Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwerau

pwerau

Rhai o'r pynciau y cafwyd darlithoedd arnynt oedd Cyfundrefn Addysg Cymru, y Llysoedd Barn, Pwerau Cynghorau Lleol, Cyllid Cymru, a Phropaganda'r Blaid.

Enillid aelodau drwy amrywiaeth o argyhoeddiadau megis cred newydd yn Nuw fel Pen-lywodraethwr, neu apêl Cristionogaeth fel rheol foesol ragorach, a gwelai rhai yng Nghrist waredwr i'w rhyddhau o afael pwerau demonig.

Sefydlwyd perthynas dynoliaeth ag adnoddau adnewyddol ac anadnewyddol ein planed, yn bwnc canolog ar lefel ein milltir sgwâr ac ar lefel y pwerau mawrion.

(ii) Adroddiad yr Ysgrifennydd Dosbarth bod y Cyngor wedi bod yn bryderus ynglŷn â'r sefyllfa ers blynyddoedd oherwydd y diffyg pwerau sydd ganddo.

Mae'r Undeb yn credu'n gryf y dylai'r clafr barhau i fod yn glefyd sydd raid ei hysbysu i'r awdurdodau ac y dylai fod pwerau i rwystro symud defaid er mwyn gallu trin diadelloedd sydd wedi eu heintio.

Yn nhyb aelodau'r Blaid, rhyfel rhwng y pwerau mawrion oedd hwn, a chredent fod gan Gymru yr hawl i beidio ag ymladd.

Cafodd y Gwrthbleidiau wahoddiad i ymuno â hi i drafod pwerau'r Cynulliad ar y mater yma.

Gwlad fechan ydoedd wedi ei dal yn ymrafaelion pwerau mawr.

Iddynt hwy yr oedd peryglon rhyfel, - sef y perygl o ddifodiant llwyr, - yn anfeidrol fwy na'r peryglon i'r pwerau mawr.

Dyma'r adeg y bydd pwerau grymus yn Difo oddi wrth Dduw a'r Crist Atgyfodedig trwy nerth yr Ysbryd Glân i mewn i feddwl, enaid a chorff y claf i'w gyfannu.

Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.

Er mwyn sicrhau fod lwc yn eu dilyn, bydd llawer tîm yn cael plentyn bach i fod yn fascot iddynt - adlewyrchiad hwyrach o'r adeg honno pan oedd aberthu plant i blesio'r pwerau tywyll yn beth cyffredin.

Druan ohono!' 'Rwy i wedi clywed pobl yn sôn bod pwerau drwg ar led.