Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ragflaenydd

ragflaenydd

Nid y rhanbarthau'n unig sy'n falch mai Mr Major fydd yno ac nid ei ragflaenydd - mae Ewrop gyfan yn anadlu anadl o ryddhad mai nid hi fydd yno ar ôl ei haraith ddi-gyfaddawd nos Fercher ddiwethaf.

Wedi mynd yno, fe briododd weddw ei ragflaenydd fel ficer, gwr o'r enw Oliver Thomas.

Gwedd arall ar ei ymroddiad cyhoeddus oedd gwasanaethu fel Swyddog Prawf rhan-amser, gwaith y bu'n ei wneud ym Mae Colwyn, fel ei ragflaenydd, H. R. Williams.

Os oedd ei ragflaenydd, Raul Alfonsin, wedi methu'n llwyr ag achub y wlad o'i thranc, pa obaith oedd gan ddyn byr, hyll yr olwg, i gyflawni gwyrthiau?

Bu cynhennu brwd yno yng nghyfnod ei ragflaenydd, William Barlow.

Heblaw Catrin, fe etifeddodd Morgan gan ei ragflaenydd gurad o'r enw Lewis Hughes yr oedd iddo gryn enw fel englynwr a gŵr llawen, er bod Morgan yn honni ei fod wedi diwygio ei ffyrdd er pan ddaeth ef yn feistr arno.

Porthwyd ei ddiddordeb cynnar ef mewn enwau llefydd gan yr archif anferth o enwau a adawodd ei ragflaenydd ym Mangor, yr Athro Melville Richards, i'r Coleg.