Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhamantaidd

rhamantaidd

Er mai yn y blynyddoedd 1909 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.

Heblaw ei feirniadaeth gymdeithasol grafog, yr oedd ei ddadansoddiad o wendidau'r Bardd Newydd ac o natur arddulliol y beirdd rhamantaidd a ddaeth i ddisodli hwnnw yn dangos chwaeth datblygedig a chlust fain odiaeth.

Mae'r pentrefi'n amlwg yn amrywio o ran maint a staws - rhai gyda nifer o dai sylweddol, a gerddi, a llwybrau dymunol rhwng y coed ar y ffiniau - darlun chwedlonol a rhamantaidd o flaen fy llygaid - eraill yn fwy clod a diaddurn.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Nid yw'n mesur a phwyso'n hamddenol pwy oedd y bardd rhamantaidd cyntaf yn Ewrop - dim ond dweud yn awdurdodol mai Pantycelyn ydoedd, fel petai'n gwbl sicr o hynny.

'Roedd Cymru yn Gymry frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diwedd y ganrif flaenorol a degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Llew Jones yn cynnig portread rhamantaidd o dir a phobl y gorllewin.

Yn y ganrif ddiwethaf cododd y mudiad rhamantaidd ei chân gan glodfori y mynyddoedd ac unigeddau Cymru.

Ond mae'n rhaid cadw mewn cof bod y mudiad rhamantaidd yng Nghymru yn ffynnu ar adeg o newid chwyldroadol yn y gymdeithas, o ddiwydiannu cyflym, a symud poblogaeth, hagru'r tir, o newidiadau ym myd crefydd ac iaith.

Dyma gyfnod 'Cwlt y Cnawd'. 'Roedd y Mudiad Rhamantaidd yn awr yn ei anterth, a merched lledrithiol oedd merched y beirdd.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd rhyw fath o anterth ym 1910.

Er bod hadau'r Mudiad Rhamantaidd wedi eu plannu cyn troad y ganrif, dyma flaenffrwyth y Mudiad.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.

Yr ail oedd y mudiad rhamantaidd, gyda'i bwyslais ar amrywiaeth a theimlad yn hytrach nag ar unffurfiaeth a rheswm.

Mae'n wir, fel y dywedodd Dafydd Glyn Jones eto, fod holl 'elfennau confensiynol rhamant yng ngolygfa'r dianc i briodi, ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn gyfystyr a dweud mai dehongliad arferol y cyfnod rhamantaidd o'r nwyd ei hun sydd yma.

Yn ei awdl mae T. Llew Jones yn cynnig portread rhamantaidd o dir a phobl y gorllewin.

Nid yr elfennau hyn sy'n amlwg, ond yn hytrach barhad, ar newydd wedd a chydag angerdd newydd, o'r ysbryd Rhamantaidd hwnnw a oedd eisoes wedi chwythu'i blwc mewn gwledydd eraill.

Cerdd arall a berthynai i'r Mudiad Rhamantaidd oedd hon, ond un o gerdd gwannaf y mudiad ydoedd.

Buddugoliaeth fawr ac Eisteddfod gofiadwy i aelod arall o'r to ifanc o'r beirdd academaidd a rhamantaidd, pobl fel T. Gwynn Jones, R. Silyn Roberts, W. J. Gruffydd ac R. Williams Parry.

A chorfforwyd y brotest yn y Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth, celfyddyd a miwsig.

Yr oedd 'Y Bwthyn yng Nghanol y Wlad', wrth gwrs, yn sumbol rhyngwladol o'r dedwyddwch gwladaidd honedig y gwnaeth y Mudiad Rhamantaidd gymaint i'w boblogeiddio.

Nid heb achos y dywedir fod Thomas Jones Dinbych yn 'anwesu Dafydd ap Gwilym a Lancelot Andrews!' Y mae'r ffraethineb hefyd yn lleddfu rhywfaint ar rym y serch: nid y rhyferthwy o serch meddwol y canodd y beirdd rhamantaidd iddo sydd yma o gwbl.

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd syniadau Rhamantaidd am y Groegiaid yn dal mewn bri yn Lloegr, ond hyd y gellir gweld, go brin yr oedd y rhain wedi cyrraedd Cymru o gwbl.

Erbyn hyn, nid oes prinder beirniaid i dynnu sylw at y gwahaniaeth dolurus rhwng y delweddau rhamantaidd a'r realiti llwm a oedd ohoni fynychaf, yng Nghymru fel ymhob gwlad arall y rhamanteiddiwyd ei gwerin.

Fel 'na mae'r Cymry ar wasgar dal i goleddu rhyw syniada sentimental, rhamantaidd am yr hen wlad a hitha wedi newid allan o bob rheswm.