Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

record

record

Roedd en dechraur gystadleuaeth gyda thipyn o record ar ôl helpu ei wlad i ennill Cwpan y Byd a wnaeth ddim byd i dynnu oddi ar ei berfformiad bryd hynny - nar ddawn ar gallu sy gandd fe.

Patrick Kluivert sgoriodd bedair o'r goliau - record yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop - a Marc Overmars gafodd ddwy arall.

Deutsche Grammophon yn cyflwyno'r record hir gyntaf.

Mae Abertawe, felly, trwodd fel yr ail dîm yn Grwp C y tu ôl i'r Barri a TNS trwodd fel y trydydd tîm gyda'r record orau yn y gystadleuaeth.

Gwyddwn yn rhy dda am record Talfan.

Teledu BBC yn dod i rai rhannau o Gymru Cychwyn y 'Festival of Britain'. Deutsche Grammophon yn cyflwyno'r record hir gyntaf.

Mae James Thomas ar fin creu record newydd drwy chwarae'i ddeunawfed gêm dros y tîm.

Mae'n argoeli am gynhaeaf ŷd ffrwythlon a phroffidiol; llawnder i dorri pob record.

Bydd tocyn record punt i'r ateb agosaf.

Fe sy'n dal record ceisiau Cymru o hyd gyda 28 ond mae Neil Jenkins bellach wedi hen basio ei record e o gapiau.

Byddaf yn llogi hofrennydd i ollwng tocyn record i lawr y simdde yr wythnos nesaf.

Mae carfan ddatblygu Cymru o fewn un gêm i adael Canada gyda record gant y cant ar ôl buddugoliaeth 32 - 17 dros Canada Ifanc yn Calgary neithiwr.

Yn wir, y record gyntaf imi ei phrynu oedd Megamix gan Technotronic (dechrau da te ba'?!), ac fe fyddai'r casgliad yn cynyddu'n wythnosol, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth y clybiau gan amlaf.

Dywedodd y cwmni betio Ladbrokes fod gobaith iddi werthu'n well nag unrhyw record arall dros yr wyl.

Mae Awstralia'n parhau i ymestyn eu record anhygoel.

Prynwch gylchgronau, record newydd, rhywbeth na fyddech yn ei brynu fel arfer.

ymweliad a'r siop drin gwallt, tocyn record neu dusw o flodau.

Ma' record 'da Dyff... a Mark 'fyd.

Syn record, maen debyg.

mae'r record yma wedi aros am sbel fach nawr, meddai Robert wrth y Post Cyntaf y bore yma.

Ond mae gan Fowler record arbennig yn erbyn Arsenal.

Gyda chasetiau a CDs yn disodli'r feinyl du, lansiwyd y record honno - gan Datblygu, Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog - fel y sengl Gymraeg olaf, gan ddefnyddio logo cyntaf cwmni Sain arni.

Bydd y tîm dan 21 oed yn chwarae'n erbyn yr Wcrain y prynhawn yma, ac yn gobeithio rhoi terfyn ar eu record drychinebus o golli'n ddiweddar.

Bydd Barnet, sy'n ugeinfed yn y drydedd adran, yn dod i Barc Ninian heno gan wybod bod eu record nhw oddi cartre yn drychinebus.

Ond parhau y mae record ardderchog Y Barri yn erbyn Abertawe.

Mae gen i record o Martin Luther King yn traddodi tair neu bedair o'i areithiau mawr.

Bydd hynny'n record i Gymru, heblaw am safle'r golwr.

Er na fydd eu record hir, Stwff, yn apelio at bawb, mae'r amrywiaeth yn sicr o blesio'r rhai hynny sy'n mwynhau cerddoriaeth heb gitars a drymiau diddiwedd.

Chwarae dwy, colli dwy, oedd record Casnewydd yn erbyn Castres yn Nharian Ewrop y tymor diwetha.

Ac mae Bryn Terfel yn gobeithio y bydd ei record sengl gyntaf, gafodd ei rhyddhau gan Deutsche Grammophongan, ar frig y siartiau pop dros y Nadolig.

