Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prysurdeb

prysurdeb

Bu Dr Gwynfor Evans ei hunan ynghanol y prysurdeb yn ystod yr hanner canrif diwethaf.

Roedd prysurdeb cyffredinol ar y rhelyw o'r cychod drudfawr gydag ambell lanc ar ben y riging yn gosod golau neu erial.

Arafodd prysurdeb y dorf ar unwaith, ac aeth pawb i'r ochr yn frysiog.

Roedd prysurdeb y bore cynta' 'ma yn rhagflas o'r hyn oedd i ddod drwy'r wythnos.

Cychwynnodd tuag at y prysurdeb yn wyllt ond galwyd arno'n ôl.

"Dyma ni wedi dod yr holl ffordd o Gaerdydd er mwyn osgoi prysurdeb dinas, a dyma'r rhain ar ein gwarthaf ni.

Y mae baich y prysurdeb mwyaf yn disgyn ar ysgwyddau golygydd y rhaglen.

Yr oeddan nhw yn priodoli prysurdeb eleni i'r ffaith fod yna fwy o alw nag a fu, y dyddiau hyn, am Nadolig Traddodiadol.

Fedrwch chi ddychmygu prysurdeb y gwaith copr ganrif yn ôl, ger pen pella'r llyn?

PRYSURDEB MAWR Y FAENOL - FFILMIO OPERA SEBON YN ADEILADAU'R FFERM: Os yw un ardal yng Ngwynedd yn denu rhai o brif ser Hollywood yr haf hwn ym mro'r Goriad mae'r stori'n wahanol.

Bydd prysurdeb teneuo'r blodau unflwydd yn ei anterth.

Wrth agosa/ u at y pentref gelli glywed sŵn prysurdeb pobl wrth eu gwaith bob dydd.

Yna, yng nghanol prysurdeb yn ddiweddarach, a sawl ceffyl yn disgwyl eu tro i'w pedoli o flaen yr efail, mor werthfawr i'r gof oedd fod y pedolau wedi eu troi yn barod.

Adeg y gwanwyn rhan fynychaf oedd yr adeg pryd y trefnid y gwaith o 'dynnu'r olwynion', am mai dyma'r pryd y byddai ffermwyr ac eraill yn gweld mor angenrheidiol oedd cael yr olwynion yn barod erbyn prysurdeb y tymhorau a oedd i ddilyn.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Ar derfyn dydd y daw uchafbwynt prysurdeb y rhaglenni newyddion.

Gelwais draw y dydd o'r blaen ac wrth sgwrsio gydag Emyr y fforman a Meic y mecanic, daeth y prysurdeb a fu yn fyw i'm cof.

Er bod y prysurdeb yn tarfu ar eu gwaith, roedd y gwirfoddolwyr o Somalia wrth eu bodd.

Lle gwych i gyflwyno rhaglen radio yw'r 'Rynek' enfawr - digon o gyfle i ddal sain cefndir prysurdeb y farchnad, clip-clop y ceffylau, y bandiau jazz a'r bandiau sipsi sy'n diddanu'r torfeydd bob Sadwrn.