Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

raglen

raglen

Trefnir y staff mewn adrannau, a chyd-drefndir y gwaith gan raglen o gyfarfodydd adran, rhyng-adrannol a staff, gyda chysylltiad clos rhwng pob adran a'r is-bwyllgorau rheoli sy'n gyfrifol am yr agwedd honno o waith y Gymdeithas.

Roedd pynciau'r dydd hefyd ar yr agenda ar raglen drafod fywiog Talkback a gyflwynwyd gan Jamie Owen (cyd-gyflwynydd Wales Today) lle roedd cyfle gan y cyhoedd i holi panel o wynebau amlwg.

Rhaglen deledu: C'mon Midffild ac unrhyw raglen goginio.

Dyma ddechrau newydd ac euthum ar raglen 'Heddiw' y BBC o Fangor y noson honno i ddathlu yn gyhoeddus.

Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach carcharwyd Kevin O'Kelly, gohebydd Radio Telefis Eireann, am wrthod cadarnhau, mewn llys yn Nulyn, mai Sean MacStiofain -- y gwr ar brawf - oedd yr un y bu'n ei gyfweld ar gyfer ei raglen radio.

Dach chim yn gwrando ar unrhyw raglen - dach chi'n gwrando ar Gang Bangor.

Roedd pynciaur dydd hefyd ar yr agenda ar raglen drafod fywiog Talkback a gyflwynwyd gan Jamie Owen (cyd-gyflwynydd Wales Today) lle roedd cyfle gan y cyhoedd i holi panel o wynebau amlwg.

Mi fydd yna £1000 syn rhodd gan y Clwb a sesiynau stiwdio ar raglen Gang Bangor a Radio One Session In Wales yn wobr i'r grwp buddugol.

Mewn cyfres bwysig o'r enw Y Byd Hirgrwn (chwaer raglen The Union Game a gynhyrchwyd gan BBC Cymru ar gyfer BBC Two), bu Huw Llewelyn Davies yn olrhain hanes rygbi ac yn amlinellu sut y datblygodd y gêm o fewn ffiniau gwleidyddol a diwylliannol sawl gwlad.

Ac eithrio Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd, a fu'n gyfrifol am gydweithio ar raglen beilot gyda Bethan ar gyfer y gyfres, mae'r ysgolion sydd wedi eu gwahodd i ymddangos yn y gyfres yn rhai nad ydynt fel arfer yn cael sylw gan y Cyfryngau, yn ol Bethan.

Gorffennodd ei raglen gyda'r un gân allan o Verdi ag a ganodd Nigel Smith fel ei gân olaf ar y noson gyntaf.

Wedyn, fe wnaethon nhw raglen cadw'n heini personol i bob un ohonom, ar gyfer ymarfer adre.'

Cyn iddo fynd i Gadair y Cyngor bu am ryw bum mlynedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth, yn gofalu am raglen gyhoeddi'r Eisteddfod ac yn gwirio a chadarnhau ei thestunau llên flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amryfal is-bwyllgorau lleol a'r canol.

Cynhaliwyd protest y tu allan i'r gwesty dros y Sul, ar ol i'r gwaharddiad gael ei ddatgelu gan raglen faterion cyfoes BBC Cymru, "Taro Naw".

Am bump o'r gloch fe gynheuwyd y lampau er mwyn goleuo cyfraniad byw gan y gohebydd i brif raglen newyddion yr Almaen.

Fel y dywed Branwen Niclas, Cadeirydd cyfredol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y rhagymadrodd i raglen y Cyfarfod Cyffredinol, 'Ym mlwyddyn ola'r mileniwm gwelwn gyfle allweddol i Gymdeithas yr Iaith arwain newidiadau sylfaenol yng Nghymru ac mae agenda'r Cyfarfod Cyffredinol yn gosod seiliau ar gyfer hynny.

Roedd y cynhyrchydd am ddefnyddio dyn camera adnabyddus, fe wrthododd un o reolwyr cyllid y Sianel gydnabod ei ffi drwy honni fod y ffi yn uwch na'r hyn yr arferai dalu am y math o raglen dan sylw.