Gwantan iawn oedd record Llanelli yn y gême yn erbyn Caerdydd--wedi'r cwbwl, dim ond un gêm ro'n ni wedi'i hennill mewn pedair blynedd ar ddeg, ac roedd hwn yn gyfle rhy dda i'w golli, er mwyn dechre unioni'r cydbwysedd.

Fe ddywedodd - - fod hyn yn seiliedig ar "track record" y cynhyrchwyr.

A dydy record John Harston ddim mor arbennig yn y crys coch.

Yr un yw record Casnewydd a Phontypridd - dwy fuddugoliaeth allan o bedair.

Bellach, edi i berthasau a chyfeillion gilio, dyma gyfle i astudio ambell anrheg, fel y pinsgrifennu newydd, y record ddwbwl, a'r llyfrau a gaed gan hwn ac arall.

Yn y gêm arall yn y grwp, gwnaeth Yr Eidal barhauu record gant y cant yn y gystadleuaeth drwy guro Sweden 2 - 1 efo gôl hwyr gan Alessandro Del Piero yn Eindhoven.

Am resyme sy ddim ond yn wybyddus i ddewiswyr Caerdydd, gadawyd y cryfa o'u rheng flaen, Mike Knill, allan o'r tîm; felly hefyd eu ciciwr gore, y Cymro o Lambed, John Davies, a oedd eisoes wedi torri'r record am sgori pwyntie i'r Clwb.

Mewn ymgais i greu mwy o farchnad, mae Ankst wedi dilyn polisi brwd o hysbysebu'n helaeth ac yn yn gyson, gan arbrofi gyda dulliau gwahanol - fel rhoi copi%au am ddim o un record sengl newydd gyda'r tocynnau mynediad i ddawns lwyddiannus ym Mhafiliwn Ponthrhydfendigaid adeg Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y llynedd.

Roedd angen gôl yn yr eiliadau olaf i warchod record gartre ddi-guro Caerdydd.

Roedd hon yn record o sgôr i Gymru yng Nghwpan y Byd, dechrau perffaith a'r 5,000 ddioddefodd yr elfennau yn cael gwerth eu harian.

Y dyddiau hynny, nid y cwmni%au teledu ac ati a benderfynai werth ac apêl gornest ond y rhai oedd yn barod i dalu eu pres wrth y clwydi i weld gornest go iawn cyn bod sôn am borthi neb â gornestau rhwydd drwy fewnforio 'stiffs' i greu record a statws artiffisial i'r un ffefryn.

Spadea yw'r chwaraewr gyda'r record salaf ar y gylch-daith - mae wedi colli 22 gêm yn olynol.

Tiger Woods enillodd Bencampwriaeth Agored Yr Unol Daleithau a hynny o bymtheg ergyd - record yn un o bedair prif gystadleuaeth y gêm.

Colli yn erbyn Samoa yng Nghwpan y Byd tro dwetha ddaeth a record ddi-guro tîm Graham Henry i ben.

A hithau gyda'i brws ar y llwyfan yn ei glad-rags, pwyntia Tref y sbotleit arni a chwarae'r record arwyddocaol ei geiriau a ganlyn: I had a dream - a dream about you, babe.

Hyd yn oed os bydd Caerdydd yn ennill ar Barc y Strade bydd eisiau record byd o fuddugoliaeth arnyn nhw.

Ail sioc y daith oedd clywed record o Hogia'r Wyddfa ar y radio - sioc anferthol.

Pedair gêm gyfartal o'r bron - dyna record Cymru yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd.

Bydd yn curor record y mae wedi ei rhannu ers tro gyda dau o gyn-chwaraewyr Morgannwg, Jeff Jones ac Allan Watkins, o chwarae mewn pymtheg prawf i Loegr.

Fo'n tynnu'r llenni a rhoi record i chwara, yn rhythu arna i'n awchus a 'nhynnu i ddawnsio, yn dynn at ein gilydd fel gelod.

Mi wnaethom ni ryddhau sengl a record hir gan y grŵp y flwyddyn honno.