Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

reddf

reddf

Ni ddatgelodd neb erioed wrthyf beth oedd gwaith tad Talfan, ond fe wyddwn drwy reddf ei fod yn perthyn i broffesiwn bur wahanol i'm tad i.

Allwn ni wrth reddf ddim gadael i ysgolion mewn ardaloedd tlawd a difreintiedig 'gardota' ar ochor priffyrdd addysg.

At hynny, y maent yn ddychanwyr wrth reddf.

Fyddwn i'n gobeithio ein bod ni i gyd fel aelodau Cymdeithas yr Iaith, er efallai yn ymateb yn reddfol i sefyllfa, yn hyderus fod y reddf honno wedi ei seilio ar egwyddor o hir ymarfer.

Y mae hefyd yn bwnc lle gall ennyn brwdfrydedd y myfyrwyr fod yn waith hynod o anodd oherwydd y reddf sydd yn hanfod pob un ohonom i amddiffyn ein hunain rhag gofidio gormod am boenau pobl eraill.

Os oes lle i amau doethineb barn Gruffydd wrth ehangu maes trafod Y Llenor, nid felly cywirdeb ei reddf.

Ac nid gorchwyl hawdd yw honno i bobl sydd yn gweihio ym myd cadwraeth, ac yn amddiffynol o unrhyw anifail wrth reddf.

Oherwydd yr oeddwn yn ddeg ar hugain oed cyn dechrau dysgu Cymraeg o ddifrif, a chan na chefais y fraint o gael fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, nid oes gennyf mo'r reddf na'r hyder sy'n anhepgor i un a fynnai arfer iaith yn y modd mwyaf celfydd sydd, sef i wneud cerdd.

cyfuniad o reddf yr artist a defnyddio technegau'n effeithiol.

Mae'r amaethwr wrth reddf yn ymwybodol o'r amrywiaeth priddoedd sydd rhwng ei gaeau, ac o fewn caeau unigol.

Diau i'w gyfeillgarwch a Lhwyd fod yn ddylanwad ar Rowlands ac yn addysg iddo, ond yr oedd wrth reddf yn fyfyriwr darllengar, cynhwysfawr ei ddiddordeb.

Gan fod y reddf i chwilio am deth mor gryf mewn anifail sugno, ceir cryn drafferth weithiau i gael llo i ddygymod ag yfed o'r bwced.

Ond, fel newyddiadurwr wrth reddf, y digwyddiadau mawr a'u hoblygiadau a aeth â bryd John Griffiths o'r funud y cyrhaeddodd Efrog Newydd .

Yn ei dro deilliai ohono hefyd reddf sylfaenol i fagu ewyllys dda.

Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.

Bid a fo am hynny, gan fod Saesneg yn ei is-ymwybod, megis, y mae gan Eingl-Gymro reddf sy'n ei alluogi i'w feirniadu ei hun wrth sgrifennu yn yr iaith honno.