Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

reilffordd

reilffordd

36 yn marw mewn damwain reilffordd yn Clapham.

Safai'r orsaf reilffordd ar dir gwastad, yn wahanol i orsafoedd dyrchafedig Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.

Symudwyd hi i Lanbedr Pont Steffan yn y ganrif ddiwethaf ar ol agor gorsaf reilffordd.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

(i) Gofyn i bencadlys y Rheilffyrdd Prydeinig a oedd y Rheolwr Rhanbarthol yn ymwybodol o'r bwriadau i gau rhai o'r gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a phaham na chyflwynwyd y mater i ystyriaeth y Pwyllgor Cyswllt.

(ch)Rheilffordd y Cambrian CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar erthyglau a ymddangosodd yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â bwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau rhai gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.