Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwrpasol

pwrpasol

Pwrpasol am ei bod yn delio a phroblem holl-bresennol diweithdra mewn cyd-destun cwbl Gymreig.

Dyma'r adeg, felly, i geisio atal crach drwy eu chwistrellu â deunydd cemegol pwrpasol.

Ni fyddai'n bosib cynhyrchu cynifer o deitlau yn flynyddol heb asiantaethau gyda staff llawn amser â'r arbennigedd pwrpasol.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Anerchiad bur, pwrpasol gan seren cyfres sebon.

Hanner awr o daith mewn bws 'Crosville' unllawr, hen ffasiwn, a'r conductor yn dosbarthu tocynnau unigol o flwch pren pwrpasol.

Gellirt cofnodi cynnyrch llaeth gyda jariau pwrpasol yn y parlwr godro a phwyso gwartheg a defaid gyda chloriannau.

Anodd meddwl am lun mwy pwrpasol ac iach i'w dangos ar y pryd.

Er mwyn pwysleisio mai ymgyrch weithredol oedd hon dyma blastro'r blychau ffôn a basiem gyda phosteri pwrpasol.

Yn achos Ail Iaith Cynradd yr oedd pob cydlynydd wedi cynnig hyfforddiant i weddill yr adran ar greu unedau dysgu pwrpasol.

'Ar hyn o bryd bydd y gwasanaeth yn dal i orfod cael ei gynnal o'n canolfannau galw pwrpasol sydd i gyd ysywaeth yn Lloegr.

Mae'n bwysig hefyd sicrhau fod meddalwedd pwrpasol yn parhau i gael ei ddatblygu ar gyfer y Gymraeg er mwyn hwyluso'r cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith wrth gynnal busnes ac wrth hamddena.

Erbyn hyn mae lle pwrpasol y tu allan i'r garafan yn y rhai diweddaraf i gadw'r batri.

Os nad oes tanciau dwr parhaol ar fwrdd eich carafan (a dim ond yn y rhai mwyaf a drutaf y mae'r rheini), yna bydd raid i chi ymuno a gweddill y werin i gario'ch dwr iddi, a chario'r dwr wast yn ol i'r draen pwrpasol.

Y bennod nesaf, 'Lledu Gorwelion Ysgolheictod ...' , a'r bennod ar ei hôl yw'r ddwy feithaf yn y llyfr, yn ymestyn dros ddau draean ei hyd ac yn llawn o ddeiagramau a mapiau a lluniau pwrpasol.

Llongau bach piau hi heddiw, a'r rheini'n mynd ar negeseuon pwrpasol i'n cyfnod.

Nod BBC Cymru yw bod yn ddarparwr effeithiol o adnoddau addysgol pwrpasol i bawb sy'n dymuno dysgu, yng Nghymru a thu hwnt.

Gwahoddwyd Daniel Huws, ein prif awdurdod ar lawysgrifau'r oesoedd canol, i baratoi disgrifadau o'r llawysgrifau pwysicaf sy'n cynnwys y testun, a Ceridwen Lloyd-Morgan i ysgrifennu rhagymadrodd pwrpasol ar sail ei gwybodaeth arbenigol am berthynas y testunau Cymraeg â'r gwreiddiol Ffrangeg; mae canfyddiadau'r ddau yn ddadlennol a diddorol.

Penodwyd pwyllgor i chwilio am gerrig a chafwyd rhai pwrpasol yn Nant y Felin a Chae yr Hendy ar dir Hafodymaidd a'r cornelau yng Nghraig Iwrchen.

Mae angen i'r athrawon nad ydynt yn gwneud hynny eisoes yn eu dysgu, ystyried rhoi mwy o le i sefyllfaoedd plentyn ganolog sy'n cynnwys gwaith llafar pwrpasol mewn grwpiau bychain.

* bod digon o ymglymiad gweithgar neu brysurdeb pwrpasol i'r plentyn a bod profiadau uniongyrchol a pherthnasol iddo/ i mewn amgylchedd sy'n gyforiog bosibiliadau.

Os oes raid, gellir eu difa trwy chwistrellu deunydd cemegol pwrpasol arnynt.

Mi goda i gwt pwrpasol iddo fo, A meddylia mor handi fydd o i fwyta sbarion yr hen blantos.

Gall hon gnoi a thorri drwy styllod llidiardau, trwy lwyni mewn gwrychoedd a thrwy netin cryf yn union fel pe defnyddid siswrn pwrpasol at y gwaith.

Byddai ymarferion pwrpasol ar ddiwedd pob pennod wedi bod yn gaffaeliad pellach - edrychaf ymlaen at weld cyhoeddi Llawlyfr yr Athro sy'n cyd-fynd â'r gyfres.

JFelly o ganol Hydref ymlaen byddaf yn rhoi'r gêr plu o'r neilltu ac yn gafael yn y wialen "drotio%, y rîl rydd (centre pin) bocs o fflôts pwrpasol, bocs o bwysau (heb blwm ynddynt cofiwch)...

Awgrymai hwn y dylai pob ysgol gau os byddai llai na hanner cant o blant a thri athro ynddi, ac y dylai'r plant gael-eu gyrru i 'ysgolion ardal' pwrpasol.

Mae sawl ffordd o ddatrys y broblem drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol o raglennu cyfrifiadur, ac mae rhaglenni pwrpasol i'w cael ar y farchnad i wneud yn union hynny.

Eto, dylid ei daenu hefo peiriant pwrpasol.

I'r sawl sy'n gaeth i'w tai, darperir gwasanaeth pwrpasol ar eu cyfer hwythau hefyd, gydag ymweliad misol i'w cartref gan staff arbenigol.

Gan fod eisiau ffyrdd roedd yn rhaid cael dynion pwrpasol at y gwaith o'u gosod, a dyna'r platelayer yn dod i fri yn y chwarel.