Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

raffu

raffu

Yna, byddai'n cardota ei ffordd adref gan ddibynnu ar raffu celwyddau a phob math o gampau er mwyn cael bwyd a swUt neu ddau i dorri'i syched.

Yng nghwrs y blynyddoedd fe gostiodd ffortiwn i'w saethu, ei raffu a'i lanhau er mwyn sicrhau diogelwch y dyniori a weithiai yn yr ugeiniau o fargeinion o'i ddeutu ac o tano.

Cyn it i gael amser i ymddiheuro, i esbonio nac i raffu celwyddau, cwyd yr hen ŵr ei fraich â'i law agored tuag atat.

Nid wyf am raffu ystadegau yn y cyflwyniad hwn ond rhaid pwysleisio gymaint trymach yw gofynion Americanwr neu Ewropead am adnoddau'r byd na rhai brodorion y Trydydd Byd.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.