Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwyso

pwyso

Bydd y neges yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmniau ffôn symudol.

Bu pwyso mawr arnaf i'w gadael ym Mangor, ond parhâu ar fy siwrnai'n dalog a'r cyfrolau dan fy mraich a wneuthum.

Eto byddai'n pwyso'n wahanol hanner ffordd i fyny'r Wyddfa, ac yn pwyso dim yn y gwagle.

'Tydi'r ystol yn y ty gwair, yn pwyso'n erbyn y gowlas, 'run lle ag y bydd hi bob amsar.' 'Ond, Miss Willias.' 'Ewch i' 'nôl hi, Norman.

Casgliad y llyfr yw mai mudiad oedolion ifainc dosbarth canol addysgiedig oedd y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992, proffil sy'n gyffredin i lawer o fudiadau ymgyrchu eraill; yn wir, un o gryfderau'r astudiaeth hon yw'r modd y defnyddir astudiaethau ar fudiadau megis CND a Chyfeillion y Ddaear i oleuo datblygiad y Gymdeithas a'i rhoi hi yn ei chyd-destun fel mudiad pwyso.

Doedd dim angen i neb ddweud gair, dim ond pwyso un o'r ddau fotwm ar y ddesg o'u blaenau.

Roedd traed Miss Aster yn camu'n drwm wrth fy ochr (roedd ei sgidiau bob amser yn pwyso braidd i'r ochr dde) a syllai yn ei blaen, mewn distawrwydd, fel peilot â'i holl feddwl ar lywio'i long.

"Wnaiff didoli'r papura ddim para am byth,' ychwanegodd hithau gan deimlo'i hawgrym yn pwyso'n dunelli ar y stafell.

Roedd hefyd wedi cynnig mwy o arian iddi ac, wedi pwyso a mesur, cytunodd Vera i roi cynnig o fis arni.

Mae'r ieir yn fwy o ran maint na'r ceiliogod, a phan ddaw eu tro i wisgo eu côt arian i ddychwelyd i'r môr, byddant yn pwyso ychydig dros bwys.

Mewn arolwg diweddar a wnaed o'r pwnc cododd Martin a Flemming y cwestiwn 'A yw eu darganfyddiadau yn rhoi hawl gwirioneddol i archaeolegwyr tanfor eu galw eu hunain yn archaeolegwyr?' Er mwyn ateb y sialens hon yn effeithiol rhaid pwyso a mesur y dulliau a ddefnyddir heddiw mewn archaeoleg môr yn ôl y meini prawf a dderbynnir gan archaeolegwyr modern, a hefyd yn

O ystyried y nofel fel cyfanwaith y mae'r dystiolaeth yn pwyso'n drwm o blaid safbwynt John Gwilym Jones.

Mae'n werth bwrw golwg tros y pethau a fyddai'n pwyso ar wynt yr Ysgrifennydd newydd yn y blynyddoedd nesaf.

Ar hyn o bryd mae is-bwyllgor o'r FAW yn pwyso a mesur y cynigion.

Mi fuasai Gruff ddiniwad yn troi yn i wely tasa fo'n sylweddoli hanner y petha rydw i'n gorfod eu darllen, i ddim ond dallt chwartar sgwrs yr hogan fach yna sy'n pwyso'r botyma ar wynab Mamon yn Kwiks.

Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben.

Mae Cymdeithas yr Iaith felly yn pwyso am gyfarfod gyda Meryl Gravell ar Chwefror 21 i glywed y canlyniad.

Bydd y Gymdeithas yn pwyso nes ennill y frwydr hon — er mwyn pentrefi Cymru.

Bu'r cwestiynau hynny'n pwyso'n drwm arnaf wrth imi ddal i gnoi.

Torrodd y gangen y buont yn pwyso arni gyda chlec uchel.

Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.

Er mwyn hybu democratiaeth gynrychioladol rhaid i'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o gynnal deialog real a pharhaus gyda mudiadau pwyso sydd am lobio aelodau'r Cynulliad a gyda'r sector gwirfoddol.

Efallai eich bod chi dan yr argraff eich bod yn aelod o fudiad pwyso oedd yn defnyddio dulliau o weithredu uniongyrchol di-drais.

Os byddwch yn pwyso DELETE (neu BACKSPACE) bydd y testun yn symud yn ôl i fyny un llinell (oherwydd eich bod wedi dileu y gorchymyn RETURN).

