Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhagddynt

rhagddynt

Ymddangosai'n debyg na fyddai Rod Richards, arweinydd y Ceidwadwyr, yn cael ei big i mewn gan fod ei gwestiynau ymhell i lawr y rhestr a'r gweithgareddau'n mynd rhagddynt yn hamddenol.

Er i Loegr fod ar y blaen 2 - 0 yn erbyn Portiwgal ymhen ychydig dros chwarter awr mynd rhagddynt i golli wnaethon 3 - 2 yn eu gêm gyntaf yn Euro 2000.

Petai'r Gynhadledd yn derbyn y cynnig hwnnw'n bolisi, yr oedd rhai ohonom yn rhagweld ymosodiadau na fyddem yn gallu amddiffyn y Blaid rhagddynt, a byddai'n rhaid inni ei gadael.

Diolchant i ti am ddal y corrach ac fe gesgli mai dianc rhagddynt hwy oedd ef.

Gorfod gollwng bob dim o'i ddwylo a'i gleuo hi rhagddynt fel llwynog o flaen cwn.

Dangosodd yr astudiaethau hyn fel yr oedd tafodieithoedd yn ymrannu'n ardaloedd ffocol, canolfannau o ddylanwad ar gyfer lledu nodweddion ieithyddol ac ardaloedd trawsnewid rhagddynt, sef ardaloedd yn rhannu nodweddion dwy neu ragor o ardaloedd ffocol cyfagos.

Nid ple yw hyn dros fynd yn ol i'r hen amser yn gymaint a rhyfeddu mor rymus o nobl y cerddodd y canrifoedd rhagddynt, a hynny heb un arlliw o dechnoleg ein blynyddoedd esmwyth ni.

Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.

Yn ychwanegol at y rhain ceid yr 'ysgolion paratoi', rhai ohonynt yn enwog ac yn dda, yn hyfforddi disgyblion ar gyfer mynd rhagddynt i dderbyn addysg uwchradd mewn coleg.

Roedd tri hyfforddai hanner ffordd trwy eu cyrsiau ar hyn o bryd, a bod y rheiny'n mynd rhagddynt yn dda.