Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rheng

rheng

Naw i dri ar yr egwyl, a Gareth Edwards wedi cael ei rwystro rhag croesi am gais gan amddiffyn effeithiol rheng ôl Llanelli.

Mae'r ddau dîm wedi gwneud yn dda yn Ewrop, meddai Geraint Lewis, fydd yn chwarae yn rheng ôl Abertawe.

unwaith eto dydw i ddim credu fod y rheng ôl yn iawn a chan fod yr alban yn hen feistri ar gamochri yn y sgarmesi hyd y gwelaf i dim ond un o'r rheng ôl sy'n cael eu hystyried fel taclwr, mark perego.

Er ei fod yn y rheng ôl yn y sgrym, safai Gareth Llywelyn wrth ymyl Anthony Copsey yng nghanol y lein, ond y Sais a enillodd y gystadleuaeth honno o ryw ychydig.

Y gobaith yw bydd agwedd arloesol yr ardd at wyddor planhigion a garddwriaeth yn rhoi Cymru yn rheng flaen gerddi botaneg y byd.

ymhlith y blaenwyr mae un newid ym mhob rheng o'r sgrym ; daw ricky evans yn lle michael griffiths ar y pen rhydd dim lle felly i brian williams o gastell-nedd.

Un o'r rheini oedd Deiniol Jones, a chwaraeodd yn yr ail reng ar rheng ôl yn ystod y daith.

Sicrhaodd ein rheng flaen feistrolaeth lwyr ar reng flaen y gleision, a chan i Derek Quinnell ei hyrddio'i hunan o gwmpas y cae roedd gofyn cael dau neu dri i'w daclo a'i rwystro.

Am resyme sy ddim ond yn wybyddus i ddewiswyr Caerdydd, gadawyd y cryfa o'u rheng flaen, Mike Knill, allan o'r tîm; felly hefyd eu ciciwr gore, y Cymro o Lambed, John Davies, a oedd eisoes wedi torri'r record am sgori pwyntie i'r Clwb.

Mae Hywel Jenkins, chwaraewr rheng ôl Abertawe, wedii ddanfon adre o daith carfan ddatblygu Cymru yng Nghanada ar ôl bod allan yn yfed y noson cyn i'r tîm guro Tîm Canada A, 67 - 10.

Mae bechgyn fel Gareth Cooper, y mewnwr, Gavin Thomas yn y rheng ôl a hefyd mae Nathan Thomas ar y fainc gyda ni.

Hefyd yn ymuno â Glyn Ebwy mae dau chwaraewr rheng ôl Cross Keys, Will Thomas a Rhys Williams.

Yn wir yr oedd yn gymeriad anghyffredin yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod hwn, yn radical o'r rheng flaenaf ac yn sosialydd o'r un garfan a William Morris.