Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

reit

reit

Edrychai'r Doctor Ymennydd arnaf yn reit slei: ac efallai ei fod yn meddwl fod pawb yn mynd yn rhyfedd ar saffari.

'Mae un ohonan ni'n mynd i fyny'r grisia cefn i'r hen stafell chwarae, reit, heb roi'r gola 'mlaen.

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

Ty Apple yn reit fawr.Y teulu i gyd yn byw yno - hi, ei brodyr, gwraig a phlentyn ei brawd hynaf yn ogystal a'i mam a'i thad.

Er enghraifft, gwelir llawer o graig noeth yn y golwg, ac y mae'r llethrau i gyd yn reit serth.

Syllu'n reit flinedig ar bawb a cherdded at yr amserlen.

'Reit, ta, blewyn.

Oedd, roedd o'n gorff digon cryf i allu mygio unrhyw un, yn enwedig rhywun reit hen.

Daeth ataf a rhoi ei law ar fy ysgwydd yn ei ddull cu a thadol (a bu ei gyffyrddiad grasol yn help nid bychan i mi ddeall ystyr seicolegol 'tadolaeth Duw', reit siwr).

Mae hwnna'n sylw reit arwyddocaol.

Yr oedd yn ddyn reit agos i'w le mae'n debyg ond yn ei athrawiaeth cymerai olwg ry arwynebol a gobeithiol o'r natur ddynol.

"Ol reit, ol reit," ebr ef_'n gynhyrfus a thipyn yn bigog.

`Mae yn reit ddrwg gen i drosoch chi, Harri,' ebe Ernest; `brysiwch adre i newid eich dillad,' a neidiodd ef a'i gydymaith i'w cyfrwyau ac ymaith â hwy, gan adael Harri i droi tua'r Wernddu.

Un ddigon pethma oedd hi hefyd, mewn cwpan papur anodd ei drin, ond fe gafodd wen reit gynnes gan y llafnes a'i tywalltodd iddo a "Thanks, luv" wrth gymryd ei arian parod.

Ew, rhyngoch chi a minnau o'n i'n teimlo'n reit falch ohonaf fy hun!

meddai'n reit bendant.

Teimlai'n reit sâl wrth weld Huw'n deifio ar lawr i ddangos sut roedd wedi arbed gôl wych yn yr ysgol amser cinio.

Bu'r llyfr yn foddion i'm hatgoffa o'r newydd fod rhywbeth reit drist o gwmpas gyrfa Christmas Evans.

'Bydd yna chwe mis reit galad o 'mlaen i rwan,' meddai.

Dwi'n reit famous yma, a dweud y gwir.

"Reit 'ta lads, draw i'r Sailing, a mi geith y cono pia hwn weld great balls of fire," meddai Sam a chwerthin yn uchel ar ei ddoniolwch ei hun.

Ond yr oedd wedi bod yn weinidog prysur mewn eglwysi mawr am ormod o flynyddoedd i wybod faint oedd hi o'r gloch reit ar ffrynt y frwydr i'm tyb i.

"Y John Preis na, dyna'r cena agorodd y giât." Ond cafodd Edward ras rhyfedd i ddal rhag ei ysgwyd yn reit dda.

Mae'n syn gen i na fydden nhw wedi llyncu'r llestri hefyd!' 'Hy!' meddwn i'n reit bigog.

* * * * * "Reit, yr ail broblem, y dreigiau yma sy'n sgrechian," meddai Llefelys.

Fodd bynnag, rhaid bod yn reit ofalus wrth dderbyn hyn, gan fod economi Cymru yn dechrau adfywio o sylfaen cryn dipyn yn is, ac ni welwyd effeithiau'r twf i unrhyw raddau o werth yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Tyrd wir, i ni gael tro reit handi.'

I ddechre, roedd e am roi deg mil o bunnodd i'r eglwys - ar un amod, fod y cerflun yn cal i osod yn y corff, reit yn ymyl y pwlpud, a set Madog.

Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.

"Reit, barod?

Wedyn, heb arlliw o addfwynder, byddai'n dweud reit siarp, 'A dim gair wrth eich Mam'.

Reit ym mhen draw'r Ynys, y rhan ddeheuol, tu draw i'r Goleudy.

Mae hi reit i fyny yn dop y dre, a wedyn mi oedd raid i ni gychwyn yn gynnar, wrth bod 'na dipyn o waith cerddad.

Erbyn y pumed ty bwyta, a'r galon yn reit uchel, fasa hi ddim gwahaniaeth gen i tasa'n rhaid bwyta yng nghwmni llond ystafell o greaduriaid o blaned arall ar nos Calan!

Fel arfer roedd e'n gorfod gwasgu'n reit galed, ond y tro hwn roedd y pedal yn hollol llac.

Ac y mae edrych tros droednodiadau gwerthfawr ei lyfr yn codi cwestiwn reit ogleisiol mewn perthynas â'i bryder y gall y traddodiad Cristionogol yng Nghymru fod yn tynnu ei draed ato.

Ond y mae llawer o'r cartrefi yn y dref yn reit fodern, fel y rhai sydd yn y llun.

Aeth cyn belled â dweud ei fod o'n reit hoff o gi oedd wedi'i ddisgyblu'n dda.

Yr ydym wedi gweld ei bod yn reit hawdd siarad am a disgrifio amrywiadau mewn ffordd o fyw o un ardal i'r llall.

Ond y tro hwn roedd y chwaraewyr yn bendant mai ni ddylai wneud y penderfyniad ac fe'i hanfonwyd allan o'r ystafell yn reit ddi-seremoni.

'Dydi ddim yn reit.

Gyda'r Deri yn wag a busnes yn brin, maen rhaid i Diane feddwl am gynllun yn reit sydyn i roi syched ar bobol a'u denu i'r dafarn.

Ac y mae rhai o'i emyna' yn bur adnabyddus er mai un cwpled y cofia'r mwyafrif amdano bellach, reit siwr:

Cael sgwrs reit ddifyr.

Os gwnaiff un ohonyn nhw rywbeth i ti amser chwarae'r pnawn - a mi wnân, raid i ti ddim ofni - gwasga fo'n reit dda, neu rho hergwd iddo fo.

Yn sydyn reit, a Tref wrthi'n trefnu ei gynhebrwng, daw Mona a'r newydd fod dynion y cyngor ar riniog y Rex.

Ty reit ddiddorol.

'Reit, mi rwyt ti'n rong!' gwaeddodd, yn plannu bys i ganol ei lyfryn.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Teimlai Mam yn reit ddigalon ar ôl y ffiasgo amser swper a'r ffrae wedyn ac i'w chysuro'i hun aeth i nôl tomen o hen albwms lluniau i sbio drwyddynt.

Roedd yna hogan bach reit glên, reit ddel, yn y fan honno, ddigon i dynnu'ch meddwl chi oddi ar bys.

'Da, 'ngwas i, tasat ti ond yn ca'l dy dderbyn yn bregethwr cynorthwyol, William, fath â dy daid ers talwm.' 'Ydi'r cur pen yn well, Mam?' 'Dipyn bach.' 'Mi wna i banad bach o Ofaltîn i ni'n dau cyn mynd a mi fedrwch chi fynd i'ch gwely'n reit handi wedyn.'

Mi roedd cynnig bore yma ynglyn â chyfrifoldebau yr awdurdodau unedol newydd yn bwysig am ei fod yn gosod y cyfrifoldeb reit ar y gwaelod.

Mae hyn yn mynd ymlaen am tua dwyawr reit dda gyda'r MC yn galw enw'r enillydd ac yn trafod gyda'r beirniaid cyn galw am y teirw nesaf.

