Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhegi

rhegi

"Paid rhegi,' atebodd Bethan.

Am to swear like a trooper cawn, yn gwbl gymeradwy, rhegi fel cath, paun, melin, tincer a cwrcyn ond nid rhegi fel llongwr na nafi.

Beth bynnag, yn swyddfa plaid genedlaethol yr Alban - yr SNP - yn y senedd yng Nghaeredin gosodwyd blwch rhegi gydag aelodau yn talu rhwng pump ac ugain ceiniog o ddirwy gan ddibynnu ar y rheg.

Eto i gyd yr oedd yn un o'r rhegwyr mwyaf a glywyd yn y chwarel erioed, ond rhaid dweud ar yr un gwynt na fyddai, yn ôl ei ymresymiad ei hun, byth yn rhegi.

Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol.

Dim byd yn anghyffredin yn hynny a synnwn i ddim clywed fod aelodau o Blaid Cymru yn rhegi hefyd.

Roedd y Cyrnol Thomas Horton ar fin rhegi.

Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.

Gofynnwyd iddo lawer gwaith, 'Pam mae'n rhaid i chi gael rhegi bob yn ail gair, Francis?' a'i ateb pendant fyddai, 'Fydda i byrh yn rhegi, tydi'r ddau air rydw' i'n eu hiwsio yn ddim ond gĻiriau llanw, tydy' nhw'n golygu dim, ac mae'r ddau i'w cael ble mynnoch chi yn y Beibl.'

Rhywsut fe deimlech yn euog o feiau'r byd, mai chwi oedd achosydd holl ruo a brefu a rhegi'r ffair.