Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

reolau

reolau

Y gwir amdani yw fod ymddygiad o'r fath yn gwbl groes i Reolau'r Ffordd Fawr, sy'n dweud yn eglur y dylai'r carafaniwr fod yn ystyriol o yrwyr eraill, gan adael digon o le o'i flaen i geir eraill dynnu i mewn, a hyd yn oed aros i adael i geir basio os oes angen.

O sôn am sisial a siarad, dylid egluro bod gan Doctor Jones ei Gymraeg arbennig ei hun, gyda'i reolau ei hun wrth dreiglo geiriau, a'u camdreiglo'n ogystal.

'Rwy'n meddwl i mi arogli llwyddiant, a bodlonais gau fy llygaid ar reolau a galw heibio eto nos Fercher.

Hysbysodd swyddog y tollau na chaem fynd ymhellach oni fedrem ddangos darn o bapur gan y meindars i brofi nad oedd ein ffilmio wedi torri unrhyw reolau.

William Jones hefyd, oedd y cyntaf i osod allan reolau llog cyfansawdd neu adlog (compound interest).

Bellach, mae arna i ofn, mae toreth o reolau newydd eto ar ein cyfer ni sy'n defnyddio'r ffordd fawr, a alwaf, os caf fathu ymadrodd Cymraeg, y gyfundrefn 'dirwy ar y pryd'.

Canlyniad hyn yw y medr yr awdurdodau gyflwyno pob math o reolau newydd, megis gofyn i athrawon dagw ffeil bersonol ar bob un o'u disgyblion, gan wybod na fydd unrhyw wrthwynebiad o du'r athrawon rhag ofn i hynny gael ei ddehongli fel amharodrwydd i fod yn driw i'r cyfansoddiad.

Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.

Ymatebodd y Llywodraeth Brydeinig naill ai drwy reolau llym, er enghraifft ar lygru afonydd, neu drwy gynnig cytundebau i warchod naill ai ardaloedd arbennig - fel yn yr ESA neu i warchod adnoddau arbennig megis gwrychoedd, llynnoedd, coedwigoedd (e.e.

Er mwyn medru darllen holl reolau ac amodau y gystadleuaeth cliciwch yma.

Cyhoeddodd y bwrdd reolau er dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddo, ond yn ymarferol byddai'n dyrannu tai yn ôl rheolau cwbl wahanol nas hysbysebwyd fel oedd yn ofynnol dan y gyfraith.

Mae anwybyddu'r gwahaniaethau naturiol rhwng dynion a menywod yn groes i reolau natur, ac yn gwadu rhyddid y wraig i gyflawni ei dyletswyddau naturiol.

Y mae meddwl y gwyddonydd ei hun mor gaeth i reolau ffisegol â symudiad y piston ym mheiriant y car modur, Ar ba sail felly y gellir honni fod unrhyw ddamcaniaeth wyddonol yn "wir".

Mae yna reolau pendant i'w dilyn ac os 'dach chi'n gwneud llinell sy'n iawn yn gynganeddol - ac yn swnio'n iawn - 'dach chi'n gwbod bod hi'n iawn.

Wrth gwrs, mae yna reolau caeth ynglŷn â phwy sy'n cael rheoli'r arian, a pha gyfrifon sy'n rhaid eu cadw, ond mae digon o dystiolaeth fod yr Undebau hyn yn gweithredu'n effeithiol mewn dinasoedd mawrion gan gynnwys Caerdydd.