Ddydd Sadwrn yr oedd penderfyniad y bechgyn yn amlwg reit o'r dechre a roedd lefel y sgilie hefyd yn wych, whare teg iddyn nhw.

"Edrychwch ar ei ôl o'n ofalus nes cyrhaeddwn ni'r gwersyll newydd." "Reit, syr." Ond wedi meddwl am y peth dechreuais deimlo braidd yn flin fod y Capten mor hunanol, a phan ddaeth y lori heibio i lwytho'n taclau, a minnau'n helpu gyda'r gwaith, dechreuais ddyfalu sut y gallwn i ei ffidlan hi i gadw fy ngwely.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

Cynigodd Steven a Mabel goginio pryd inni a chawsant hwyl reit dda - pryd blasus dros ben.

Rŵan, rhag i ni wastraffu dim amser - ydi'r bibell efydd yn barod!" "Ydi, dacw hi." "Reit, rho di dy glust wrth un pen ac fe siarada i y pen arall.

Os nad yw hi'n nerfe byw nawr, fe fydd hi cyn bo hir.' 'Reit, dwi ar y ffordd.' 'Dal arno, nei di?

Cofio bore godi gyda Dafydd Ellis i gyfarch y wawrddydd gyntaf ar y Môr Canoldir, a ninnau'n hwylio reit i bwynt codiad haul.

Neidiasant ar y trên cyntaf am adref, ac yno y darfu iddyn nhw aros am gyfnod yn reit swat, gan arswydo rhag pob caniad ffôn neu gnoc ar y drws.

Ond mi fydd angen sylw'n reit fuan.' Gwibiodd llygaid Lisa i gyfeiriad Tasker Price.

Choda i ddim heno chwaith - mi dwi reit oer.

Does yna yr un i'w gael erbyn hyn reit siŵr.

Ar lan y llyn mae rhai tai reit solet, wedi eu hadeiladu a brics cochion, ac yna strydoedd clos o dai sy'n gymysgedd o frics a mwd.

Go brin i'r terfysgoedd fod yn ddi-drais, fodd bynnag, oherwydd ai pethau'n reit boeth yn yr arwerthiannau a gynhelid ar ol atafaelu eiddor rhai a wrthodai dalu'r degwm.

Roedd Arabrab ei wraig yn gyfoethog iawn, a'i safle ef fel Swyddog Cynllunio (swydd fach reit hwylus a digon di-straen) yn dibynnu arni hi i raddau helaeth, ac ni allai fentro'i chroesi.

Wrth ei gwisgo, roedd o'n ennill modfedd neu ddwy reit dda ac yn bwysicach fyth, nid fel Willie-llnau-ffordd y teimlai ynddi ond fel William Solomon, neu hyd yn oed Mr William Solomon.

Reit, cariad?' 'Diolch i chi.' Erbyn i Ifan Ifans gyrraedd yn ôl at y bus lledorweddai morwyn Tyndir ar un o'r seti croesion a'i chyntafanedig yn gorffwys ar ei dwyfron.

Mae'n bwnc reit ffasiynol.

Rhaid oedd cerdded yn reit ddistaw hefyd gan fod sw^n traed yn tarfu pysgod.

Arferai Hugh Owen Talgwyn Isaf gario "visitors" o Lerpwl, Manceinion a Chaer yn ei "waggonett" dau geffyl o Stesion Pentraeth i'r Traeth Coch am ychydig sylltau, a'r un modd o'r Benllech gan fod tua hanner milltir i'r pentre pryd hynny, ond sydd erbyn hyn yn dref reit dda.

"Mae arnaf i eisiau'r camp bed 'na sy gyda chi, yr un gawsoch chi gan y Cyrnol." "Reit, syr," meddwn innau, yn hollol ddiniwed.

Efo Audrey wrth y llyw yn theatr Fach ac yn cadw trefn ar y "Merched" mae dyfodol y "pethe% reit saff ar Ynys Mon.

Dydd Llun reit gyffredin.

