Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhelyw

rhelyw

Peth arall a nodwedda y cymdeithasau hyn, a hon fel y rhelyw ohonynt, bod y cyfarfodydd yn hynod o rydd a theuluaidd.

Mae'r rhelyw o seicotherapwyr a seicdreiddwyr yn tueddu i droi at chwedloniaeth Groeg, ac at chwedlau Grimm, Aesop a hyd yn oed La Fontaine, er mwyn cael cyffelybiaethau i'w galluogi i geisio trafod a chyflwyno'r ffyrdd dyrys sydd gan bobl o ymwneud â hwy eu hunain ac â'i gilydd.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

Oherwydd mai canrif amaethyddol oedd yr unfed ganrif ar bymtheg i'r rhelyw o Gymry, yr oedd cysylltiad agos iawn rhwng dyn a'r ddaear.

Roedd prysurdeb cyffredinol ar y rhelyw o'r cychod drudfawr gydag ambell lanc ar ben y riging yn gosod golau neu erial.

Rwan i'r rhelyw ohonoch nad ydych yn sgiwyr, y peth cyntaf i ddysgu ydy sut i sgio ar sgis mewn siap swch aradr eira.

Tir hesb, anial ydy maes anfantais meddwl i'r rhelyw o feddygon, heb fawr o gyfle i wneud strôc nac i ymarfer yn breifat.

Rhaid cofio fod y rhelyw o'r rhain yn blant yr oedd ef wedi eu magu er pan oeddynt yn fach; daliai i'w hanwylo a'u cusanu fel pe baent yn fach o hyd.

Dyn tawel, swil yn y bôn, oedd Francis, yn troi yn ei gylch bychan ei hun, ond yn gwybod mwy am y byd mawr y tu allan na'r rhelyw o'i gwmpas.

Gan iddi flodeuo yn yr hydref, yn groes i'r rhelyw o goed eraill, mae ei ffrwythau hi yn llenwi yn y flwyddyn newydd.

Yn achos rhywun fel efo, genir profiadau nid yn noeth, megis, ond wedi eu hanner gwisgo mewn geiriau, eithr yn achos y rhelyw ohonom genir llawer profiad yn erthyl ac ni chaiff byth gerpyn geiriol yn ddiwyg.

Bydd y rhelyw o rhain yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, ac felly, yn haeddu cydymdeimlad a ddealltwriaeth.

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.