Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pynciau

pynciau

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Pynciau i'w trafod.

Roedd pynciau'r dydd hefyd ar yr agenda ar raglen drafod fywiog Talkback a gyflwynwyd gan Jamie Owen (cyd-gyflwynydd Wales Today) lle roedd cyfle gan y cyhoedd i holi panel o wynebau amlwg.

Yn hysbyseb cyntaf y coleg, gosodwyd y Gymraeg ar ben rhestr y pynciau a ddysgid yno ac yr oedd Athro Cymraeg ymhlith y tri aelod cychwynnol o'r staff academaidd.

Athrawon uwchradd sydd yn dysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog yn y sector uwchradd neu am wneud hynny.

Math o gynllun (cyfunol ynteu integredig) Beth yw cynnwys y cynllun (llyfrau disgybl, canllawiau athro, taflenni gwaith etc.) Pynciau a drafodir Cyfarpar ar gyfer gwersi ymarferol (A ddefnyddir cyfarpar ysgol safonol?) Dulliau asesu (a yw'r rhain yn rhan o'r cynllun?)

Ond yr oedd yn rhoi cyfle iddo gadw ei feddwl yn fywiog, yn ogystal â thrafod gyda phobl ddeallus y pynciau yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddynt.

Pwnc llosg arall a gafodd sylw manwl ar y rhaglen hon oedd lefel syfrdanol amddifadedd mewn rhai ardaloedd gwledig a phroblem camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau - pynciau a gysylltir yn amlach na pheidio ag ardaloedd trefol.

Un o'r pynciau sy'n codi anhawsterau i lawer o Gristnogion yw arweiniad Duw.

Oherwydd natur y gwledydd neu'r diwylliannau y rhoeson ni lawer o sylw i Israel neu'r Mohawks yng Nghanada ac mae'n wir fod llawer o'r pynciau wedi bod yn uniongyrchol berthnasol i Gymru - ond roedd llawer nad oedden nhw felly.

Rhai o'r pynciau y cafwyd darlithoedd arnynt oedd Cyfundrefn Addysg Cymru, y Llysoedd Barn, Pwerau Cynghorau Lleol, Cyllid Cymru, a Phropaganda'r Blaid.

Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones.

Gadawaf bopeth heddiw, a chyfennir y pynciau eraill mewn rhifynnau eraill hyd y Gynhadledd, a cheir penderfynu yno parthed gwasanaeth y "Gornel", neu arall, ar ôl hynny.

Mae ymdriniaeth yr awdures o'r pynciau hyn yn ddigon celfydd.

PYNCIAU A DARPARIAETHAU CWRICWLAIDD ERAILL: Ansawdd a Safonau

Mae pynciau teuluol yn amlwg iawn, pethau fel geni a marw, profiadau crefyddol personol, y bygwth niwclear, - a'r cwbwl wedi eu lleoli'n gadarn yng nghynefin yr awdur ei hun.

Dylai arolygwyr grynhoi'r cryfderau a'r gwendidau a welir wrth arsylwi addysgu'r pynciau, gan amlygu'r agweddau pwysicaf y mae angen rhoi sylw iddynt.

Dylai ysgolion fod ag agweddau positif, dylent gytuno ar bolisi%au pynciau a gefnogir gan amcanion a nodau, ac fe ddylent weithredu trefniadau cwricwlaidd a threfniadol i gefnogi disgyblion ag AAA.

Fel ysgolhaig yn trafod pynciau hanesyddol yr ysgrifennodd Llynnoedd Llonydd.

Ymhlith yr adnoddau mae radio, teledu a gwefannau ar gyfer llythrennedd, rhifedd, daearyddiaeth, y cwricwlwm Cymreig, cerddoriaeth, addysg grefyddol, hanes... mae'r pynciau yn cwmpasur rhan fwyaf o bynciaur Cwricwlwm Cenedlaethol a mwy.

Yn un o sêr Minder am flynyddoedd, mae Povey yn anelu at ysgrifennu deunydd ymestynnol, gan gyflwyno pynciau tabw fel llosgach i'r cyhoedd a'u trafod mewn cyd-destun Cymreig.

Ymhlith yr adnoddau mae radio, teledu a gwefannau ar gyfer llythrennedd, rhifedd, daearyddiaeth, y cwricwlwm Cymreig, cerddoriaeth, addysg grefyddol, hanes... mae'r pynciau yn cwmpasu'r rhan fwyaf o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a mwy.

mae'r rhaglen gylchgrawn The wRap (ar yr awyr ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Iau) wedi cyflwyno pynciau ychwanegol yn ogystal â chyflwyno ei detholiad arferol o ffyrdd o fyw, chwaraeon, newyddion, adloniant a diwylliant tra profodd After Midnight, sioe jukebox fideo fywiog wedii chyflwyno gan Lisa Matthews, yn boblogaidd iawn.

Mae ymchwilio manwl hefyd yn un o gryfderaur gyfres awdurdodol, uchel ei pharch, Taro Naw, sef y rhaglen materion cyfoes fwyaf poblogaidd ar S4C. Un o'r pynciau trafod oedd athrawon yn cael eu camgyhuddo o gamymddwyn proffesiynol.

staffio - penodi athrawon a'r defnydd a wneir ohonynt (dylid rhoi sylw arbennig i'r defnydd a wneir o unrhyw athrawon nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc ac i natur y gefnogaeth a dderbyniant); dylid rhoi sylwadau gwerthusol ar ansawdd y cyfarwyddyd yn y pynciau a'r HMS a ddarperir i holl athrawon y pwnc a'r cyfraniad a wneir gan staff cynnal.

Roedd pynciau llosg hefyd ar frig yr agenda yn y gyfres Rural Revolution. Edrychodd Sarah Dickins, cyflwynwraig Working Lunch a Business Breakfast y BBC ar gyflwr amaethyddiaeth yng Nghymru heddiw.

Ymhlith pynciau sgwrs pobl Llanelli yr oedd y tywydd deifiol o boeth a methiant diflas Cymdeithas Harmoni Llanelli yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin lle honnodd yr Athro Walford Davies fod y côr yn 'badly flat' wrth ganu 'How lovely is thy dwelling place' gan Brahms.

All neb ei feio am hynny ond roedd ei gyflwyniad yn fler a'i afael ar y pynciau pwysig sydd wrth wraidd yr ornest yn ymddangos yn drawiadol o ansicr.

A chymerodd ddiddordeb neilltuol mewn amaethyddiaeth a choedwigo gan lunio penderfyniadau i'w gosod o flaen y Cyngor ar y pynciau hyn.

Y mae dwy ohonynt yn trafod pynciau'n ymwneud â chrefydd yn yr Oesoedd Canol.

Arfogi'r athrawon ar gyfer dysgu eu pynciau yn yr amrywiol sefyllfaoedd dwyieithog a Chymraeg sydd yn bodoli yng Nghymru.

'Roedd y beirniaid wedi cael digon ar barodrwydd y beirdd newydd i drin pynciau fel y nwydau rhywiol, yn enwedig ar ôl helynt 'Atgof' Prosser Rhys, a dyna un rheswm pam y gwrthodwyd cadeirio Gwenallt.

Trafodir pynciau megis unigrwydd, y berthynas rhwng pobl, dyhead unigolyn i gael ei dderbyn, cuddio teimladau a dylanwad y gorffennol ar y presennol.

Bowen, y pynciau mwyaf poblogaidd oedd gwleidyddiaeth, crefydd, a natur y gymdeithas ar ôl y Rhyfel.

Ac yr oedd yn addysg arbenigol mewn pynciau a oedd o ddiddordeb ysol i ddegau o filoedd o bobl, a phynciau o ran hynny a oedd yn cyffwrdd ag ansawdd bywyd a thynged pawb.

I'w gweld yn llythrennol bob awr o'r dydd ar nos rhoddant yr argraff eu bod yn trafod yn ystyrlon y pynciau rhyfeddaf dan haul.

Cynhaliwyd dosbarthiadau yn rheolaidd yn Cairo a Phalesteina i Gymry yn y Lluoedd Arfog yn y Dwyrain Canol, lle trafodwyd problemau moesol, pynciau'r ffydd, a chymdeithaseg.

Roedd pynciau llosg hefyd ar frig yr agenda yn y gyfres Rural Revolution.

Ymhlith y pynciau a drafodir ar gyrsiau Gwyddoniaeth TAR y mae: Y Cwricwlwm Cenedlaethol Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn eich galluogi chwi:

Y Pynciau Trafod

Yn un o sêr Minder am flynyddoedd, mae Povey yn anelu at ysgrifennu deunydd ymestynnol, gan gyflwyno pynciau tabw fel llosgach i'r cyhoedd au trafod mewn cyd-destun Cymreig.

Gwelir effeithiau hyn yn eglur yn ei drafodaethau ar y pynciau diwinyddol a oedd yn ganolog i fywyd deallusol ei oes.

Ond o gymryd y cwricwlwm cyflawn, mae'n bosibl i ddisgybl gael profiad ohonynt yn eu dysgu pynciol;- dealltwriaeth lythrennol ac ad- drefniadol yn y pynciau dyniaethol, dealltwriaeth gasgliadol yn y pynciau gwyddonol; a'r camau beirniadol a gwerthfawrogol wrth ymdrin a llenyddiaeth, celf a thechnoleg.

Mewn rhai pynciau, bydd angen rhoi sylwadau ar ba mor dda y mae cynllunio'r athrawon yn dangos yn glir i ddisgyblion y cysylltiadau rhwng y gwahanol Dargedau Cyrhaeddiad.

Mae safle Asiantaeth yr Amgylchedd yn trafod pynciau sy'n effeithio ar yr amgylchedd yng Nghymru.

Wrth gytuno'n llwyr â hynny, fe ddywedwn innau y bydd y broblem hon yn un o'r pynciau pwysicaf a fydd yn wynebu Huw Jones wrth iddo gamu i'w swydd newydd.

Cyflawnir hyn drwy gael rhieni a chyfeillion yr iaith i ddod yn llywodraethwyr ysgol ac i bwyso am gynyddu'r pynciau a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynrychiolent y pynciau y rhoddwyd prawf ar fy ngallu i'w trafod yn yr arholiad - Hanes, Cymraeg a'r Ysgrythur.

Un o'r pynciau trafod oedd athrawon yn cael eu camgyhuddo o gamymddwyn proffesiynol.

Fel unrhyw nofel amlhaenog arall mae'n cynnig pynciau trafod di-ri.

Canlyniad y gwahaniaeth hwn yw bod llyfrau mewn rhai pynciau yn cyrraedd yr ysgolion drwy'r awdurdod heb daliad uniongyrchol o'r ysgol, tra bod gofyn i ysgolion unigol brynu llyfrau mewn pynciau eraill.

Mae BAFTA Cymru yn ymroddedig i ddod â phobl o bob rhan o'r diwydiant cyfryngau at ei gilydd i drafod, rhwydweitho ac ymchwilio pynciau perthnasol a chyfoes a chynorthwyo i wella safonau drwy hyfforddiant, gweithdai a dangosiadau.

Ymhlith y pynciau a drafodid yn y pamffledi hyn yr oedd dyfodol y diwydiant alcam, Deiseb yr Iaith, trosglwyddo gweithwyr o Gymru i Loegr, status Sir Fynwy, cynllunio trydan, silicosis, Cyngor Undebau Llafur i Gymru ac ad-drefnu wedi'r rhyfel.

Y mae llawer o'r ddogfen yn ymwneud ag addysg ac hyfforddiant a theimlir nad oes gan y staff y wybodaeth na'r arbenigedd briodol i gyfrannu'n effeithiol tuag at y pynciau hyn.

Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.

Lle ceir diffyg darpariaeth ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a/ neu ddatblygiad y dimensiwn Cymreig mewn pynciau lle y gellid disgwyl iddynt fod wedi cael eu hystyried - yn arbennig y pynciau hynny lle ceir Gorchmynion ar wahân yng Nghymru - dylid gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw.