Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

quetzalcoatl

quetzalcoatl

Yn ôl yr hen Asteciaid; duw'r aer, Quetzalcoatl - leciwn i ddim bod yn fam iddo fo yn gweiddi arno fo o ben drws cefn tū am i swpar - ddaeth â hadau'r goeden Cacao o Baradwys i'r ddaear.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.