Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pys

pys

Peidiwch â rhoi'r gorau i fwydo'r adar os gwelwch yn dda, - mae cnau pys yn faethlon iawn, yn uchel mewn oel amlannirlawn a phrotîn.

Yr hyn a gawsom i swper y noson gyntaf oedd tafellau o goes porc wedi eu rhostio, gyda thatws, pys a chawlifflwr, i ddewis y lleiaf lletchwith o'r tair ymdrech yn y Geiriadur Termau.

Mae'r planhigion blynyddol fel llau'r perthi a'r ffrom- lys a'r pys per yn gwasgaru'r had, yn gwywo a marw, a'r hadyn wedyn goroesi'r gaeaf i egino yn y gwanwyn.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Swp pys Mam efo golwythau o ham cartra ynddo fo, a tharten afal I ddilyn.

Amheuthun i fynd â'ch tatws, pys, moron, sgewyll a'ch cydwybod gwyrdd golau.

"Ydach chi'n gwerthu pys, 'y ngenath i?" medda fi.

Mae pryder gan nifer o gwnmiau am safonau y cnau pys (peanuts) a fewnforir ar gyfer bwyd i adar gwyllt, wedi arwain at sefydlu'r Gymdeithas Safonau Bwyd Adar (y BSA), sy'n derbyn cefnogaeth a chyngor gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Ymddiriedolaeth Adareg Bryneinig.

Doedd bosib eu bod wedi rhoi cynhebrwng iawn i bob un o'r milwyr, mi fydden nhw wrthi tan ddydd Sul pys.