Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwys

pwys

Yr oedd honno tua chwe throedfedd o hyd, a phwysai tua dau gan pwys, a phan ddefnyddid yr allwedd fawr byddai wyth o wŷr y felin yn ei thrafod gyda'i gilydd.

Ac eto, er holl ddatblygiadau cymdeithasegol a thechnolegol ein hoes ni, ac er y cynnydd ymddangosiadol yn ein haddysg, rhoddir pwys o hyd ar lawer iawn o hen goelion gwerin ein hynafiaid a chaiff eraill eu haddasu a'u creu o'r newydd.

Nid un pwys neu ddau yw pwysau a maint pob llysywen.

Rhaid oedd berwi'r dŵr nes ei fod wedi anweddu i hanner ei faint gwreiddiol, yna rhoddid pwys o fêl i bob dwy alwyn o'r hylif a'i adael i fragu.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Bu'r datblygiadau hyn oll ynghlwm wrth gyfnewidiad gwleidyddol o'r pwys mwyaf yn hanes Ewrop, sef, twf gwladwriaethau newydd.

Llacio'r cwlwm teuluaidd a wnâi mabwysiadu, ac felly nid oedd le iddo mewn cymdeithas nomadig; tynhau'r cwlwm yr oedd yr arfer gyda phriodi, ac felly rhoddid pwys mawr arno.

O'u deall fel ymdrech gan Peate i gymathu Murry a'r traddodiad y ganed ef iddo, maent o'r pwys mwyaf.

Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Cymeradwya y ddau Edwards roddi'r halen-chwerw Epsom hefyd pan fo annwyd ar y fuwch, ond fe gynyddid y dôs i un pwys!

ar y ffordd yn ôl i'r arosfan bws prynodd debra hanner pwys o rawnwin mewn siop yn y stryd fawr.

Wedi'r cwbl, mae tipyn o wahaniaeth rhwng platen pum pwys ar hugain a phlaten hanner can pwys.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.

Y bore hynny, roedd o'r pwys mwyaf pa un ai bachgen neu ferch alwai gyntaf yn y tū.

Os yw Shakespeare o'r pwys mwyaf i blentyn o Sais, a yw Goronwy Owen yn llai pwysig i Gymro?

Ond ar ôl dweud hynny, 'roedd yna sail synhwyrol i'w cyfarwyddyd nesaf: Cymerwch Nitre a Cream of Tartar, dwy owns o bob un: Epsom Salts, hanner pwys.

Oedd, roedd yn bum pwys os oedd o'n owns!

O safbwynt Llundain, felly, yr oedd o'r pwys mwyaf fod awdurdod yr esgob yn cael ei barchu.

Yn wir, yr hyn y byddwn yn rhoi pwys arno fyddai:-i) A oes gwir edifeirwch am yr hyn a ddigwyddodd, ac a oes yna ddealltwriaeth o'r hyn aeth o'i le?

Wrth fy nhraed roedd chwe llysywen rhwng pwys a deubwys!

Wedi'r cwbl, y mae osgo'r dychanydd a myfyrdod y sylwebydd yn elfennau o'r pwys mwyaf yn ei nofelau.

Os yw'r Saesneg o'r pwys mwyaf i blentyn sy'n cael ei fagu yn Lloegr, pam nad yw'r Gymraeg o'r pwys mwyaf i blentyn sy'n cael ei fagu yng Nghymru?

Ymhlith y rheini yr oedd eiddgarwch dros y gwirionedd - ac y mae mater o'r pwys mwyaf yn cael ei drafod yma.

Soniai wedyn am yr hwyl yn y gegin gydag eraill o'r gweithwyr lle'r oedd pob un un cael hanner pwys o fenyn yn ddogn am yr wythnos yn ei lestr menyn.

Pump pwys?

Ar waethaf anlladrwydd y trigolion - yr oeddynt yn ddigon wynebagored yn ei gylch fel y prawf y lluniau yn nhai'r puteiniaid ac yng nghartref y brodyr Vitti, yr oedd y trefwyr yn gosod pwys mawr ar lendid corff ac ar iechyd.

Yr wyf yn rhoi pwys mawr ar yr hyn a ddigwydd ym Mhwllheli; fe fydd awdurdod cenedl wedyn y tu ôl i bopeth a wnawn.

Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'

Dyna pam y gwnaed yr awdur, JK Rowling, yn aelod er anrhydedd o'r BWMA - British Weights and Measures Associaction - cymdeithas sydd a'i bryd ar ddiogelu'r peint a'r chwart a'r pwys a'r owns.

'Ca'l pwys gloesi 'nath o 'te.' 'Y?' 'Doedd o cyn iachad â'r gneuan, medda hi, pan oedd o'n cychwyn o India'r Gorllewin, serch bod y Ffrancod 'di sincio'i gwch o.

Bellach nid yw'r mudiad yn rhoddi cymaint pwys ar y gweithgaredd pwysig yma, neu i fod yn gywirach, y mae'r awenau wedi symud o'n dwylo.

(Wir yr rwan mae siarad fel hyn yn codi cywilydd arnaf, yn codi pwys arnaf.