Mae ymrwymiad y darlledwr i newyddion yn parhau i fod yr un mor gadarn ag erioed (ystafell newyddion BBC Cymru yw'r ail fwyaf y tu allan i Lundain) a gweddnewidiwyd y ddwy brif raglen newyddion teledu, Wales Today a Newyddion, gyda set stiwdio newydd, teitlau agoriadol a cherddoriaeth newydd sbon.

Dechreuodd Ffeil ym mis Medi 1995 a hon ydy'r unig raglen newyddion Gymraeg i bobl ifanc.

Mae'n rhaid iddo gael rhestr, neu raglen, o gyfarwyddiadau manwl cyn y gall wneud dim.

Cynhyrchodd raglen arbennig yn dilyn Refferendwm Cytundeb Heddwch Gogledd Iwerddon gyda chysylltiadau byw gan ein gohebydd gwleidyddol Bethan Rhys Roberts ym Melfast ac Aled Huw yn Nulyn.

Cofiwch am ail raglen 4 Trac ar S4C bnawn Sul yma efo Ian Cottrell yn canolbwyntio ar bedwar grwp arall.

Caiff y Cynhyrchydd wneud Rhaglen Gyfansawdd o Raglen neu Raglenni a ddarlledwyd eisoes a phe defnyddir pwt o berfformiad yr Artist mewn Rhaglen Gyfansawdd o'r fath bydd gan yr Artist hawl i daliad ychwanegol nid llai na'r isafswm tal (gweler Atodlen A) a negydiad rhwng y Cynhyrchydd a'r Artist fydd yn cymryd i ystyriaeth hyd y Rhaglen Gyfansawdd a nifer a hyd y pytiau.

Mae ei chwaer-raglen Post Prynhawn, fel yr orsaf, yn dathlu ei 21ain blwyddyn.

Ond roedd ganddo un elfen bwysig arall yn ei raglen waith a honno, yn ei farn ef ei hun, oedd bwysica', sef `edrych pa lwyddiant sydd i'n brodyr, y Cymry, yn y wlad bell'.

Fis diwethaf, roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi herio Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol, Alun Michael, i wneud yn siwr y byddai Araith y Frenhines (sydd yn gosod ger bron raglen waith llywodraeth Westminster am y flwyddyn i ddod) yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu Deddf Addysg.

Hoffwn weld 'Noson o Siarad Cyhoeddus' yn ymddangos ar raglen pob clwb bob blwyddyn pe ond am y gwerth addysgiadol sydd iddi.

Mae'r sefyllfa'n waeth byth pan mae ambell sianel yn cael cwmni%au i noddi ffilm neu raglen.

Byddai disgwyl iddo anwybyddu protest taer ei nerfau brau a rhoi ei raglen o flaen ei ofnau.

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

Yr oedd ar raglen y Gynhadledd gynnig oddi wrth un o ganghennau'r Gogledd, yn galw am ymwrthod â pholisi economaidd tybiedig y Blaid, a mabwysiadu polisi pendant sosialaidd; yr oedd y cynnig yn faith iawn, gan ei fod yn manylu'n llawn am yr hyn a olygid.

Mae'r brif raglen newyddion Wales Today wedi gwneud yn well yn gyson na'i chystadleuwyr lleol ar HTV ac ITN am 6.30pm.

Pan ymddangosodd Teflon Monkey ar raglen Iestyn George –Y Sesiwn Hwyr – nôl ym mis Hydref, 'roedd hi'n amlwg bryd hynny fod gan Rhodri Vine dalent aruthrol a bod ei gerddoriaeth yn syml ond eto yn hynod o effeithiol.

Ar raglen Election Call Vaughan Roderick (ar y teledu a'r radio) rhoddwyd cyfle i bobl gyffredin holi arweinyddion y pleidiau yng Nghymru.

Peidiwch ag anghofio ymarfer corff yn rheolaidd - dylai chwarae rhan hanfodol mewn unrhyw raglen colli pwysau gan ei fod yn helpu i losgi caloriau.