Gan fod rhai o'r caneuon yn ganeuon actol, a dim llawer o le yn y dafarn fe fyddai sefyll ar fyrddau a seddau yn digwydd yn reit aml.

Er mwyn gwneud penderfyniadau doeth yn y byd sydd ohoni mae'n ddefnyddiol bod â sylfaen reit dda o gefndir gwybodaeth wyddonol.

Reit o'r cychwyn bu'r arbrawf yn colli hygrededd gan fod y gert bren yn cael ei thynnu ar fatiau rwber wedi eu gosod ar y ffyrdd.

Fodd bynnag, yr oeddwn wedi clywed fy ysgrifenyddes ac eraill o ferched Ceidwadol yn sôn am rhyw Brian Bates o Graig-y-Don yn reit aml ac ar y foment penderfynais ei argymell gan roddi fy enwebiaeth bersonol y tu ôl iddo.

Sgorion ni bump cais reit ar ddiwedd y gêm - ddeng munud o'r diwedd.

'Reit unwaith eto, y cyfan, meddai Andrews yn y man a'r blinder yn bygwth cracio'i lais tawel.

Rhuthrodd y ddau i newid er mwyn gweld os oedd y car - model reit ddrud gyda llaw - yn iawn.

Mae'r cawell wedi ei osod gan rywun yn hwyr neithiwr mewn lle reit ddirgel yng nghanol y gwair, ac fe ddaeth y person a'i gosododd drwy'r bwlch yn y berth.

Cerddad wnaethon ni i draeth y Foryd, i lawr drwy Bont a Llanfaglan, ac er ei bod hi'n reit oer pan gychwynnon ni, erbyn i ni gyrraedd Eglwys Llanfaglan mi oedd yr haul yn twnnu'n braf a minna'n gweld y môr ymhell o'n blaena' ni'n las, las, las.

Chaiff hi mo'i thrwyn i mewn i'r tŷ yma, reit siŵr iddi hi.

Saesneg yw'r ail gân; Fly Away - yn agor efo rîff reit ffynci o'r saithdegau.

Gallai fod yn anhygoel o hael a'r funud nesaf yn sbeitlyd reit.

Mi fu bron iddo â cholli'r het unwaith medda fo--'Roeddwn i newydd ddechra' pysgota ar lan y llyn pan ddoth 'na bwff reit sydyn o wynt a'i chwythu i'r dwr.

Mae denu'r cynyrchiadau yma wedi bod yn llwyddiant mawr i Huw Edwin, swyddog datblygu cyfryngau Cyngor Sir Gwynedd, sydd wedi chwarae rhan reit helaeth yn y trafodaethau gyda'r cwmniau.

Cafwyd noson reit hwyliog yn trafod rhaglen y tymor nesa a chafwyd pryd o fwyd i gloi y noson.

"Reit Llefelys, mae popeth yn barod, y twll, dysglaid anferth o fedd a sidan tenau - a drud hefyd os caf i ddweud - drosti.

Roedd ganddi hi lais soprano reit dda, ac fe fydde hi'n cystadlu nawr ac yn y man yn y steddfod lleol, er na fydde hi'n ennill llawer.

Fydd arthreitus ddim yn medru cadw pobl ddieithr allan wedyn ac mae yna dwnel newydd ac ati er mwyn i'r Romans fedru dwad yn eu holau reit handi.

''Sgwn i ar ôl pwy mae o'n tynnu?' gofynnodd Mam yn reit sychlyd.

Erbyn iddo gynyddu digon, fe lifodd y rhwydweithiau darlledu mawr i'r wlad a phan ddangoswyd eu lluniau, am y cyntaf wrth gwrs, fe roddwyd proc reit egr i weinidogion tramor y byd.

Criw reit dda a dweud y gwir.

'Mae'n edrych yn un reit fawr.'

Aeth y llancie 'ne ar eu beics reit drwy'i gardd gefn hi.