Byddwn yn pwyso am gamau i ddatblygu addysg Gymraeg a chynnal cymunedau Cymraeg.

Yr oedd cyflwr gresynus tlodion Llanfaches yn pwyso ar gydwybod y gweinidogion.

Bu Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar gynghorau ac ar gynghorwyr Sir a Dosbarth, yn arbennig yng Nghlwyd, i ddangos eu ewyllys da i'r iaith Gymraeg trwy weithredu yn y modd yma.

Bu'r Gweriniaethwyr yn pwyso am gyhoeddi canlyniad unwaith y byddai'r pleidleisiau post wedi'u cyfri.

Awtomeiddir y diwydiant gyda'r ford mesur-a-pwyso a'r llinell gynhyrchu: 'Rhagor o fasgedi - row G', Dros nos gwelwn Tref yn magu asgwrn cefn a balchder personol yn ogystal a digywileidd-dra wrth dynnu sylw hafing y warden traffig (awdurdod) oddi wrth y lori gludo!

Ond dyma'r eira'n dechrau dod yn blu bach yma ac acw ac ymhen rhyw awr brasaodd a bu rhaid gadael tân braf a llyfr blasus a'r boliaid cinio'n pwyso'n drwm.

Mae'r cwmnïau mawr yn pwyso ar y llywodraeth yn llawer cryfach na'r ffermwyr sy'n diodde.

Roedd o wastad yn pwyso ac yn mesur pob dywediad o eiddo neb.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol.

Mae cymaint o bosibiliadau cyffrous newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg, cyfathrebu a sgiliau newydd i gymunedau lleol - rydym wedi bod yn pwyso ar yr Ysgrifennydd Addysg tan 16 oed i lunio strategaeth gadarnhaol newydd i ddatblygu ysgolion gwledig.

"Mater i'r Bwrdd Taith, i'r Awdurdod Cwricwlwm ac Asesu, i'r awdurdodau addysg lleol ac i bob ysgol unigol yw pwyso am gael digon o arian i hwyluso'r symud o ddulliau gweithio uniaith Saesneg i ddulliau gweithio dwyieithog ym mhob ysgol.

Disgynnodd Mr Parker, a oedd yn chwe throedfedd tair modfedd o daldra ac yn pwyso pymtheg stôn ar ben pentwr o wŷr, gwragedd a phlant.

Yn Llen y Llenor y mae Ceri Davies nid yn unig yn dilyn ond yn pwyso a mesur yn feirniadol ei gyfraniad hynod i lên Cymru ac i Gristnogaeth.

Roedd cymaint yn dibynnu ar allu ac arweinyddiaeth Horton, ac roedd hi'n wir fod yna gant a mil o ofidiau yn pwyso arno.

'Rydym wedi pwyso ar yr Weinyddiaeth Drafnidiaeth ac 'rydym ar ddeall eu bod nawr wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y sefyllfa.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn pwyso ar y Swyddfa Gymreig i sicrhau digon o arian ar gyfer cynnal rhaglen hyfforddiant mewn swydd a rhaglen benodi staff hyd at ddiwedd y ganrif o leiaf.

Yn ystod y misoedd diwethaf peintiodd y Gymdeithas nifer o sloganau ar eiddo'r Coleg - maent wedi bod yn pwyso ar y Coleg i gyhoeddi ei Gynllun Iaith sydd ddeunaw mis yn hwyr.

Yn y cyfamser, roedd MasCanosa yn pwyso ar Gyngres yr Unol Daleithiau i'w gwneud hi'n anghyfreithlon i is-gwmnËau Americanaidd mewn gwledydd tramor fasnachu â Cuba.

Nid yw'n pwyso fawr ddim yn y dwr, ond ar y tir mae iddo gryn dipyn o bwysau ac felly mae ar ei gorff angen aelodau cryfion.

Ond yr un oedd y stori bob ~mser--PwysO ymlaen ar ôl y graig dda gan osgoi'r gwenithfaen a'r 'ffarwel roc' oherwydd y gost o'u symud.

Mae'r Cyngor ar ddeall bod oedi i'r perwyl yma ond nid ydynt yn pwyso gan ei fod yn eu galluogi i barhau i redeg Llwyn Isaf a chadw'r gweithwyr mewn gwaith.

