Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

punt

punt

Wedi dod o hyd i'w phwrs, bydda Bigw yn cael gafael ar yr arian ac yn gwthio rhywbeth gwirion fel punt, neu bumpunt weithiau, i'n dwylo.

Trosglwyddwyd hanner can punt i Gronfa Sganiwr Gwynedd.

Daeth chwarelwr if anc go uchel ei gloch i mewn, ac meddai, er mwyn cael tipyn o hwyl ar draul Francis, 'Mae nhw'n deud i mi, Francis, fod pob carreg sydd yn y twr 'na wedi costio punt i Assheton Smith.'

Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.' Atebodd yntau hwy, 'Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.' Meddent wrtho, 'A ydym i fynd i brynu gwerth ugain punt o fara a'i roi iddynt i'w fwyta?' Yr Arglwydd Iesu, yn ôl adroddiad Ioan, a gymerodd y cam cyntaf yn y sefyllfa ddyrys trwy ofyn i Philip: 'Lle y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?' Amcangyfrifodd Philip, y Swyddog Bwyd, debyg, ymhlith y deuddeg, y byddai eisiau o leiaf werth ugain punt o fara i roddi tamaid i bob un.

Bydd tocyn record punt i'r ateb agosaf.

Yn ogystal â'r ugain punt, 'roedd ganddo ddeuddeg swllt a dwy geiniog yn ariandy cynilo'r llythyrdy ac ychydig o bapurau punt yn y tŷ - swm bach eitha' taclus ac ystyried ei sefyllfa.

Un o driciau Ieuan, wrth edrych ar rywbeth syn amlwg yn mynd i gostio rhyw drigain punt, yw dweud yn ddiniwed.

Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.

'Roedd siwgwr yna arfer costio punt y kilo, dyweder, ond rwan mae kilo yn costio can punt!

O fewn dim ond tridiau i gyhoeddir syniad ou dirwyo gan punt yr un yr oedd ganddi saith gan punt yn y gelc.

Meddai gŵr sy'n teithio o Ddinbych i Rhuthun yn unswydd i brynu'i faco: "Mae'n rhatach i mi ddod yma i brynu baco rhydd a gwario punt ar betrol na phrynu sigarets wedi'u pacio." Mae'r dewis yn rhyfeddol a gellir eu cymysgu fel y mynnir.

Y mae gan lai nag un teulu ymhob deg gar, ac ystyried bod teulu yn y dosbarth gweithiol oedd ag incwm o ddeg punt yr wythnos yn gwneud yn dda.

Dyna pryd mae pobl yn draddodiadol yn gwario lot o arian!' Un siom i Ankst yw cyn lleied o gasetiau sy'n cael eu gwerthu mewn dawnsfeydd; mae'n amlwg fod gwario pedair neu bum punt ar gase/ t ar ben tocyn ac arian cwrw yn ormod gan rai.

Dyma i chi enghreifftiau: am droseddau lle na cheir marcio trwydded, deuddeg punt.

Wel mi fyddai'n codi pum punt yr un am fynd â nhw i'r mynydd, ond, fyddan nhw byth yn gweld y 'bobl bach'.

Y prynhawn hwnnw, galwodd yn y London City and Midland Bank yng Nghaergybi i holi a allai rhywun godi'r ugain punt a oedd ganddo yno heb yn wybod iddo.

Ond nid oedd wedi torri pob cysylltiad a'i hen gynefin: roedd ganddo ryw gyfaill neu'i gilydd ymysg is-olygyddion y rhan fwyaf o'r papurau cenedlaethol, a phan ffroenai stori leol y gellid ymestyn rhyw gymaint ar ei diddordeb, ai ar y teliffon i'w hysbysu, a chael punt neu ddwy am ei drafferth.

Ond yn wir, bron iawn nad oedd oeddan nhw wedi anghofio rhoir creision yn y pecyn, roedd ynddo gyn lleied ohonyn nhw, heb sôn am roi ugain punt imi.

Prynais werth pum punt ar hugain.

Y mae Prisiau'r llyfrau hyn i'w pennu a'u gosod gan yr Esgobion a enwyd a'u Holynwyr, neu gan dri ohonynt o leiaf; os bydd i'r Esgobion a enwyd neu eu holynwyr beidio â gwneud y pethau hyn, Yna bydd i bob un ohonynt fforffedu i'w Mawrhydi y Frenhines, ei Hetifeddion a'i Holynwyr, y swm o ddeugain Punt.

CERDDOR IFANC Y FLWYDDYN: Llongyfarchiadau i Delyth Buse ar ennill y drydedd wobr o ddeugain punt yng nghystadleuaeth "Cerddor Ifanc y Flwyddyn, Clwb Rotari, Bangor".

Costiodd ailwneud y gegin dros dri chan punt o'n harian prin, ac i mi, y peth gwaetha oedd y teimlad 'mod i wedi gadael Myrddin i lawr, drwy fod mor esgeulus.

Deg punt!

Ond cyn cychwyn, roedd o wedi tynnu dau gan punt o'i gownt Post a chael hwyl wrth weld Maggie Huws yn codi i'r entrychion.

Rhoddodd ugain punt yn ei boced a'r gweddill yn y bag.

Cawsai ei lle o bryd i'w gilydd yng ngherddi'r prifeirdd, mae'n wir, ond roedd cael ei dyrchafu i gategori'r testunau deugain punt yn brofiad newydd iddi.

Yn ol cyfartaledd roedd y cynnydd mewn pwysau yn werth oddeutu hanner can punt i ffermr wrth werthu'r anifail gorffenedig, hanner can punt fyddai'n aml yn gwneud y gwahaniaeth rhwng elw a cholled.