Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

raenus

raenus

Camp raenus oedd ei gwrs addysg trwodd a thro, a chyrraedd ei uchafbwynt trwy gipio'r prif wobrwyon yn Rhydychen a'i ethol yn Gymrawd o Goleg Lincoln, a dyfod yn un o ddarlithwyr mwyaf dylanwadol y Brifysgol.

Maent yn feistri ar eu crefft, ac yn ysgrifennu'r Gymraeg yn raenus a chyhyrog.

Chwaraewyd Concerto (Torelli) yn nodweddiadol o raenus gan Roger Jacob.

Ond, ar yr un pryd, mae'n rhaid ichi wneud job o waith sy'n raenus ac yn ffeithiol gywir.

Yn ogystal a bod y llyfr wedi'i sgrifennu'n raenus, mae'r cyfanwaith yn wead rhyfeddol o gain.

Ysgrifennai'n rhwydd a gofalus gyda'i iaith yn raenus, gywir a heb fod yn rhy lenyddol a chymhleth.