Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhamantus

rhamantus

Mae un genre rhamantus arall wedi canolbwyntio ar dirluniau tywyll a phortreadau dosbarth gweithiol.

Ni ellir peidio â gweld condemniad diarbed y nofelydd o serch rhamantus ynddi.

Mam yn darllen cofiannau'r cewri Cymraeg a nofelau rhamantus Saesneg; minnau'n pori mewn meysydd gwleidyddol a stori%au byrion.

Nid Iolo oedd yr unig ysgolhaig yn y cyfnod hwnnw gyda dychymyg rhamantus oherwydd roedd hi'n ffasiynol i ddisgrifio ffosiliau megis y wystrysen Gryphaea fel 'ewin bawd y Diafol'.

Mae'n arwyddocaol fod y rhyfel yn cael ei gyflwyno mewn delweddau rhamantus o fyd natur: Fel llanw y mor...

'Roeddwn yn ifanc, 'roeddwn mewn cariad, ac yr oedd fy holl fryd, felly, ar fiwsig rhamantus megis eiddo Chopin a Schubert.

"Mae'n hawdd i chi, a chithau'n ifanc siarad yn rhamantus.

Dehongliad newydd a geir o natur y serch rhamantus.

Ond rhamantus ai peidio, 'rwyf wedi dal rhywbeth yn debyg hyd heddiw.

Nid breuddwydion rhamantus mo'r rhain ond gyda bwriad Cymdeithas Pêldroed Cymru i sefydlu Cynghrair Cenedlaethol maent bellach yn rhan o realiti.

Rydw i wedi gweld rhai tebyg ichi o'r blaen, yn llawn delfrydau a syniadau rhamantus, ond wyddoch chi beth, erbyn iddyn nhw gyrraedd y canol oed parchus, y nhw ydi'r bobl fwyaf crintachlyd y gwn i amdanyn nhw, ac mi werthen nhw eu ffermydd i ladron tase'r pris yn iawn." "Ac felly, rhag ofn mai yr un fath y byddaf innau, dyma fi'n gwneud penderfyniad ynglŷn â Maes y Carneddau tra ydw i'n dal yn ifanc.

Nid pruddglwyf rhamantus bellach, ond nodyn sinig o enau gŵr a welodd taw twyll ydoedd y cyfan o'i gylch.

Felly ar ddechrau'r nawdegau, bydd rhaid ailysgrifennu'r llyfrau gwyddonol a'r gwyddoniaduron i gywiro'r hen wybodaeth mai dim ond dwy ffurf grisialog sydd i garbon - y ffurf galed lachar, a llawn rhamant sef diemwnt, a ffurf lai rhamantus y powdwr du - graffit sydd hefyd yn fasnachol ddefnyddiol fel dargludydd trydan a gwres.

Cyhoeddir yr apêl ar adeg pan ddylsen ni i gyd fod mewn hwyliau rhamantus - ar drothwy Dydd Santes Dwynwen, a bydd Dydd Sant Ffolant yn dilyn ymhen ychydig.

Ond mawredd Pantycelyn, meddai, yw iddo allu ffrwyno'i ramantiaeth ac felly osgoi mynd i ormod rhysedd trwy alltudio'r rheswm o'i waith yn gyfan gwbl: 'Dechrau'n fardd rhamantus a wnaeth Pantycelyn, datblygu ei ramantiaeth a'i mynegi'n llawn, yna ei meistroli a thyfu i weledigaeth fwy.

Mae hyn yn peri peth syndod, oherwydd gallasai Parry-Williams fod wedi dod o hyd i lawer o syniadau yng ngwaith yr hen feirdd a oedd yn gyson â'i syniadau ef ei hunan - yr amheuaeth ynglŷn â materion crefyddol neu athronyddol, y weledigaeth lem o flinder y cyflwr dynol, a'r cariad tawer at ddyn a natur heb wneud delfryd rhamantus o'r naill na'r llall.

Yna allan ag ef i archwilio'r dref a'i hadnoddau, a synnu bod glan y mor mor atyniadol, bod y machlud mor ysblennydd, a'r tonnau bychain, anesmwyth yn sibrwd yn rhamantus wrtho.

Oherwydd hynny yr oedd yn farwaidd a sych, a rhaid oedd dyfod llif y mudiad rhamantus i dorri'r argaeau.

Yn wir, gellid disgwyl iddi ddod dan gyfaredd awyrgylch rhamantus y daith.