Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhamantau

rhamantau

Nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt droi at y Tristan en Prose, er bod fersiynau diweddar o Gylch y Fwlgat yn cyfuno'r Tristan hwnnw â hanes y greal,' ac ni adawodd rhamantau cynnar Be/ roul a Thomas' eu hôl ar chwedlau Cymraeg.

Gwyddai awdur Gereint ac Enid rywbeth am y ffordd hon o blethu hanesion a'u hystofi'n gyfrodedd gymhleth ac fe'i defnyddiodd yn effeithiol ac yn hollol ymwybodol, er heb holl gywreinrwydd ystyrlon rhamantau'r drydedd ganrif ar ddeg.

Yn y bôn, mae'n syndod cyn lleied o debygrwydd sydd rhwng Ystorya Trystan a'r rhamantau Ffrangeg, o ran y stori ei hun ac o ran naws.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Yn y gorffennol tueddwyd i ganolbwyntio ar y berthynas bosibl rhwng y prif ffynonellau hyn yn y Gymraeg a'r rhamantau Ffrangeg neu Eingl- Normaneg.

O'r amrywiaeth o destunau a gyfieithwyd yr oedd y rhamantau Arthuraidd, gan gynnwys chwedlau'r Greal, ymhlith y mwyaf poblogaidd.

Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.