Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rengoedd

rengoedd

Yn ystod y dyddiau nesaf, gwirfoddolodd naw mil o bobl, a derbyniwyd dwy fil ohonynt i rengoedd y Polîs Arbennig.

Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.

Ond y mae rhai yn ei rengoedd ei hun hyd yn oed yn dechrau holi faint o gamp oedd hi mewn gwirionedd.

Mae'r llinellau o gerrig yn Karnag yn debyg i rengoedd o filwyr ac yn ôl un stori, byddin o filwyr paganaidd yn bygwth un o'r hen seintiau Celtaidd oeddent yn wreiddiol.

Yn ystod hanner cyntaf y ganrif dôi llawer o'r uchel glerigwyr yng Nghymru o rengoedd y dosbarth swyddogol Cymreig, ond erbyn ail hanner y ganrif nid oedd y duedd hon mor amlwg.

Roedd y rhain wedi bod mor deyrngar i'r llw a dyngwyd i Hipocrates nes eu bod, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhoi llawer mwy o sylw i anghenion y rhai cyfoethog oedd yn llawer mwy tebyg o ddioddef o ddiffyg traul na'r dica/ u oedd yn sgubo fel pla drwy rengoedd y rhai na fedrai fforddio bwyta digon, i bryderu ynghylch diffyg traul.

'Mae'r gêm hon wedi bod yn dda i mi', meddai, 'a theimlaf ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i roi rhywbeth yn ôl iddi.' Ei gariad at y gêm a'i rhwydodd i rengoedd dethol dyfarnwyr Pencampwriaeth y Siroedd, gan ddilyn esiampl y ddau Gymro chwedlonol, Dai ac Emrys Davies.

Yn gyntaf, er ei fod yn aelod ers deng mlynedd ar hugain (ei eiriau o), mae ei wyneb o yn ddigon dieithr i rengoedd gweithredol y Gymdeithas i gael ei gyfri'n wyneb newydd, ac yn ail os ydio am werthfawrogi talent newydd mewn unrhyw faes darllened fyfyrdodau gwleidyddol Hefina Clwyd.