Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhagorol

rhagorol

Yn ei lyfr rhagorol The Greening of America, dywed Charles Reich, Yn y sefyllfa argyfyngus sydd yng Nghymru y mae gweithredu effeithiol yn golygu gweithredu'n wleidyddol.

credai'r gweithgor fod yma ddeunyddiau rhagorol i'w defnyddio mewn ysgolion yn y dyfodol fel adnodd yn enghreifftio a safoni'r cwricwlwm cenedlaethol.

Roedd ganddo lais bariton rhagorol ac yr oedd wedi canu ar y radio yn Hong Kong fwy nag unwaith, ac efallai fod hynny wedi mynd i'w ben ef.

Yr oedd Penri, mae'n amlwg, yn tyfu'n ffigur a wnâi fasgot rhagorol i bleidwyr Datgysylltiad a chefnogwyr delfrydau rhyddid y Blaid Ryddfrydol!

Cynnwys lu mawr o gerddi rhagorol a erys yn eu blas tra pery'r iaith ac nid y rhan lleiaf pwysig o'r gyfrol, o ran glendid arddull a graenusrwydd cynnwys, yw'r Rhagymadrodd.

Maen nhw'n cydweithio'n rhagorol gyda'i gilydd ac, yn sicr, mae'r caneuon newydd (er nad yw pedair ohonyn nhw mor newydd â hynny erbyn hyn) yn dangos cryn aeddfedrwydd a rhyw fymryn o newid mewn naws.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Ni wyddai Miss Hughes ond y nesaf peth i ddim am y busnes, ac ofnwn pan fu farw Abel na wyddai hi ond ychydig am ei amgylchiadau; ac eto yr oedd hi'n fenyw dda ac yn llenwi'r cylch y galwyd hi iddo yn rhagorol.

Is-bwyllgor Celf a Chrefft (Averill Thomas): Diolchodd Mrs Thomas i aelodau'r is-bwyllgor am y gwaith rhagorol a wnaethpwyd ar gyfer yr arddangosfa yng Nglynllifon.

yn wenithfaen i gyd gan fod yn ei gyfansoddiad cymysg Iechfaen gwyrdd o ansawdd rhagorol -y 'greens', fel y'i gelwir--a hollt 'fel sidan' ynddynt.

Hynny yw; yr oedd yna gnwd allweddol o actorion amatur hynod o dda yng Nghymru gyda'r diweddar Guto Roberts, Elen Roger Jones a Charles Williams, maen debyg, ymhlith y mwyaf rhagorol ohonyn nhw.

Cofiaf iddo drefnu cystadleuaeth hynod : lwyddiannus ar fferm Fronalchen a chafwyd ymateb rhagorol - gan yr aelodau.

Chwaraeodd y Sarnau ran bwysig ym myd y ddrama ac roedd Mrs Nancy Pritchard yn ysgrifennu dramâu rhagorol ar gyfer yr aelodau.

GO Williams yntau, mewn anerchiad rhagorol iawn, mai fel unigolyn yr oedd yno, yn mynegi ei argyhoeddiad personol ef ei hun.

Dathlodd Station Road ei phen-blwydd cyntaf gyda ffigurau gwrando rhagorol - mae ymron i 90,000 o bobl yn gwrandon rheolaidd ar yr hanesion diweddaraf yn nhref ddychmygol Bryncoed.

Roedd Sant Mihangel yn goleg rhagorol o dda ac rydw i wedi bod yn meddwl sawl tro pam y gadawyd ysbrydegaeth allan o'i gwricwlwm.

Mae'r RSPB wedi cynhyrchu llawer iawn o ddeunydd rhagorol ar y pwnc hwn mewn cyswllt â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae cyfran ohono wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Cyfarfyddai'r teulu ysbardunog wrth y Plas, ac ymddangosai pawb mewn ysbryd uchel a rhagorol, a hynod chwannog i'r helfa.

Er ei fychander, mae ef yn gefnwr rhagorol ar wahân i'w gicio - deil y ciciau uchel yn ddi-feth, a rhed yn gyflym a threiddgar pan fydd yn gwrthymosod.

Wrth gadarnhau'r penodiad teimlad unfrydol y Pwyllgor Gwaith oedd fod swyddog rhagorol wedi cael ei benodi ar delerau rhesymol dros ben.

Dylid pwysleio'r ffaith bod llawer o waith rhagorol yn cael ei wneud ym maes dysgu plant dan bump yn ysgolion Cymru ac mae angen cydategu'r arferion da presennol.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.

Y mae'r Beibl Cymraeg yn gyfieithiad rhagorol a cheir clasuron diwinyddol a defosiynol yn yr iaith.

Y mae'n ddi-os i Morgan weld yn y cyfieithiad hwn gychwyn rhagorol i'r dasg o gael fersiwn Cymraeg o'r Ysgrythurau seiliedig ar yr ieithoedd gwreiddiol.

'Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion y BBC ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol.

"Mi wn am westy rhagorol, lle bydd digon o groissants breuaf a mwyaf blasus y cyfandir ar gael!