Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ras

ras

Mae'r bin yn siŵr o syrthio ar enw'r ceffyl fydd yn ennill y ras.

Dim gormod o bwysau arnyn nhw ddoe wrth guro Luton 3 - 1 ar y Cae Râs.

chwilio am ddarnau o frigau crin o 'r llwyni a 'u hyrddio i ganol yr afon, ac yna ras wyllt i lawr y lan i weld y cychod yn ysgythru rhwng a thros y cerrig dan rym y lli.

"Wyt ti wedi clywed honno am y ras rhwng y crwban a'r ysgyfarnog?" "Do, siŵr," meddai un arall o'r plant/ "Clywais i honno pan oeddwn i'n ddim o beth." "Debyg iawn, debyg iawn - a beth mae'r stori fach honno wedi ei ddweud wrthyt ti?" "Mae hi'n bwysig dal ati," meddai un o'r merched.

'Roedd y ras arfau rhwng America a'r Undeb.

Cynhelir ymchwiliad i'r ddamwain yn Râs Fformiwla 1 gynta'r tymor yn Melbourne.

Cyn dyddiau'r teledu, roedd y gyrrwr hefyd yn credu ei bod yn anlwcus cael tynnu ei lun neu arwyddo llyfr llofnod cyn i ras ddechrau.

Pwysodd Cathy ar Anna i ddod i weld y cwch ar dreialon neu hyd yn oed ar y ras fawr gyntaf i Iwerddon.

Yn y gemau nesa wrth i'r râs am Ewrop gyflymu tua'r diwedd bydd Castell Nedd yn chwarae ei gêm ola yn erbyn Glyn Ebwy nos Wener.

Wrth agor yr iet, a throedio trwy'r stecs sy ym mhob adwy, maen clo ar waith y dydd oedd canfod ymysg olion mynd a dod ôl olaf y fuwch ddi-ras na ddychwelai mwy.

Gogoneddwn dy ras am y bendithion lawer a gawsom trwy waith ein heglwysi.

Dydi ras i ffilmio'r lluniau mwya' trawiadol o ysglyfaeth ddiniwed newyn ddim yn ras braf i'w gwylio.

Am eiliad neu ddau, fe wnes i weddïo am ras, ond fe ballodd y duwioldeb yn rhyfeddol o fuan.

Ond mae hi'n ras fawr, a buan y dychwel y rhew a'r eira a bydd yn rhaid i'r adar droi am le cynhesach i dreulio'r Gaeaf.

"Y John Preis na, dyna'r cena agorodd y giât." Ond cafodd Edward ras rhyfedd i ddal rhag ei ysgwyd yn reit dda.

Sofietaidd yn ras yn y gofod hefyd.

Pâr i wirioneddau dy Air sanctaidd oleuo'n deall ac i wyrthiau dy ras ddyfnhau ein hargyhoeddiad nad oes enw arall wedi ei osod tan y nef trwy yr hwn y mae'n rhaid inni fod yn gadwedig ond enw Iesu.

Wedyn, cot law a het ac ambarel, cloi'r drws, a ras ar draws y cwrt am y garej.

Gan mai gwartheg, wedi'r cyfan, sydd piau'r ffordd fawr, mae rhywfaint o ras i fodau dynol oroesi ar eu dwydroed hefyd.

Roedd mam yn yr ysgol efo Glyn Pen Parc, oedd wedi crwydro mor bell o'i filltir sgwar, ac roedd hithau'n gwylio'r teledu bob nos i weld y datblygiadau diweddara yn y ras am y gofod.

Baulch fydd yn rhedeg yn y râs 400 medr tra bydd Iwan Thomas yn gorfod bodloni ar le yn y râs gyfnewid.

Dau yn unig oedd yn y ras y diwrnod hwnnw ac yr oedd y Rheolwyr yn betha' od o glên, pob parch iddynt, ac yn holi'n ddifrifol o gwrtais.

Roedd gwarth mewn bod yn ordderch ac roedd syrthio oddi wrth ras drwy anlladrwydd yn nodi dyn hyd ddiwedd oes.

Ac fe ellid bod wedi disgwyl gêm gymharol hawdd, ddi-fflach iddyn nhw yn erbyn Rhydychen, sydd mewn trafferthion, ar y Cae Râs neithiwr.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru'n disgwyl adroddiad y dyfarnwr ar ôl y gêm rhwng Wrecsam a Millwall ar y Cae Râs ddydd Sadwrn.

Mae'n ras wirion i gyrraedd yn gynnar i ddewis pryd a lle i werthu.

Fo, fwy neu lai, oedd yr unig un ar y feranda gan fod pawb arall wedi mynd i weld y ras olaf; roedd hi i'w chlywed fan draw.

Enillodd hi'r râs gan metr cadair olwyn ddoe.

'Ei dyweddi', meddai Wiliam Cynwal am un o'i noddwyr 'oedd addas; yrhawg o ryw, gwraig o ras'.

Dywedodd BMW ei fod yn ystyried mai Phoenix oedd y ceffyl blaen yn y ras bellach.

Bydd yr athletwr o Gymru, Christian Stevenson yn cystadlu heno ym Manceinion yn y ras 3,000 metr dros y clwydi.

Ond yr enw ar wefusau pawb wrth iddyn nhw adael y Cae Râs neithiwr oedd Lee Trundle.

Cyhoeddwyd bod chwech o noethlymuniaid yn mynd i nofio ras gyfnewid o un pen i'r loch i'r llall.

Mae oedfaon yn myn'd heibio, Dyddiau wedi eu treulio 'maes, Heb ddim cyfri 'n awr o honynt, Ond gruddfanu am dy ras.

Rho ras i ninnau geisio ymochel dan gysgod dy adain a gwneud hynny pan fo hi'n hindda fel, pan ddelo'r storm, y cawn orffwys mewn tangnefedd.

Ymbiliwn arnat godi to newydd o genhadon i ddwyn tystiolaeth i'th ras i'r miliynau hynny yn ein dyddiau ni.

Roedd yn gred yn ardal Abertawe yn y pumdegau na fyddai gyrwyr ceir rasio ond yn cerdded o flaen y car unwaith cyn ras.

Enillodd Jamie Baulch o Gasnewydd ei râs 400 metr yn Stockholm neithiwr.

Er mwyn gallu codi'r holl arian yma, rydym wedi bod yn golchi ceir staff yr ysgol, a trigolion y pentref, cynnal boreuon coffi, ac ar fore yr eisteddfod ysgol eleni, fyddwn ni yn cychwyn ras balwns, a fydd yn cael ei ffilmio gan HTV.

Ymysg ei ddiddordebau mae rasio beiciau, ac mae wedi rasio ar lefel rhyngwladol yn cynnwys ras tri diwrnod yn Iwerddon, a rasio tra yn aros yng nghanolfan chwaraeon byd enwog Club La Santa ar ynys Lanzarote.

Rho i ni gael ein puro â'th ras.

Peth anlwcus arall yw dymuno'n dda i geffyl neu joci cyn dechrau ras.

Y mae gennym nifer cynyddol o weinidogion - yn arbennig ymhlith y genhedlaeth ifanc - sy'n dwyn tystiolaeth gyson i ras Duw.

Williams Parry yn ei soned iddo, gellir ystyried chwechawd clo honno yn ddisgrifiad cyffredinol o'r dyn: Hen arglwydd ansoddeiriau a thwysog iaith, Pa fath wyt ti, neu o ba gymysg dras Pan yw pob dychan a phob can o'th waith Yn llawn o ryfel ac yn llyn o ras, O saint a phariseaid, moelni a moeth Llesmeiriol ymchwydd ac uniondra noeth?

Mae'r Gymraes Hayley Tullett drwodd i rownd derfynol y râs 3,000 metr ym Mhencampwriaethau Dan-do y Byd yn Lisbon.

Ers marwolaeth Diana bu rhyw fath o râs ymataliol ac maen debyg mair lluniau dros o Sul ydoedd y gwyro gwirioneddol cyntaf oddi wrth hynny - a hynny dan sêl bendith y Frenhiniaeth ei hun a oedd yn siwr o fod yn ymlawenhau yn yr holl sylw canmoliaethus.

'Pa bleser sy 'na mewn rhedeg ras a'r wobr yn eich poced cyn cychwyn?' .

Doedd dum un pwynt i Michael Schumacher a fethodd orffen y ras.

Dysgai y gall unrhyw un trwy ymdrech fyw'n ddibechod, heb ddibynnu ar ras na chymorth Duw a bod pob un yn dechrau'i fywyd yn y byd â dalen lân i'w lyfr.

Cyhoeddwyd adroddiad cyn y râs yn dweud fod cael cyfathrach rywiol y noson cynt yn gwneud ichi redeg yn gynt y diwrnod wedyn.

Ar adegau eraill, rhoddir pin a ddefnyddiwyd i wneud gwisg briodas drwy enwau'r ceffylau fydd yn rhedeg mewn ras.

A sicrhau'r dwbwl ar ôl curo Abertawe 1 - 0 ar y Cae Râs 'nôl ym mis Hydref.

A'r ras gyfnewid.

Ras dros bum milltir fel arfer ac mae'n werth i'w gweld gan fod y camelod mor fawr ac yn medru symud mor gyflym.

Bydd Chris Killen yn aros ar y Cae Râs ar fenthyg o Manchester City am fis arall.

WALI: (Yn simsanu gan emosiwn braidd) Ras gyfnewid a nofio ar dy gefn?

Mae hi eisoes wedi ennill y râs 800 metr ac y mae hi'n gobeithio ennill y râs 200 yn hwyrach yr wythnos hon.

Credwn nad oedd dim yn wahanol ar wahân i'r tywydd, y codwm, ras wedi ei cholli ...

Bydd Wrecsam yn wynebu Bury ar y Cae Ras, heno.

Bydd Wrecsam yn chwarae Bangor ar y Cae Râs yn y Cwpan Cenedlaethol heno.

Ras oedd hi erbyn hyn i gyrraedd y pentrefi mwyaf ynysig cyn y mudiadau dyngarol neu, yn well fyth, gyda'r llwyth cynta' o sachau bwyd.

Y math o gemau fyddai'n cael ei chwarae ar nos Wener fyddai'r rheini lle mae'r tîm sy'n ymweld â'r Cae Râs ddim yn dod â llawer o gefnogwyr gyda nhw.

WALI: A'r ras gyfnewid.

Chwaraeir dwy gêm ail gymal rownd gyn-derfynol y Cwpan Cenedlaethol heno - Wrecsam yn erbyn Y Barri ar y Cae Râs, ac Abertawe yn wynebu Merthyr ar y Vetch.

'Mae syrthio mewn cariad yn bur debyg i syrthio oddi wrth ras', meddai Mrs Elias, a 'caru ydy'r perygl mwyaf i weddio'.

Ymgais fyddai hyn i gynhyddu nifer y cefnogwyr sy'n dod i'r Cae Râs.

Fe'm llyncwyd i fyny Mewn syndod i gyd, Wrth feddwl am angau Iachawdwr y byd; Trysorau o gariad, Trysorau o ras, Na fedr angylion Eu mesur hwy maes.

Mae Ipswich yn dal yn y râs am le yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mae hwn yn arwydd pellach o'r newidiadau a'r awydd am newidiadau sydd yna ar y Cae Râs.

mae'r hysbyseb yn dangos andros o ras geir trwy strydoedd un o ddinasoedd yr Unol Daleithiau yn nhraddodiad gorau Bullit ac ati.

Ac a fydd yno rywun ar ôl i sôn wrthynt am yr 'hen ffyddlondeb' a ddangoswyd iddynt yn yr 'anial cras' ac a barodd iddynt anghofio'r cyfyngdera' 'wrth foliannu nerth ei ras'?

Ras Tafari, brenin Ethiopia, yn dod yn ymherawdr ar farwolaeth yr ymerodres Zauditu, ac yn mabwysiadu'r enw Haile Selassie, 'Grym y Drindod'.

O Dad, anfon donnau dy ras a'th gariad aton ni'r bore yma.

Mewn ras arall agos, enillodd Al Gore New Mexico o 481 pleidlais.

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

Yn wynt ac yn goch i gyd ymddangosodd rhes o redwyr chwyslyd a oedd yn amlwg wedi bod yn ymlid râs hir iawn.

Y bore yma enillodd y râs 400 metr cadair olwyn i ychwanegu at ei medalau aur yn y rasys 100, 200 a'r 800 metr.

Gan gerdded drwy'r gwlybaniaeth i fyny'r rhiw mewn esgidiau rasio cyn deneued â phapur, meddyliais yn galed am y ceffyl roeddwn wedi dechrau'r ras ar ei gefn, a cheisio didol a dethol yr hyn yr o'n i am ei ddweud wrth ei hyfforddwr.

Mae Ef yn fwy na'i roddion, mae Ef yn fwy na'i ras, Yn fwy na'i holl weithredoedd o fewn, ac o tu maes; Pob ffydd, a dawn, a phurdeb, mi lefa' am danynt hwy, Ond arno ei Hun yn wastad edrycha' i'n llawer mwy.

Mae'r hyfforddwr, Clive Griffiths, wedi dewis yr un tîm a gurodd Ynysoedd Cook ar y Cae Râs, Wrecsam, ddydd Sul.

Cafodd Lisa ras i dewi ac yfodd ei choffi Felly,' meddai yntau gan yfed, ac yna syllu i fyw ei llygaid.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

Pan ddeuai diwedd pnawn nid oedd llawer o sefyllian yng nghyffiniau'r ysgol, dim ond ras am adref, waeth pa mor bell oedd hwnnw.

Tim Dwyran oedd y buddugwyr hefyd y ny Ras Fawr, lle roedd aelodau i wisgo i fyny fel ceffyl, joci, a hyfforddwr, ac i redeg ras go iawn yn erbyn y clybiau eraill.

HEULWEN: Ras gyfnewid a nofio ar ei chefn.

Er bod Maya Angleou, Geralllt Lloyd Owen, R.S. Thomas, Steve Eaves a llawer iawn mwy yn y ras, Waldo sy'n ennill bob tro.

Gweddi%a am ras.

O gopa un o'r rhai isaf ohonynt y cynhelir y ras sgio ryngwladol yn y gaeaf.

'Gwraidd edn mewn gradd ydwyd', meddai Wiliam Llŷn, 'mwy'n dy ras na mân wŷr wyd'.

Heddiw enillodd y râs 200 metr cadair olwyn.

Dyw Baulch ddim yn cystadlu yn y râs 400 metr unigol.

Wedi'r cwbl, yr oedd y dyn yn adnabyddus drwy Gymru gyfan, a byddai hanes ei gwymp oddi wrth ras ymhob papur drannoeth.

Credaf bod eisiau pentwr o ras i fyw fel hynny.