Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

puteiniaid

puteiniaid

Rhestrir nifer y puteiniaid a'r puteindai yn Lerpwl ac eir ymlaen i ddweud:

Un o'i gorchwylion oedd annog puteiniaid i droi oddi wrth eu ffyrdd drwg ac i fyw i Dduw.

I'w gwarchod rhag y perygl hwnnw gofalwyd bod ganddynt eu puteindai eu hunain, a byddai'r puteiniaid proffesiynol a gedwid yn y rheini'n cael archwiliad meddygol yn gyson.

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

Ar waethaf anlladrwydd y trigolion - yr oeddynt yn ddigon wynebagored yn ei gylch fel y prawf y lluniau yn nhai'r puteiniaid ac yng nghartref y brodyr Vitti, yr oedd y trefwyr yn gosod pwys mawr ar lendid corff ac ar iechyd.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .