Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ramadeg

ramadeg

Mae profiad llawer o'r awduron Eingl-Gymraeg yr un fath; doedd yna ddim Cymraeg yn yr ysgolion ynte, Saesneg oedd iaith Ysgol Ramadeg Caergybi.

Pan edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd a chofio fel yr oedd hi yn y Rhondda pan oeddwn i'n mynychu Ysgol Ramadeg y Merched yn y Porth (y pryd hwnnw y 'Conty School for Girls' na feddyliodd undyn byw am ei galw wrth ei henw Cymraeg) y mae'r sefyllfa wedi newid yn fawr ac er daioni.

Ymlaen wedyn at yr Ysgol Ramadeg.

Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.

Yn dilyn perfformiad gan Ysgol Ramadeg Friars yn yr Eglwys Gadeiriol, fe gafodd ei ddewis i gymryd rhan mewn rhaglenni drama a oedd yn cael eu cynhyrchu yn stiwdios Brynmeirion.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Ond gwelodd ei dad yn dda yn y diwedd anfon y ddau i Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn.

Doedden nhw ddim mo'yn mynd i'r ysgol ramadeg.

Y mae'n bosibl i Edmwnd Prys fynychu ysgol ramadeg, ond y mae'n llawn mwy tebygol mai derbyn hyfforddiant preifat a wnaeth.

Os byth yr ewch i Ruthun a dal sylw ar yr ysgol ramadeg hardd sydd yno, diau y dywed rhywun wrthych mai Gabriel Goodman a'i sefydlodd.

Ceisiai athrawon fel Olwen Davies ddwyn perswâd arnynt i fynd ymlaen i'r ysgol ramadeg yn Aberhonddu, ond - 'Doedd dim shwd beth â'u cael nhw i sefyll yr eleven-plus!

Enw prifathro'r Ysgol Ramadeg (oedd heb symud i'w safle bresennol ym Mryn Goodman) oedd William Hathom Mills, brodor o Orton Waterville, ac yn y Cloisters yr oedd y ficer yn byw sef Bulkeley Owen Jones o Gaerhirfryn a'i wraig Fanny o Rydychen.

Llyfr ar gerdd dafod oedd hwn yn cynnwys talfyriad Cymraeg o ramadeg Lladin ysgolion yr Oesoedd Canol - y dwned, fel y gelwid ef gan y beirdd Cymraeg.

Does gen i ddim rhagor i'w ddweud yn dechnegol am ramadeg.

Ond cafodd hyd i ramadeg Saesneg cyn gorffen trechu cyfrinion y gynghanedd, a math o ddisgybl yspâs arhosodd byth.

Yno, wedi tri thymor yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn, bu Euros mewn peth cyfyng gyngor beth i'w wneud, a bu am ysbaid yn astudio Lladin a Hanes ar ei ben ei hun gartref.

Sylwir yn arbennig ar ramadeg Gruffydd Robert, Milan, Dosbarth Byrr ...

Clywed rhai enwogion hen Ysgol Ramadeg (Cyfun wedi hynny) Dyffryn Aman yn cael eu rhestru ar Radio Cymru ddechrau'r wythnos, wnaeth i mi feddwl.

Roedd gan Miss Jones Bach dri chariad ffantasi%ol - Arolygwr y Poli%s, Prifathro'r Ysgol Ramadeg ac, yn rhyfedd ddigon, Arglwydd Davies, Llandinam.

Gyrfa a gychwynnodd pan drodd glaslanc un ar hugain allan ryw ben bore, 'lawer dydd yn ôl' bellach, gobaith yn fflachio yn ei Iygaid, tân yn llosgi yn ei fol a thail cefn gwlad Môn yn ffres ar ei 'sgidia' am ei gyfweliad cynta' yn Ysgol Ramadeg Newton le Willows, sefydliad oedd yn drewi gan draddodiad yn Lloegar bell!

Gwyddys iddo fod mewn ysgol ramadeg a bod ei deulu yn ôl pob golwg yn rhai o uchelwyr y sir.

Gwelir rhyw gymaint o ddylanwad Lladin a Groeg yng ngwaith rhai o awduron rhyddiaith y Dadeni Dysg: meddylier, er enghraifft, am ragymadrodd Gruffudd Robert i'w Ramadeg Cymraeg, lle y mae'r awdur yn amlwg yn efelychu dulliau Plato a Cicero o ysgrifennu deialog.

Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.

Yn aml y mae plentyn yn siarad mewn ffordd ddealladwy ymhell cyn iddo fod â rheolaeth lawn dros seiniau iaith ei gymuned a gall pob defnyddiwr iaith hyfedr saernio brawddegau er nad oes ganddo, o angenrheidrwydd, ddealltwriaeth lawn o "ramadeg" ffurfiol llunio brawddegau.