Mae gan y Gerddorfa hefyd raglen Addysg a Chymuned brysur gyda llinell ffôn arbennig i drosglwyddo gwybodaeth a gwerthu tocynnau.

Cymhwyswch ef at Raglen Astudio,Targedau Cyrhaeddiad a Lefelau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Yn ystod y flwyddyn cynhyrchodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC raglen gyffrous yn ymgorffori elfennau ffres a dyfeisgar iawn.

Ni oedd y cynta' i wneud y fath beth yn Ciwba a dyna'r ymateb mwya' a ges i i unrhyw raglen erioed - roedd fel pe bai naws Ciwba wedi cydio yn nychymyg pobl.

Pobol y Cwm sydd â'r gynulleidfa uchaf o blith unrhyw raglen Gymraeg ar S4C, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ar agreg o dros 200,000 ac mae Newyddion yn rhaglen awdurdodol ag iddi barch mawr.

Yn y pen draw, ni wna gor-lywio pwnc neu sefyllfa sy'n gwbl gyffredin ond agor bwlch argyhoeddiad rhwng y newyddiadurwr a'i gynulleidfa, a thanseilio ffydd y cyhoedd yn nilysrwydd ei raglen.

Efallai nad ar raglen Jimmy Springer y mae'r bai i Nancy Campbell-Panitz gael ei lladd - ond dydi hynny ddim yn rheswm dros beidio â bod yn llawdrwm âr teip yma o raglenni teledu.

Roedd gallu Saunders Lewis mor rhyfeddol fel y tueddwyd i anwybyddu diffygion anochel y ddadl, yn enwedig diffyg unrhyw raglen bendant ar gyfer ennill rhyddid a chyfrifoldeb.

Penderfyniad dewr felly oedd ceisio dathlu'r pen-blwydd gydag awr o raglen yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Denodd y ddwy raglen ddiddordeb mawr yn y wasg.

Ar raglen Election Call Vaughan Roderick (ar y teledu ar radio) rhoddwyd cyfle i bobl gyffredin holi arweinyddion y pleidiau yng Nghymru.

'Nhw wnaeth egluro'r angen am y math yma o raglen.

Gellir ymgorffori perfformiad yr Artist neu ran ohono mewn Dilyniant Agoriadol neu Ddilyniant Cloi neu i Raglen arall yn yr un gyfres fel Cip-yn-ol neu Gip-ymlaen drwy dalu tal ychwanegol (gwweler Atodlen A).

Neu hyd yn oed edrych ar ambell raglen deledu.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi herio Alun Michael A.C. Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud yn siwr y bydd Araith y Frenhines y Mis nesaf (fydd yn gosod ger bron raglen waith llywodraeth Westminster am y flwyddyn i ddod) yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu Deddf Addysg benodol i Gymru.

Pa ryfedd iddo fynnu imi dorri gair cryfach o lawer allan o raglen a wneuthum ar dâp yng Nghwm Elan ddechrau'r chwedegau.

Mae angen darganfod beth fydd effaith y gystadleuath rhwng y ddwy raglen," meddai.

Ar raglen Saesneg am Gymru, byddai'n holl-bwysig cofnodi'r ffaith fod dau gant o bobl yn mynd i golli eu gwaith mewn ffatri ym mhellafoedd Sir Fynwy; dylai golygydd y rhaglen Gymraeg, ar y llaw arall, fod yn ymwybodol y byddai llawer mwy o arwyddocâd i ddifianiad hanner cant o swyddi yn Nyffryn Ogwen neu Rydaman.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

Mae'r ddwy brif raglen newyddion ar y teledu wedi cynnal eu safleoedd cryf.

Direidi felly a glywais i mewn sylw gan Rhys Jones ar ei raglen 'Segura' un bore Sul yn ddiweddar.

Er iddo fod yn ddigon grasol i osgoi mynegi barn am raglenni teledu heddiw dichon fod elfen o feirniadaeth wrth iddo drafod y datblygiad a fu o ran technegau dros y pum mlynedd ar hugain er pan wnaeth ef y ddwy raglen a ddangoswyd.