Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

quangos

quangos

Rhaid sicrhau na all trefn caethiwed y Quangos barhau.

Bydd y Grwp Addysg nawr yn dechrau ymgyrch gref yn erbyn Unben Addysg Cymru a'r Quangos, a thros Gyngor Addysg i Gymru.

Mae Llafur yn paratoi i'n argyhoeddi na fydd Quangos yn Quangos os ydyn nhw'n llawn o bobl Lafur.

Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Y perygl mwyaf i ni fyddai caniatáu i'r Bwrdd Iaith, Tai Cymru, Quangos Addysg ac yn y blaen fynnu cael hunan-lywodraeth.

A dydi'r ffaith mai Dafydd Wigley neu Ron Davies fyddai'n bennaeth ar y Quangos hynny ddim yn gwarantu y byddai'n ateb y broblem.

Erbyn hyn nid oes unrhyw reolaeth democrataidd dros Addysg Bellach - mae'r holl gyfrifoldebau yn nwylo'r Quangos.

Yn y cynnig yna mae'r seiliau ar gyfer dymchwel y Quangos, seiliau ar gyfer datblygu democratiaeth yng ngwir ystyr y gair, a seiliau i ddangos ein bod yn barod am hunan-lywodraeth.

Pasiwyd cynnig yn y Cyfarfod Cyffredinol yn galw ar i'r Blaid Lafur egluro a chryfhau eu polisi tuag at Quangos Cymru.

Dibynnu ar eich siniciaeth, ond a bod yn glên am change, mae'r gwleidyddion yn mynnu oherwydd eu rhwystredigaeth gyda'u hanallu i newid y sefyllfa, mae'r Quangos yn mynnu er mwyn diogelu a chynyddu eu safle eu hunain.

Galwyd ar i ysgolion Cymru i wrthod pwysau newydd eleni gan y Toriaid i optio allan o'r gymuned leol ac i mewn i reolaeth uniongyrchol gan y Toriaid a'u Quangos.

Ar y llaw arall fe fyddai llawer o'r Cynghorau, a'r Quangos a'r Llywodraeth yn ddieithriad, yn dymuno i ni ildio.

Golyga hyn y dylai'r Cynulliad ddileu y Quangos Addysg a sefydlu Cyngor Addysg Democrataidd i Gymru.

Fodd bynnag wrth gymryd y grym oddi wrth Lywodraeth Leol, rhannwyd y cyfrifoldebau am wahanol feysydd yn y byd addysg ymysg y Quangos.

Ymateb y Llywodraeth -- chwlau PDAG a rhoi'r gwaith i'w Quangos diogel eu hunain.

Galwn ar y Cynulliad i ddileu y Quangos sy'n gweithredu yn y maes yma a chryfhau gallu ymarferol ein cymunedau i reoli eu dyfodol eu hunain drwy gefnogi mentrau cymunedol gydag adnoddau digonol.

O dan drefn y Quangos mae'r iaith yn perthyn i ychydig.

Gan nad oed y Torïaid yn gallu ennill grym democrataidd yng Nghymru, sefydlon nhw eu Quangos o'u pobl eu huanin i'n rheoli.

Yng Nghymru ymwrthodwyd yn llwyr â rheolaeth drwy'r Quangos o'r dechrau ac ni fyddwn yn barod i weld disodli y Cyngor Cyllido Addysg Bellach gan gwango arall.

Mae Cynghorwr Llafur o Sir Gaerfyrddin wedi gwrthwynebu beirniadu Quangos Torïaidd.

Mae'n rhaid i gynghorau ildio, mae'n rhaid i'r Quangos ildio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth ganolog ildio i Gymru ac i'r iaith Gymraeg gael ymryddhau.

Yr her fawr sy'n ein wynebu rwan ydi dangos na fydd lle i Quangos yng Nghymru'r dyfodol.

I gefnogi sefydliadau i greu Fforwm Addysg Democrataidd i Gymru i wrthbwyso grym y Quangos.

Na fydd angen Tai Cymru gan y bydd cyfrifoldeb tai yn nwylo cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol; na fydd angen Quangos addysg gan y bydd yna system addysg annibynnol ac na fydd angen Bwrdd Iaith oherwydd y bydd deddf iaith fydd yn dod â dwyieithrwydd yn naturiol.

Gweithredu bob wythnos am flwyddyn yn erbyn Quangos Addysg y Llywodraeth 1995 Taith o amgylch Cynghorau Sir newydd Cymru i bwyso arnynt i adeiladu Trefn Addysg Gymreig o'r gwaelod.

Mae hyn hefyd yn golygu edrych ar gyfrifoldebau yr Awdurdodau Unedol newydd a gwaith y Quangos, a cheisio creu strwythur sydd yn datganoli grym, yn atebol ac yn dod a grym yn nes at y cymunedau.

Ym 1994 roedd y Gymdeithas yn datgan Na i'r Quangos, ac ym 1995 yn datgan Rhyddid i Gymru Mewn Addysg, a'n bwriad erbyn Eisteddfod Genedlaethol 1996 fydd datgan Rhyddid i Gymru ym mhob maes.

Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.

Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango.

Mai 1997 Llywodraeth newydd: dywedodd y Blaid Lafur y byddent yn chwalu'r Quangos yng Nghymru, ond mae nhw eto i wneud hynny.

Ceisiodd y Torïaid brynu'r Cymry Cymraeg trwy roi iddynt grantiau i ddiwylliant Cymraeg a'u Quangos bach eu hunain ar yr amod nad oeddent yn herio'r drefn.

Mi fydd trefn y Quangos wedi eu diarfogi.

Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

Aeth y Gymdeithas benben â'r Quangos Toriaidd rhwng 1992 ac 1997.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.

Gwendidau: Yn y cyfnod cyn Quangos, yr oedd Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am yr ystod cyfan o ddarpariaeth addysg ar gyfer y gymuned o Addysg Feithrin hyd at Gynradd, Uwchradd ac Addysg Bellach.

Nid ydym yn barod i ddioddef Llywodraeth sy'n rheoli trwy Quangos ac yn dileu pob corff democrataidd.