Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwysicach

pwysicach

Roedd pethau llawer pwysicach i'w gwneud yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig na siarad â hen ddyn unig.

Gwaith amser mwy rhydd o ddyletswyddau pwysicach garddio fyddai hyn, dyddiau di-wlawio diwedd hydref neu aeaf fel rheol.

Y fi fel stiwdant hannar pan yn crwydro'r ddinas 'na ac Iwan Roberts yn curo ar ddrysa pwysicach o lawer'.

Ond pwysicach fu'r cyfle i sgwrsio gyda phobol wedi'r cyngerdd.

Yr hyn oedd yn llawer pwysicach oedd fod pump o'r wyth gêm hynny yn geme rowndie rhagbrofol Cwpan y Byd ac i Gymru fod wedi ennill pedair o'r rheini heb ildio cymaint ag un gôl.

Pan oedd yn ddeg oed ac yntau'n gwneud yn well ac yn well gyda'i wersi piano, dywedodd ei fam, a oedd yn athrawes gynradd, wrtho ei bod yn bryd iddo roi'r gore i gerddoriaeth a dechrau canolbwyntio "ar bethau pwysicach".

Ond roedd pethau pwysicach ar feddwl Jabas.

Ac y mae yna bethau pwysicach na phris." Chwarddodd Jenkins.

Mewn byd lle 'rydym yn dod i ddibynnu fwy-fwy ar ein gilydd y mae astudio problemau'r newynog, sy'n cynnwys hanner poblogaeth y byd, yn dod yn bwnc pwysicach o hyd.

Ond pwysicach na hynny oll, roedd ganddi hi, fel yntau, ei nwydau; merch ei thad oedd, a thuedd ei nwyd hi oedd dianc rhag disgyblaeth.

Pwysicach fyth yw'r dôn newydd o awgrymusedd.

Mae yna bethau pwysicach na lefel A.

Pwysicach na hynny yw ei bod yn rhoi darlun gwerthfawr iawn inni o esgob yng Nghymru ac o'r gymdeithas yr oedd yn rhan ohoni.

Y "pethau pwysicach" oedd anelu at fod yn feddyg neu yn gyfreithiwr.

Ond pwysicach na'i arddull na'i ffydd yn y werin oedd naws neu dymer ei ysgrifeniadau.