Archwilio themâu, eu hadlewyrchu, dylunio cymeriadau, creu awyrgylch, pwyso a mesur y math o theatr mae'r cynhyrchiad yn digwydd ynddi, creu byd newydd, cryno...

Beth sy'n digwydd i'r mwstard a berw'r dwr wrth iddynt dyfu?A fedrwch weld y coesynnau'n plygu ac yn pwyso tuag at y goleuni sy'n dod trwy'r twll?

Nid afresymol awgrymu ymhellach y byddai'n datguddio mwy o'i brofiad personol yn ei waith fel yr oedd yn aeddfedu fel nofelydd ac yntau o'r dechrau yn sefyll y tu allan i feddwl 'swyddogol' ei gymdeithas ac yn pwyso a mesur y meddwl hwnnw yng ngoleuni ei brofiad ei hun.

'Lladdodd' yn dibynnu neu'n pwyso arno.

Yma hefyd mae Carreg Arthur sy'n ein hatgoffa am y chwedl mai carreg yn esgid y Brenin Arthur oedd y garreg fawr yma sy'n pwyso dros bum tunnell ar hugain!

Yr oedd y frwydr hir yn dechrau troi o blaid y Cymry blaenllaw hynny a fu'n pwyso mor daer ar yr awdurdodau i gydnabod arwahanrwydd cenedlaethol y Cymry y tu fewn i gyfundrefn radio'r Deyrnas Unedig.

Ond mi wn i be' sy'n pwyso ar ei gwynt hi, o gwn!

Y cyngor gorau y medr neb ei roi i chi yw pwyso arnoch i fynd a rhywun profiadol gyda chi, yn enwedig felly pan fyddwch yn prynu'n ail law.

Ein tŷ ni, wedyn, yn dŷ cerrig, a dau dŷ llai yn pwyso arno o'r ochor.

Dim ond tri chyffyrddiad o baent a ddefnyddir i gyfleu'r ieir yn y blaendir a dim ond un llinell doredig ar letraws yw'r ystol sy'n pwyso ar un o'r teisi.

Gadwch i mi drio cofio." Archwiliai ei llygaid fi o'm corun i'w sawdl, fel ffermwr mewn ffair yn pwyso a mesur priodoleddau caseg yr oedd a'i lygaid arni; a minnau'n falch fy mod wedi gwisgo fy siwt newydd, ac yn edrych yn weddol drwsiadus.

Y dasg yn y flwyddyn i ddod yw ymateb i sialensau aml-ochrog technoleg ddigidol ac arlein, cystadleuaeth ddwys, y Cynulliad Cenedlaethol, a'r pwyso a mesur cenedlaethol iach ar drothwy'r mileniwm.

PENDERFYNWYD pwyso ar y Cyngor Sir i uwchraddio'r bont cyn gynted â phosibl oherwydd y drafnidiaeth drom a ddefnyddia'r ffordd.

Wrth ddatgan ein bod yn dod i gyw am gyfnod i ddinas yr angylion sy'n llawn diafoliaid, cafodd Dafydd (y gþr) a finnau gynghorion oedd yn pwyso mwy o lawer na'r cesus!

Mae'r Enw yn dibynnu arno'i hun fel petai, a'r ddau hyn o'r tu allan yn pwyso arno ef.

Disgwyliwn i'r Cynulliad ddod o hyd i ffyrdd creadigol i annog cyfranogiad pobl Cymru gyfan yn holl brosesau'r Cynulliad gan gynnwys cynnal fforymau lleol i fudiadau pwyso a chynrychiolaeth gymunedol o bob agwedd ar fywyd ein cymunedau.

Bydd y neges ar y faner yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn symudol, a hefyd yn datgan yr angen am ddeddf iaith newydd.

Yng Ngholeg Bala-Bangor bu dau beth yn pwyso ar fy ngwynt.

Yn y cyfamser, mae'r Gweriniaethwyr yn pwyso am gyhoeddi canlyniad unwaith y bydd y pleidleisiau post wedi eu cyfri.

Y Diddanion oedd yr unig lecyn golau yn Nhrysorfa'r Plant ac am Y Cenhadwr, ofer fu'r ymdrech erioed i ddod o hyd i ddim ynddo i ysgafnhau y baich o grefydd oedd yn pwyso arnon ni.