwyr

Yn wir, dywedir fod Prydeinwyr yn cael tua un rhan o dair o'u fitamin C o datws.

Mae'n annheg, yn eu barn hwy, fod gan y Prydeinwyr bedwar cyfle - a ninnau, fel hwythau, yn un cyfundrefn wleidyddol.

Mae tor-calon blynyddol y Prydeinwyr yn Wimbledon wedi dechraun gynnar eleni.

Ers ugeiniau o flynyddoedd ni roes y drefn dreisgar fawr o gyfle iddynt ddatblygu dinasyddiaeth Gymreig; a thrwy eu blynyddoedd yn yr ysgol, ac wedyn yn y byd y tu allan fe'u gorfodwyd gan drais seicolegol gorthrymus i gredu mai Prydeinwyr oeddent yn gyntaf a Chymry yn ail sâl.

Mae'r ansoddau sy'n hoff gan awdur y Pedair Cainc, sef gostyngeiddrwydd, diweirdeb a ffyddlondeb, yn groes i ansoddau'r gymdeithas arwrol y datblygasai'r Prydeinwyr a'r Cymry ohoni ac a ddethlid ganddynt yn eu llenyddiaeth.

Hyd hynny, paganiaid oedd y Prydeinwyr ac yn wir, gan mai ychydig ohonynt a droes at y grefydd newydd, paganiaid a fuont am amser.

'Roedd y rhyfel am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym.