Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

quango

quango

Atebolrwydd: Mae'r Quango hwn fel pob Quango arall yn atebol i'r Swyddfa Gymreig trwy'r Ysgrifennydd Gwladol nid i bobl Cymru.

Yn sylfaenol deddf ar gyfer creu Quango, sef Bwrdd yr Iaith, oedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae'n hen bryd i aelodau'r Quango Iaith sylweddoli nad yw brwydr yr iaith drosodd.

Dylai'r Cynulliad ddileu Tai Cymru fel Quango a chryfhau darpariaethau Cymdeithasau Tai Lleol yn y sector rhentu gan eu galluogi i brynu mwy o dai o'r stoc dai presennol yn hytrach na'u gorfodi i godi tai newydd.

Ceisiodd brynu amser trwy sefydlu Quango dof -- 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg' -- gan ddewis yr aelodau eu hunain.

Dim ond Deddf Iaith gref all sicrhau cyfiawnder i'r iaith, ac nid y Quango diddannedd sydd gennym ar hyn o bryd.

Y gwir yw fod deddfwriaeth Prydain Fawr yn talu'n dda i ddwsin a rhagor o aelodau'r Quango Iaith ac mae eu gwaith hwy yw ein tawelu ni.

Daeth yn amlwg fod nifer o Gymry Cymraeg yn barod i gydweithio â'r Torïaid -- dim ond iddyn nhw gael arian i gynnal Sianel Gymraeg, y Steddfod, rhywfaint o ysgolion Cymraeg a'r Quango ei hunain, doedd dim ots am ryddid i Gymru a bywyd i'w chymunedau lleol.

b) fod yn sefydliad democrataidd, yn cynrychioli pawb sy'n gweithio o fewn addysg ac nid yn quango arall.

Esboniodd aelodau o'r Gymdeithas eu bod eu bod yn gwrthod yn llwyr gyd-ddatganiad y mis diwethaf rhwng 'Orange' a'r quango, y Bwrdd Iaith, lle bu cyfeirio at 'ystyried' y 'posibiliadau o ddefnyddio'r Gymraeg'.

Mae'r Quango iaith yn gorfod bod am fod y Saeson yn ein gweld ni fel Cenedl is-raddol.

Gofynnwn iddynt gefnogi'n galwad i ddileu'r Bwrdd Iaith ar y sail ei fod yn Quango a sefydlwyd yn sgîl Deddf Iaith 1993 i wneud dim ond gweinyddu polisïau'r Torïaid ar yr iaith Gymraeg.

Yn y darn yma o'r Tafod Trydanaidd byddwn yn edrych ar engreifftiau o fethiant llwyr y Ddeddf Iaith diwethaf a'i Quango, y Bwrdd Iaith.

Ac wrth gwrs, mae'r Tafod bob tro yn fwy na hapus i gyhoeddi tystiolaeth o waith diwyd a diflino'r Quango Iaith dros y Gymraeg.

Rhaid i ni anghofio'n gwaseidd-dra boed hynny'n sedd ar Quango Iaith neu'n wahoddiad i'r Frenhines i agor ein Llyfrgell Genedlaethol.

Nodiadau: Mae'n amlwg o eiriau'r dau gi o'r Quango Iaith eu bod am ddiogelu eu sefyllfa hwy eu hunain yn unig, ac yn mynd dros ben llestri wrth geisio ddarbwyllo eraill i ymmdiried yn y Bwrdd.

Nododd swyddogion y cwmni mai hwn oedd y tro cyntaf i neb drafod yr iaith Gymraeg gyda hwy ac nad oeddynt wedi clywed oddi wrth quango'r llywodraeth - Bwrdd yr Iaith Gymraeg - erioed.

Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.

Y Quango Iaith.

Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango.