Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

realiti

realiti

Dymunai gyfleu agwedd ar realiti nas gwelir ar wyneb pethau - agwedd sydd yn ddigon hawdd i ddyn ei chuddio rhagddo ef ei hun gan ei gwthio ymhell tu hwnt i gyrraedd meddwl.

O'r cychwyn cyntaf dadleuodd Cymdeithas yr Iaith dros bwysigrwydd Cynulliad trwyadl ddwyieithog, ond, flwyddyn wedi sefydlu'r Cynulliad realiti'r sefyllfa yw mai lleiafrif bach o aelodau'r Cynulliad sy'n dewis siarad Cymraeg ar lawr y siambr a llai fyth yng nghyfarfodydd pwyllgorau'r Cynulliad.

Gall sleidiau lliw o safon dda ddod â phobl a lleoedd yn llawer nes atom na'r lluniau du a gwyn gorau, diolch yn bennaf i'w hansawdd clir, eu manylion a'u realiti.

Hwy, y pethau diddarfod hyn, sy'n aros yn realiti ffisegol.

Ni ddewisodd Kitchener drafod ei ddeunydd yn y dull naturiolaidd oherwydd ewyllysiodd afael yng nghymlethdod llawn y realiti sydd y tu hwnt i'r math o resymegu y mae'r dull naturiolaidd wedi'i seilio arno.

Y mae realiti pechod dyn, a'r dieithrwch, sy'n ganlyniad hynny, rhwng Duw a dyn, yn cael ei gydnabod yn gyffredinol drwy'r hen Destament.

c) mai realiti'r sefyllfa yw fod cyrff o fewn y tair sector (cyhoeddus preifat a gwirfoddol) yn gweithredu fel taw Saesneg yw iaith swyddogol y wladwriaeth, ac yn amlach na pheidio unig iaith swyddogol y wladwriaeth hefyd.

Ymwneud â'r masg anorfod a wisga dyn, y diffyg cyfathrebu sy'n bodoli yn ein mysg, osgoi a methu wynebu realiti, twyllo a dweud celwyddau, a'r dirgelwch sy'n bodoli ynglŷn â dyn.

Tyr ebychiad chwerw Ifan ar draws y disgrifiad breuddwydiol ac fe'n hatgoffa ni o realiti arswydus eu tynged

Er gwaethaf yr atgasedd o'u cwmpas, rhaid oedd derbyn realiti a cheisio byw fywyd teuluol hapus a llawn.

Wedi dweud hynny nid yw ynof fod yn ddibris o werth ystadegau i ddyfnhau ein deall o realiti sefyllfa.

Ond mae'n bryd i'r Eisteddfod ddeffro a wynebu'r ffaith mai dyma'r realiti ac nid yr iaith flodeuog yna sydd ar y llwyfan, ac rwy'n credu y bydd y gynulleidfa yn ei dderbyn e." Roedd y sgript wedi ei anfon at yr Archdderwydd, neb llai, er mwyn cael sêl bendith swyddogol ac, wrth i'r cast ddechrau gweithio arno, fe gafodd rhai elfennau eu newid, gyda'r disgyblion yn datblygu llawer o'u syniadau eu hunain.

Anwybyddwyd realiti oherwydd nad oedd yn cyd-fynd a'r hyn a oedd yn ysgrifenedig ar bapur - sef yng ngweithiau cysegredig Marx a Lenin.

I Kant y maent yn rhan o realiti er hynny oherwydd fod anghenion ein bywyd moesol yn ein gorfodi i gredu ynddynt.

os oes realiti rhaid iddo fod yn lluosog iawn ac yn amrywiol.

Ar ben hynny, rhaid gwneud cyfiawnder â chyfanrwydd y realiti o'n cwmpas.

Realiti'r sefyllfa yw bod na fesur yn cwblhau'r camau olaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd a all labelu pob un aelod o Gymdeithas yr Iaith yn derfysgwyr, ynghyd ag aelodau nifer fawr o fudiadau protest di-drais cyffelyb.

Ond nid yw'n dihysbyddu realiti'r dderwen wrth wneud hynny.

Ir addolwyr hyn, nid syniad yw undeb Ewropeaidd, ond realiti.

Fe ellid dweud fod hon yn agwedd radical tuag at realiti pechod, ei weld fel rhywbeth cynhenid yn y natur ddynol.

Rhaid cofio, fodd bynnag, mai nod theori yw egluro yn hytrach ha disgrifio; ac, er mwyn egluro, y mae elfen o haniaethu (neu symleiddio) realiti yn hanfodol.

A yw hi'n bryd i ni fel Cymry wynebu realiti a cheisio cyfathrebu â'n gilydd?

Ceisia aelodau'r teulu sydd yn dilyn merched Glangors fach i'r tyddyn greu realiti o ddelwedd y winllan.

Ym mhob peth, roedd hi'n bosib' gweld sumbol; y peryg' oedd eu bod nhw'n fwy o sumbolau o dyb neu ramant y Gorllewin nag o realiti'r sefyllfa yno.

Realiti'r sefyllfa, wrth gwrs, oedd fod Lithuania'n ceisio creu safle iddi'i hun fel gwladwriaeth aeddfed, fodern ac roedd digwyddiadau'r dydd i fod yn ernes o hynny.

Nid breuddwydion rhamantus mo'r rhain ond gyda bwriad Cymdeithas Pêldroed Cymru i sefydlu Cynghrair Cenedlaethol maent bellach yn rhan o realiti.

Beth bynnag, beth yw realiti'?

y gwir amdani yw nad oes dim un llyfr erioed wedi gallu adlewyrchu realiti yn ei grynswth.

Mae ymgolli fel hyn yn golygu nad yw realiti yn bod iddyn nhw." Mae'r Parchedig Densil John yn gweithio ymhlith y digartref yng Nghaerdydd gyda Chapel y Tabernacl, Yr Ais, lle mae'n weinidog, yn paratoi paned o de a brechdanau ar gyfer rhai o bobl ddigartref y brifddinas bob Sul.

Ni thâl cyhoeddi mai gwyddoniaeth a'r method y mae hi'n ei ddefnyddio yw'r allwedd i bob gwedd ar realiti.

Nid drwy hap a damwain y daw dwyieithrwydd gweithredol yn realiti yn y Cynulliad.

Syniad arall a gafwyd oedd "homologous structures" - nid oedd adlewyrchiad nag adgynhyrchiad yn digwydd rhwng y broses uwch- ffurfiannol a realiti'r sylfaen economaidd, ond yr oedd y strwythurau yn 'cyfateb' i'w gilydd, a gellid canfod y gyfatebiaeth hon trwy ddadansoddi.

basai'n cymryd ugain tudalen i ddisgrifio'r weithred o agor drws, a hyd yn oed wedyn, nid y weithred o agor drws a geid eithr disgrifiad mewn geiriau o'r weithred, a fyddai hwnna ddim yn realiti'.

Felly tuedda'u gweithiau i fod yn fwy confensiynol na'r realiti y maent yn honni ei gynrychioli.

Cwblhaodd Ieuan Gwynedd ei gerdd olaf - a'i orau - dridiau cyn ei farwolaeth ac anodd peidio â chredu nad yw 'Cân y Glo%wr' yn tystio'n groywach i realiti bywyd yng Nghymru na 'Bythod Cymru'.

Yn anffodus, fel y gwyddom, nid dyna ydi realiti yn ein hysgolion, gydag athrawon yn gorfod ymdrechu a brwydro o dan amgylchiadau anodd a di-gefnogaeth.

Maent i gyd wedi rhoi llythyren y traddodiad uwchlaw'r ysbryd a chymryd delfryd yn lle realiti cyflawn.

Credwn fod angen chwyldroi meddyliau ac arferion yn ogystal ag ailddosbarthu cyfleon a grym o fewn cymdeithas er mwyn troi hyn yn bolisi bwriadol ac yn realiti.

beth oedd yr hen gymry yn ei wneud heb realiti'?

Yr oedd realiti y byd i ddod yr un mor gryf iddo â realiti y byd oedd yn byw ynddo wrth ysgrifennu - yn wir, yr oedd yn gryfach, gan mai cysgod yn unig oedd y byd hwn.

Wedi'r cwbl, ni allai'r method ganiata/ u hunanlywodraeth i unrhyw ran o realiti.

Mae'r ail ddeddf iaith yn cyfeirio at hawliau ieithyddol cwsmeriaid yn y farchnad, fel cydnabyddiaeth o realiti bywydau pobl Catalonia.

Erbyn hyn, nid oes prinder beirniaid i dynnu sylw at y gwahaniaeth dolurus rhwng y delweddau rhamantaidd a'r realiti llwm a oedd ohoni fynychaf, yng Nghymru fel ymhob gwlad arall y rhamanteiddiwyd ei gwerin.