Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

radicaliaid

radicaliaid

Ysgogwyd y tri i sefydlu'r Seren Ogleddol gan newid a ganfuwyd ganddynt ym mholisi golygyddol Seren Gomer, llais y Radicaliaid yn ystod y pymtheg mlynedd flaenorol.

Gall y darllenydd weld fod llawer o'r pethau annymunol a awgrymid gynt am Theophilus yn codi am fod Anghydffurfwyr a Radicaliaid wedi creu myth a phropaganda anffafriol am yr Eglwys yn y ddeunawfed ganrif.

Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.

Yr oedd y radicaliaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Eglwys Lloegr, meddai, "ac wedi cyduno gydag O'Connell, a'r Pabyddion eraill ag sydd yn awr yn y Senedd, i'w diwreiddio a'i thynnu i lawr.

Yr oedd Tir Iarll yn nythle o feirdd a radicaliaid.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?