Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

raddfa

raddfa

Cytunwn, wrth gwrs, mai son am y sefyllfa yn gyffredinol a wnawn ac mai ar raddfa lai y gwelir y dirywiad mewn ardaloedd gwledig, megis Uwchaled.

Rhagdybiai y diwygiadau hyn rwydwaith o weision suful ar y raddfa ranbarthol a digonedd o ŵyr yn y pentrefi a fedrai ddarllen gorchmynion yr awdurdodau ynghylch iechyd, amaethyddiaeth a phethau 'buddiol' eraill.

Mae Alchemy'n barod wedi datgan na fyddai ceir yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr yn ffatri Longbridge os yw eu cais yn llwyddiannus.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

A'r angen hwn a barodd i Charles deimlo fod yn rhaid wrth gynllun ymarferol i argraffu beiblau Cymraeg ar raddfa fawr a'u cynnig am bris rhesymol i'r tlodion.

Yn gyntaf, trwy gynnull mudiadau gwirfoddol ar raddfa rhanbarth.

Os edrychwch chi'n fanwl ar y map ar raddfa fawr ar y dudalen nesaf, fe ddylech fedru gweld ystumllyn.

Mae'r raddfa hon yn amrywio yn ôl graddfeydd llog morgais ar y pryd, yn cynyddu pan fydd cost benthyca yn cynyddu, ac i'r gwrthwyneb.

Dim ond y ffaith eu bod yn sownd yn eu seddau ac allan o gyrraedd ei gilydd a'u cadwodd rhag ymladd yn gorfforol, ac oni bai ei bod yn teithio ar raddfa o saith deg milltir yr awr ar draffordd brysur byddai Carol wedi troi rownd yn ei sedd ac ysgwyd y ddau ohonynt - er na fu iddi erioed wneud y fath beth o'r blaen.

Ym Mhrydain gwnaed camau ymlaen ond ar raddfa lai (gweler gwaith megis yr hyn a wnaeth McKee, Martin a Wignal) ond tueddent i adlewyrchu y problemau a godai yn nyfroedd Prydain sydd fel arfer yn oer eu tymheredd ac yn anodd gweld ynddynt.

Fe gynhelid y rhain ar raddfa un-i-un rhwng y Rheolwr a'r Cynghorydd, a byddent yn gwbl gyfrinachol ac anffurfiol.

'Y mae'r ffaith,' meddai, 'na ellir bellach cynnal Prifwyl ar y raddfa arferol ar lawer llai na hanner can mil o bunnau yn awgrymu maint y cyfrifoldeb sy'n mynd i orffwys ar ysgwyddau rhywun.

I'r perwyl hwn datblygwyd y laser ffibr, sydd mewn gwirionedd yn fath o laser cyflwr solid ar raddfa fach.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff, Cadeirydd y pwyllgor perthnasol, y Trysorydd a'r Prif Swyddog perthnasol i godi cyflog drwy ailraddio neu o fewn y raddfa fyddai'n bodoli.

Cyn gynted ag yr oedd y Blaid yn dechrau ymladd etholiadau ar raddfa eang, ac ar adegau yn ennill cyfran sylweddol o'r bleidlais, yr oedd ei swyddogaeth fel grŵp ymwthiol yn dirwyn i ben.

Collwyd cysylltiad ar raddfa fawr â phobl ifainc ac erbyn hyn y mae'r plant bach yn prysur lithro allan hyd yn oed o'r hen gysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol â'r eglwysi.

Roedd eglwys golegol yn debyg i eglwys gadeiriol, ond ar raddfa lai wrth gwrs.

Mae'r frwydr rhyngddo ef a Thomas Jones Dinbych ar raddfa eang: 'P'run ai fo ai Mr Jones, Dinbych ddaw i'w Waterlŵ yfory?' A yw'r dehongliad hwn yn gorliwio'r sefyllfa sy'n gwestiwn arall: y pwynt yw ei fod yn argyhoeddi fel celfyddyd.

dyn gyda grym a dylanwad anhygoel, a oedd yn gyfrifol am drafod arian ar raddfa oedd tu hwnt i'w dychymyg hi ac yn cynnig croeso iddo mewn lle nad oedd fawr gwell na chwt di-lun, mewn ystafell llawn o lanast.

Sylweddolodd J. M. Edwards fod dyn bellach yn defnyddio technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi.

Yn un pen i'r raddfa, hen ferfa drom, lymbrus a'i holwyn yn llac a'i hechel yn gwichian ac aml i dolc ei gyrfa wedi gadael eu ôl ar ei choed.

Yr un thema'n union, ar raddfa fwy, a drafodwyd yn Brad.

Bydd yr astudiaethau hyn yn codi o'r gwaith a gyflwynir yn ystod yr oriau cyswllt, wedi'u seilio ar ddamcaniaethau a sylfaen academaidd, ac yn cynnig cyfle i asio'r syniadaeth a gyflwynir gydag ymchwil dosbarth ar raddfa fechan.

a f'esgidiau i fel pe buaswn i wedi bod yn cerdded buarth fferm.a hwythau ers blynyddoedd wedi cymell a chynnal rhyddfeddwl ar raddfa mor fawr.

Graffiti masnachol yw llawer o'r posteri sy'n addurno waliau yr ieuenctid yn bennaf ac mae rhai o bosteri mudiadau gwleidyddol Cymru yn enghreifftiau o graffiti gwleidyddol ar raddfa torfol.

Awgrymir yma ymchwil ddosbarth ar raddfa fechan trwy dreialu agweddau ar y broses ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth cyn dod yn ol fel adran i arfarnu ac addasu'r hyn a dreialwyd.

Yn awr, hefyd, y daeth i gysylltiad â llyfrau printiedig ar raddfa weddol eang; o'r braidd y gwelsai lawer o'r rheini cyn muynd i Rydychen.

Yr oedd ymfudo o Gymru i Awstralia ar raddfa lawer llai na'r un i America, ond yma eto gwnaed ymdrechion i ddarparu cyhoeddiadau cyfnodol ar gyfer yr ymfudwyr yn eu hiaith eu hunain.

Nid ydynt bellach yn gwneud llawer o'r moddion eu hunain, gan fod y rhain yn cael eu paratoi ar raddfa fawr gan gwmniau cyffuriau mawrion.

Gyda phrofion y merched y mae cynlluniau newydd wedi dod i rym ar raddfa cenedlaethol.

Ei hiraeth am weld sylweddoli'r uno hwn ar raddfa fawr sy'n ysbrydoli ei benillion prydferth,

Edwards fod dyn bellach yn defnyddio technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi.

Eleni cynhaliwyd trafodaethau rhwng swyddogion y Swyddfa Gymreig a PDAG ar raddfa ehangach na'r blynyddoedd cynt cyn y cafodd y dyraniad terfynol ei gyhoeddi, a da oedd clywed fod " y Gweinidogion yn ddiolchgar am y cyngor y bu i chi ei roi wrth ein helpu i ddod i'r penderfyniadau hyn.

Darllenwch y raddfa trwy ffenest gan ddefnyddio ysbienddrych.