Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ramantaidd

ramantaidd

Cymeriad annelwig yw Sant Ffolant: efallai mai Esgob Terni ydoedd neu offeiriad o Rufain a ferthyrwyd yn y drydedd ganrif OC Nid yw'r cysylltiad rhwng Sant Ffolant a chariadon yn un arbennig o ramantaidd.

Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.

Cadarnhawyd yr argraff anffodus hon gan angen dyn am antur a'i gywreinrwydd; byddai hyn yn beth clodwiw mewn cyswllt arall ond mewn cymdeithas a reolir gan y teledu cyflwynwyd archaeoleg môr fel cangen o ffuglen ramantaidd.

Nid drama ramantaidd o gwbl ond dychan yn debycach i anterliwt nag i ddim byd arall.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

'Prudd-chwarae' neu drasiedi yw hi, mewn arddull ramantaidd, a chymeriadau megis Gwrtheyrn a Rhonwen.

Oes, mi gredaf, mae mwy i'r cwpled hwn na phrotest gonfensiynol ramantaidd yn erbyn diwydiant, a chri o blaid y 'drefn naturiol'.